Diwrnod Athrawon y Byd: Proffesiwn cynnydd, cyflawniad a balchder

Students looking at a book

Nid oeddwn i erioed bwriadu mynd i ddysgu pan ddechreuais i ar fy siwrnai addysg uwch.  Astudiais Iaith Saesneg ac Ieitheg gyda gradd lai mewn Astudiaethau Addysg. I fod yn onest, dim ond yn ystod y diwrnod cofrestru y des i wybod am yr elfen astudiaethau addysg. Er gwaethaf hyn, roedd yn un o’r ychydig gyfleoedd ffodus a arweiniodd fi ar fy llwybr i ddod yn athro.

Fy mlas cyntaf ar addysgu

Yn ystod fy ngwyliau haf yn y brifysgol, cefais swydd yn dysgu Saesneg i grwpiau o fyfyrwyr o Sbaen Ffrainc a’r Eidal. Roedd hi’n swydd es amdani, nid am fy mod i am fod yn athro, ond am y gallwn i weithio yn yr awyr agored a mynd ar dripiau gyda’r myfyrwyr; yn hytrach na pharhau gyda fy swydd yn y ganolfan alwadau. Ond dyma ble y dechreuais i ddod i weld yr hwyl a’r her sy’n dod gyda bod yn athro.

Roeddwn i’n gweithio gyda’r nos yn paratoi dosbarthiadau a fyddai’n ennyn diddordeb y myfyrwyr, yn cyfuno fy angerdd am gerddoriaeth a drama gyda’r gweithgareddau gramadeg a gynlluniwyd ar gyfer y myfyrwyr. Fe wnaeth y boddhad o weld y gwersi yma yn cynorthwyo’r myfyrwyr yn ogystal â’r mwynhad yr oeddent yn ei gael o’r profiad, gadarnhau’r syniad y gallai dysgu, efallai, fod yn yrfa i mi yn y dyfodol.

Pan ddychwelais i’r Brifysgol ar ôl egwyl yr haf, dechreuais weithio’n rhan-amser yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn adloniant lleol, yr yrfa yr oedd gen i mewn golwg yn wreiddiol. Roedd y wefr o fod yn yr ystafell ddosbarth wedi aros gyda mi, ond roeddwn i o’r farn, ar ôl gwneud fy mhenderfyniad i astudio’r cwrs a wnes i, bod y posibilrwydd o fod yn athro wedi diflannu.

Gorffennais fy ngradd ac er bod gen i ryw fath o lwybr gyrfa wedi ei gynllunio o’m blaen, doeddwn i ddim yn siŵr pam yr oeddwn i am wneud y rôl yma. Roeddwn i wastad wedi teimlo y dylai gyrfa neu waith fod yn rhywbeth ag iddi ddiben buddiol, ac ar y pryd nid oedd fy swydd yn rhoi’r teimlad yma imi.

Fy nghyfeiriad newydd

Un noson, allan yn cerdded y ci drwy’r campws ym Mhrifysgol Plymouth ger fy llety, mi welais i noson agored ar gyfer y rhaglen TAR. Gydag anogaeth fy mhartner, mi es i mewn, eistedd yng nghefn yr awditoriwm a chlywed y newyddion yr oeddwn i wedi bod eisiau ei glywed. Doeddwn i ddim wedi methu fy nghyfle i ddysgu ac roedd modd imi ymuno â chwrs a fyddai’n gyfle imi gyflawni diben buddiol. Cofrestrais y noson honno a thri mis yn ddiweddarach dechreuais ar fy ngradd ôl-raddedig mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Er nad oeddwn i erioed wedi bwriadu mynd i ddysgu, dydw i ddim yn credu imi erioed ddeall na gweld y rheswm pam bod athrawon yn gwneud y swydd yn y lle cyntaf. Rydw i wedi treulio fy ngyrfa yn dysgu mewn ystod o sefydliadau a lleoliadau addysgol, gan gynnwys llochesau i’r digartref, carchardai, barics y fyddin, Colegau Addysg Bellach a nawr yma ym Mhrifysgol Glyndŵr. Ond ym mhob un o’r holl leoliadau yma, rydw i wedi gweld pobl yn cyflawni nodau personol nad oeddent erioed yn teimlo y byddent yn eu cyflawni. Rydw i wedi gweld myfyrwyr yn symud ymlaen o gael eu hallgau bron o addysg, i fod yn gweithio fel cynorthwywyr dysgu a staff cefnogi ar gyfer myfyrwyr gyda chefndiroedd tebyg. Ar sawl achlysur, rydw i hefyd wedi cael bod yn dyst i falchder teulu pan fo rhywun annwyl yn camu i fyny ar y llwyfan yn Neuadd William Aston a derbyn eu cymhwyster haeddiannol.

Addysg yn PGW

Mae addysgu’n ymwneud â sicrhau fod gan bawb y cyfle i ddangos eu gwerth a rhannu hyn gyda’r bobl sydd bwysicaf. Mae addysgu yn gyffrous ac mae’n her sy’n gwneud ichi feddwl ac ailfeddwl; peidio byth ag ailadrodd yr un syniadau drosodd a throson – yn hytrach, esblygu pob wythnos a dysgu ffyrdd newydd o fod yn well yn yr hyn rydych chi’n ei wneud.

Mae Prifysgol Wrecsam Glyndŵr yn lleoliad ble mae’r athrawon yn gwerthfawrogi’r syniadau hyn; gan sicrhau eu bod yn rhan annatod o bopeth a wnewch – sicrhau bod y dysgu yn berthnasol ar gyfer eich dyheadau a rhoi cyfle ichi gyrraedd eich nodau i’r dyfodol.

 

Yma yng Nglyndŵr rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Addysg. O weithio gyda phlant a theuluoedd, i anghenion dysgu ychwanegol, i gyrsiau addysg gynradd a mwy. Archwiliwch ein tudalennau cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig i ganfod yr un sy’n iawn i chi, er mwyn ichi fedru dechrau ar eich siwrnai addysgu. 

 

Ysgrifennwyd gan Julian Ayres, darlithydd Addysg.