DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD: EDRYCH AR ÔL EICH IECHYD MEDDWL YN Y CYFNOD CLO

Ar yr adegau gorau, gall mis Hydref arwyddo gostyngiad yn yr hwyliau ac egni wrth i’r nosweithiau gau amdanom ac wrth i’r diffyg golau haul achosi unrhyw beth o bwl ysgafn o’r felan aeafol i Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD).

Ychwanegwch gyfnodau symud lleol at hyn i bobl sydd eisoes wedi’i chael hi’n anodd ymdopi gyda chyfyngiadau Coronafeirws am fisoedd lawer, a buan iawn y gall pethau edrych yn llwm.

Yr allwedd i gadw eich iechyd meddwl mor gytbwys â phosib yw peidio â chanolbwyntio ar y pethau na fedrwch chi eu newid na’u gwneud, a chanolbwyntio’n hytrach ar yr hyn y medrwch:

Bwyd da

Efallai nad ydych chi’n teimlo fel bwyta, neu efallai eich bod chi’n teimlo fel bwyta sothach i’ch cysuro. Ni wnaiff rhyw ddantaith bach yn awr ac yn y man unrhyw niwed ichi, ond yn gyffredinol, dylech chi geisio bwyta mor iach â phosib. Mae bwyta diet cytbwys yn sicrhau fod gan eich corff yr hoff danwydd sydd ei angen arno i wneud yn siŵr eich bod yn gallu astudio, gweithio a chwarae, a’r holl faetholion sy’n angenrheidiol ar gyfer system imiwnedd iach i frwydro unrhyw salwch. Bydd gwneud hyn hefyd yn helpu i sefydlogi’ch tymer. 

Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi broblem gyda bwyd, ceisiwch gymorth gan BEAT.

Awyr iach

Mae’n gallu bwrw glaw cryn dipyn ym mis Hydref ac fe all y syniad o fynd allan fod yn annymunol, ond os medrwch chi orfodi eich hun, mi deimlwch yn well o wneud. Ymysg pethau i’w gwneud yn yr awyr agored mae cerdded, rhedeg, seiclo, mynd i barciau a mannau prydferth, gweld yr haul yn codi neu’n machlud, ffotograffiaeth, garddio neu gwrdd â ffrindiau.

Nature sunset

Ymarfer corff

Rydym ni’n cael gwneud ymarfer corff unwaith yn rhagor cyn belled â bod hynny o fewn ffiniau’r sir, felly mi fedrwch chi fynd i ddosbarthiadau mewn neuaddau pentref neu ddychwelyd i’r gampfa. Os oes angen ichi hunanynysu neu warchod eich hun mae digon o ddosbarthiadau ar gael ar-lein. Defnyddiwch yr amser y byddech chi wedi ei dreulio yn teithio i ddod o hyd i ddosbarth newydd llawn hwyl.

Gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau

Mae gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau mor dda o ran eich lles. Os ydych chi wedi bod wrthi’n brysur yn gofalu am eraill, mae’n bosib eich bod chi wedi anghofio beth sy’n rhoi boddhad ichi! Meddyliwch yn ôl at yr hyn yr oeddech chi’n ei fwynhau yn y gorffennol a rhowch dro arni - boed hynny’n chwarae offeryn cerdd, gwnïo, peintio, ysgrifennu neu waith coed. Os na fedrwch chi feddwl am rywbeth, beth am ddysgu rhywbeth Newydd? Rydym yn cynnig cyrsiau byrion, neu rhowch gynnig ar ddosbarth tiwtorial ar YouTube neu apiau fel Duolingo.

Cymdeithasu

Rydym ni’n greaduriaid cymdeithasol ac mae’r Coronafeirws wedi taro pawb yn ddrwg. Mae gweithio o’r cartref wedi dileu llawer o’r rhyngweithio oedd gennym ni gynt gyda chydweithwyr, ac mewn ardaloedd ble mae cyfyngiadau lleol nid ydym ni’n cael mynd i dai ein gilydd na mynd allan am goffi. Nid yw dal i fyny ar Zoom yn apelio rhywsut ar ôl ichi fod yn gweithio ar sgrin drwy’r dydd, a does fawr o apêl mewn eistedd mewn gardd wlyb. Buan iawn y gallwch chi ddechrau teimlo’n unig.

Y cyfan ddyweda i yw, wedi imi wneud yr ymdrech i siarad gyda chymydog dros wal, ffonio ffrind neu siarad gyda chydweithiwr dros Teams, neu gael paned o goffi gyda ffrind yn yr ardd dan ymbarél, mae’r hwyliau wedi codi’n sylweddol. Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn ein hannog ni gyd i gael Te a Sgwrs i ddathlu eu pen-blwydd yn 11 mlwydd oed.

Alcohol

Gweithio o’r cartref, bod ar ffyrlo, cael eich diswyddo, addysg yn y cartref, llai o gymdeithasu, gweld eisiau ffrindiau a theulu, straen. Mae’r rhain i gyd yn rhesymau i daro’r botel, a phwy all feio’r un ohonom ni?! Ond tra bo alcohol yn gwneud inni deimlo’n dda am gyfnod, mae’n arwain at leihau ansawdd y cwsg a gewch gan eich gadael yn llai abl i ddelio â heriau bywyd. Yn y pen draw, iselydd yw alcohol, felly dylai unrhyw un sydd yn teimlo’n isel gadw’n glir ohono. Haws dweud na gwneud o ran osgoi temtasiwn, felly beth am roi cynnig ar fis o seibiant i godi arian at achos da? Bydd Sober October yn gyfle ichi roi gorffwys i’ch arferion yfed a dod i ddeall beth sy’n eu sbarduno.

Cymorth

Mae’n bwysig nodi, ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl sydd wedi’u diagnosio neu sydd heb gael diagnosis hyd yma, mai dim ond rhan o’u rheoli yw hunanofal. Os yw eich cyflwr cyfredol wedi gwaethygu, neu os ydych yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl newydd, mae’n hanfodol eich bod yn gweld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd.

 

Ysgrifennwyd gan Laura Edwards. Gwnaeth Laura raddio o Brifysgol Hull ac mae hi wedi treulio 19 mlynedd yn gweithio ym maes newyddiadura a chysylltiadau cyhoeddus.