Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: Myfyrio, dweud diolch, a hel atgofion

nurse wearing a mask

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn ddiwrnod y mae Angela Williams, Uwch-ddarlithydd Nyrsio a chydweithwyr addysgwyr nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ei gydnabod yn flynyddol. Mae dyddiad Mai 12fed yn nodi penblwydd genedigaeth Florence Nightingale. Mae’n achlysur y mae’r tîm yn ei goffau, gan ddefnyddio’r diwrnod i ganmol llwyddiannau’r proffesiwn nyrsio.

Eleni enw thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yw: Llais i Arwain – Gweledigaetlh ar gyfer gofal iechyd i’r dyfodol. Rydym yn llawn ymwybodol tros y flwyddyn aeth heibio o’r effaith, y gwaith caled a’r ymrodiad y mae nyrsys ar draws y byd wedi ei roi i’r proffesiwn yn ystod cyfnod heriol. Rydym yn ymwybodol hefyd ein bod wedi colli sawl cydweithiwr nyrsio cydwybodol a gweithgar a gaiff eu cofio am eu hymrodiad eithriadol i’r proffesiwn. Bydd yr hyn y mae pawb yn ei wneud, wedi gwneud a’i gyflawni ar draws y proffesiwn nyrsio yn cael effaith ar ddyfodol gofal iechyd.

Cafwyd sawl diwrnod o fyfyrio tros y 12 mis diwethaf, ac mae fy nghydweithwyr a minnau wedi edrych yn ôl a chofio’r adeg y dechraeom ninnau ar ein gyrfâu nyrsio, gan gynnwys y diwrnod yma pan fo’r ymrwymiad a’r angerdd dros nyrsio yn parhau’n gryf ynom. Y 12 mis diwethaf fu’r caletaf i lawer, gan gynnwys mi fy hunan.

Dyma ni nawr yn 2021 mewn man ble gallwn ni fod yn rhan o weledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd ym maes addysg nyrsio. Wrth inni ddathlu’r hyn ddaw i’r dyfodol, fe ddiolchwn i’r holl staff gofal iechyd a’r myfyrwyr nyrsio a weithiodd mor galed tros y flwyddyn ddiwethaf ym mhob cwr o’r byd. Bydd yr heriau y gwnaethoch chi eu hwynebu yn cael effaith ar eich gyrfaoedd nyrsio. Rydym yn falch o’r holl nyrsys dewr a thrugarog sydd wedi gweithio mor ddiflino o galed. Mae’r tîm am ddweud DIOLCH. Gadewch inni fod yn rhan o adeiladu gweledigaeth ar gyfer ein gofal iechyd i’r dyfodol drwy weithio gyda’n gilydd i greu gweithlu’r dyfodol. Rydym yn dîm cyfeillgar ym Mhrifysgol Glyndŵr ac yn falch o’n hymagwedd gyfeillgar, gefnogol a thrugarog tuag at addysg nyrsio.

Wrth iddi gael ei hanrhydeddu gyda theitl Nyrs y Frenhines dywed Chris O’Grady, Arweinydd Proffesiynol Nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Fel Nyrs y Frenhines, rydw i’r un mor angerddol dros nyrsio, hyfforddi ac ansawdd ag yr oeddwn i ar ddechrau fy ngyrfa ac mae’n fy ngwneud yn hynod falch o gael fy nghydnabod fel hyn”.

Mae hi’n parhau: “Mae hi’n gymaint o fraint gallu rhannu fy ngwybodaeth ac ymrwymiad i nyrsio drwy addysg nyrsio, yn enwedig ym Mhrifysgol Glyndŵr”.

Ychwanega Angela Williams, Uwch-ddarlithydd Nyrsio “Rydw i mor falch o fy ngyrfa sy’n ymestyn tros 39 o flynyddoedd mewn nyrsio ac addysg nyrsio. Rydw i’r un mor angerddol dros y proffesiwn ac yn parhau i fod mor falch o fod yn nyrs. Dyma’r union adeg i fuddsoddi yn y proffesiwn nyrsio drwy siapio’r dyfodol a chroesawu myfyrwyr newydd i nyrsio, gyrfa y byddant yn wirioneddol falch ohoni”.