DOD A'R GORAU ALLAN O'CH TÎM, O ADREF

Mae ‘Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith’ wedi cyrraedd ar adeg pan fo gweithio o adref yn drefn cyfarwydd i ran helaeth o’r boblogaeth sy’n gyflogedig; yr rheiny sydd wedi’u gwahanu o’u gweithle, eu cydweithwyr a’r drefn gwaith dyddiol arferol. Fel rheol, byddai’r wythnos hon yn gyfle i gyflogwyr ac i weithwyr ganolbwyntio ar ‘llesiant yn y gweithle’ a ‘balans bywyd a gwaith’ ac yn gyfle i gyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau i staff ac arddangos eu polisiau a’u hymarferion gweithio hyblyg. Mae rhain i gyd, fodd bynnag, eisoes wedi troi’n destun siarad ers rhai misoedd bellach, yn ffurfio rhan o’n bywyd gwaith newidiol yn sgil COVID19.

Yn ganlyniad i bwysau economaidd sy’n arwain at bwysau emosiynol gyda gweithwyr yn gwynebu colli’u swyddi, pryderon a thrafferthion ariannol a chadw yn saff ac yn iach, mae hi’n gyfnod arbenning sy’n gofyn am ffocws ar arweinyddiaeth. Mae gwarchod ac amddiffyn moral a chymhelliant eich tîm yn allweddol i atal dirywiad parhaus ac i ofalu am yr adferiad orau posib wedi cyfnod y Feirws.

Mae hwyluso’r naws o fod yn rhan o dîm ac o berthyn yn hynod bwysig ar adeg fel hyn, ynghyd a meithrin potensial a gwobrwyo cyrhaeddiadau. Dyma ambell awgrym ynglyn a sut medrwch chi lwyddo i wneud hynny:

Arwain eich tîm a’u helpu nhw i dyfu

Yn hytrach nag arwain eich tîm gyda’ch het rheolwr yn unig, drwy gyfnod o trawma fel hyn; annogwch dysgu a helpu drwy fuddsoddi yn eu gyrfaoedd a’u datblygiad proffesiynol. Cymrwch amser i adolygu uchelgeision gyrfa eich tîm a dangos eu gwerth i’r busnes ac fel unigolion. Annogwch nhw i droi eu ffocws ar llwyddo mewn rhwybeth fydd yn cyfrannu at eu datblygiad gyrfa, gyda nifer o gyfleoedd dysgu ar-lein, sy’n fforddadwy (ac weithau yn rhad ac am ddim) mae hyn yn gyfle gwych i wneud ‘dysgu’ yn flaenoriaeth unwaith eto.

Ystyriwch gysylltu aelodau’ch tîm gyda mentor (o fewn eich busnes neu allanol) fydd o bosib yn creu cyfle arall i ddysgu a datblygu; sydd yn werthfawr yn enwedig ar ddechrau gyrfa rhywun, ble mae ‘dysgu’ gan eraill tra’n gwneud y gwaith ei hun yn anodd i’w gyflawni ar yr adeg yma. Gall potensial ddioddef os nad all pobl gael mynediad i gydweithwyr fwy profiadol all rannu eu profiad a’u gwybodaeth a’u cadw nhw’n frwdfrydig yn eu gwaith.

Ysgogwch ac Ysbrydolwch

Gall ysgogi ac ysbrydoli eich tîm o bell brofi’n gymhleth ar adegau. Drwy annog a chynnal ‘gweithle rhithwir’, gallwch annog creadigrwydd ac ysgogi’r meddwl a syniadau. Bydd hyn yn ei dro yn chwarae rhan allweddol i gymell eich tîm ar yr adeg hwn. Ystyriwch ffyrdd newydd o annog syniadau a chyraedd cyrhaeddiadau, a gwobryo’r rhain drwy rannu’r llwyddiannau gyda’ch pobl a drwy sianeli’ch cyfryngau cymdeithasol.

‘Cyfnodau clonc’ Rhithwir

Ni ddylid gnweud i ffwrdd yn llawn gyda’r syniad o weithio mewn swyddfa er nad ydyn ni i gyd yn gweithio dan yr un to ar hyn o bryd. Drwy gyfleusterau fidio ar-lein, mae dod a pobl at ei gilydd ar gyfer paned a sgwrs wyneb yn wyneb ac nid yn unig at bwrpas busnes, neu thrafod syniadau dros ddiod bach diwedd dydd, yn profi yn fwy gynhyrchiol a phleserus gan atgoffa gweithwyr eu bod yn ran o dîm estynedig. Ystyriwch darparu cyfleoedd am rhyngweithiad rhithwir tra’n gweithio o bell, a lleihau’r ymdeimlad o unigrwydd o fewn y tîm.

Dysgu’r athro

Dilynwch eich cyngor eich hyn ac arwain drwy esiampl! Arhoswch yn ysbrydoledig ac ar flaen eich gem drwy edrych ar ein cyrsiau ‘Cymell ac Ymgysylltu Eich Tîm’ ac ‘Arweinwyr y Dyfodol’, sydd yn cael eu cynnal fis Tachwedd 2020. Bydd y cyrsiau hyn yn edrych ar ffyrdd i’ch galluogi chi i ddeall arweinyddiaeth gymhellol a sut i gynnal perthnasau gwaith hynod gynhyrchiol. Bydd rhain hefyd yn eich helpu chi i fagu hyder drwy ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n ofynnol gan arweinydd yng ngweithleoedd heddiw.


Ysgrifennwyd gan Ann Bell. Fe ymunodd Ann gyda'r Tim Menter yn ddiweddar fel Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog.