DYSGU - RHAN O'R 'NORMAL NEWYDD'

Ar draws y DU yr hydref hwn mae plant, athrawon, myfyrwyr a phobl academaidd o bob cwr o fywyd yn profi cyfnod o newid a sialensau newydd wrth ddod I arfer gyda ‘dysgu’ yn y ffordd ‘normal newydd’ – am ba bynnag hyd bydd hynny yn parhau.

Mae nifer ohonom wedi gorfod addasu ein ffordd o feddwl a byw dros y misoedd diwethaf, sydd yn ei dro wedi golygu ‘ail-feddwl’ ac ‘ail-osod’ o ran gyrfaoedd, bwriad a breuddwydion ynghyd â pherthnasau, ffyrdd o fyw a hobiau. Mae rhai wedi addasu at ‘normal newydd’ heb unrhyw drafferth; yn cydio yn y cyfle am newid a chyfarwyddiad ac yn tyfu drwy’r ffordd newydd o weithio o adref a’r balans rhwng y gwaith a’r byw, heb fod angen croesawy’n ôl hen ffyrdd, arferion a hen drefn. Mae eraill yn gweld colli’r hyn oedd yn gyfarwydd, y strwythr arferol, annogaeth ac arweiniaeth – yr wmff sydd yn helpu iddyn nhw godi o’r gwely yn y bore.

Un peth sy’n sicr, waeth beth yw eich rhagolwg ar fywyd ar hyn o bryd, a hynny yw fod dysgu ar gael i BAWB, rhywbeth sy’n elfennol ar gyfer nid yn unig tyfu a llesiant ond hefyd fel rhywbeth gallwn ni gyd ei ddefnyddio i newid pethau er y gwell – yn ein bywydau personol a proffesiynol ac ni ddylid esgeuluso ‘dysgu’ fel rhywbeth amhosib yn ystod y cyfnod hwn. Er bod y feirws yn pennu nifer o ffactorau bywyd ar hyn o’r bryd, mae cymryd rheolaeth dros ein dysgu ein hunain yn rhywbeth gallwn ni GYD ei wneud, ac os rhywbeth, gyda nifer o gyfleoedd dysgu fforddiadwy (ac weithiau AM DDIM) ar gael ar-lein gyda Prifysgol Glyndwr Wrecsam, mae’n haws nag erioed i chi ddysgu ac i astudio unrhyw bryd ac yn unrhywle!

Boed yn ‘Busnes fel yr arfer’, gweithio o adref, ar drefniant Furlough neu wedi colli’ch sgwydd yn sgil Covid19, mae nifer o gyfleoedd ar-lein inni gyd eu hystyried ac i droi ein ffocws at ddyfodol bosotif i ni’n hunain.

Beth sydd ar gael i'w ddysgu?

Hoffech chi ddysgu am rhywbeth bach yn wahanol i’r hyn ‘dych chi wedi ei arfer gydag ef? Beth am Troseddau a Throseddwyr Drwg-enwog? Neu efallai am fyd adar ym Mhrydain? CLICIWCH yma i weld mwy o’n cyrsiau ar-lein sy’n dechrau yn fuan.

Ystyried newid gyrfa neu eisiau newid maes gyda’ch sgiliau presennol? CLICIWCH yma I ddysgu mwy am ein cwrs Sgiliau Datblygu Gyrfa.

Ydi’r ffaith nad ydych efallai ddim angen teithio i’ch gwaith yn golygu fod gennych bach o amser yn eich diwrnod i roi ffocws ar eich datblygiad gyrfa? CLICIWCH yma i weld ein cyrsiau proffesiynol.

Ydych chi’n arwain tim yn ystod y cyfnod newidiol ansicr hwn? Cymerwch olwg ar ein cyrsiau busnes byr sy’n edrych ar Arweinyddiaeth a Chymhelliant a all ofalu bod y sgiliau gorau gennych chi i sicrhau canlyniad bositif. 

Am unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch a ni enterprise@glyndwr.ac.uk.

 

Ysgrifennwyd gan Ann Bell. Fe ymunodd Ann gyda'r Tim Menter yn ddiweddar fel Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog.