Effaith Line of Duty – Dilyn gyrfa mewn Gwyddor Fforensig

Line of Duty

Rhybudd Difetha: Line of Duty Cyfres 6

Mae miliynau ar draws y wlad wedi bod yn dilyn y teledu’n frwd pob nos Sul tros y chwe wythnos diwethaf am un rheswm ac un rheswm yn unig: Line of Duty. Gyda’i natur llawn cyffro o’r cychwyn cyntaf, troadau gafaelgar, sawl diweddglo difrifol sy’n eich gadael ar fin y dibyn, a rhestr hir o acronymau, mae’r sioe yn cyrraedd copaon poblogrwydd newydd y gwanwyn hwn. Er bod chweched gyfres sioe’r BBC yn tynnu at ei therfyn, mae’r sioe newydd sicrhau’r nifer fwyaf o wylwyr erioed mewn yn agos i ddegawd o’i hanes. Roedd oddeutu 11 miliwn o wylwyr yn gwylio’r bennod olaf ond un, sy’n cyfateb i 51.7% o gyfran y gynulleidfa. 

Ond pa debygrwydd sydd gan y sioe â realiti, a sut gall hyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr? Mae’r Uned Wrthlygredd enwog, AC12, yn gweithio ochr yn ochr â rhai o’r gweithwyr fforensig gorau yn y busnes i adnabod pwy, o blith eu llu eu hunain, sydd ddim yn cyflawni eu dyletswydd i lythyren y gyfraith.

Fe wnaethom ni ofyn i rai o’n harbenigwyr ni ein hunain am eu barn a’u mewnwelediad ar sut gall gwaith fforensig lywio’r golygfeydd tyngedfennol hynny a bortreadir yn y sioe. Isod mae’r Athro Neil Pickles, Deon Cysylltiol Materion Academaidd yn trafod sut y gwnaeth datguddiad diweddar yn y sioe alluogi’r Tîm Fforensig i ddod o hyd i hanes teuluol yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Joanne Davidson.

“Mae Line of Duty yn ymfalchïo yn eu defnydd o acronymau ac nid yw gwyddor fforensig yn wahanol yn hynny o beth. Mae dadansoddi DNA wedi chwyldroi sawl maes gwyddonol ac mae’r defnydd ohono mewn gwyddor fforensig yn gyffredin erbyn hyn. Mae adwaith cadwynol polymeras (PCR) yn caniatáu i nifer fechan iawn o DNA o unigolyn gael eu chwyddo i lefel ddefnyddiol ar gyfer technegau fel proffilio DNA. Mae’r gair ‘homosygotedd’ (hymozygosity) yn cael ei grybwyll yn y rhaglen ac mae’n bosib eich bod yn awyddus i wybod yr ystyr. Mae gennym ni 23 bâr o gromosomau, gydag un o bob pâr yn cael eu hetifeddu gan bob rhiant. Mae’r cromosomau hyn yn cynnwys DNA mewn unedau a elwir yn enynnau ar leoliadau penodol (sydd yn rheoli nodweddion fel lliw gwallt a llygaid). Mae yna wahanol fersiynau o’r genynnau yma a elwir yn alelau, ac rydych yn etifeddu alel gan bob rhiant. Ystyr ‘homosygotedd’ yw bod y ddau alel yn union yr un fath. Mae ‘heterosygotedd’ (heterozygosity) (dau alel gwahanol) yn fwy cyffredin mewn unigolion nad ydynt yn perthyn i’w gilydd. Mae lefel uchel o homosygotedd mewn unigolyn yn fwy tebygol os yw eu rhieni yn perthyn i’w gilydd, ac fe all hyn awgrymu bod mewnfridio wedi digwydd. Mae hyn hefyd yn cynyddu’r perygl o etifeddu afiechyd genetig.”

Yn ychwanegol i DNA, mae dadansoddiad fforensig mewn safle trosedd yn rhan annatod o’r golygfeydd cwestiynu dramatig yn y sioe, i ganfod unrhyw anghysonderau gyda’r gwirionedd.

Dywed Dr Jixin Yang, Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Ddadansoddol: “Ymatebodd Joanne Davidson i ormod o gwestiynau yn yr ystafell holi gyda “dim sylw” ond yn rhyfedd iawn, fe gyfaddefodd iddi saethu ei  chydweithiwr llwgr, Ryan Pilkington. Fodd bynnag, mae’n bosib nad oes tystiolaeth fforensig i gefnogi’r datganiad yma, a elwir yn ddadansoddiad gweddillion ergyd gwn (GSR). Yn gyntaf, y tu mewn i fwled mae’n rhaid cael tanwydd ar ffurf deunyddiau penodol (powdr gwn). Pan fo’r gwn yn cael ei danio, bydd yn achosi adweithiau cemegol cyflym drwy brimydd. Mae’r hyn sy’n digwydd y tu fewn i’r fwled yn debyg i ffrwydrad bychan, gyda’r egni sy’n cael ei gynhyrchu yn ddigon i wthio’r taflegryn yn ei flaen ar gyflymder tra uchel.  Mewn cyfnod mor fyr â hyn, fyddech chi ddim yn disgwyl i’r holl adweithiau fod yn gyflawn ac felly bydd digonedd o bowdr gwn heb ei losgi yn hedfan allan o’r porth alldaflu ac wrth gwrs yn disgyn ar law'r person daniodd yr arf. Mewn ymchwiliad fforensig o droseddau gwn, rhaid swabio dwylo’r person dan amheuaeth yn y gobaith o gasglu cymaint o ronynnau gweddillion gwn â phosib. Os yw’r person dan amheuaeth wedi golchi eu dwylo yn drwyadl i gael gwared ar unrhyw dystiolaeth, gallwch ddefnyddio eitemau eraill gerllaw megis dillad allanol. Wedi hyn, bydd sampl yn cael ei gyflwyno i offeryn arbennig a elwir yn ficrosgop electron sganio (SEM). Ar ôl adnabod y gronynnau yma dan chwyddiant mawr, mae synhwyrydd pelydr-X egni gwasgarol (EDX) yn yr SEM yn cael ei ddefnyddio i gynnal dadansoddiad elfennaidd arnynt. Os ydych yn gallu adnabod tair elfen allweddol: plwm, antimoni, a bariwm, sydd fel rheol yn bresennol mewn powdr gwn ond nid unrhyw le arall, bydd yn cyfateb yn gadarnhaol. Yn ôl at y sioe, yn ystod y cwestiynu fe gyfeiriodd Patricia Carmichael at dystiolaeth. Os yw’r arbenigwyr fforensig wedi swabio dwylo Jo Davidson a Ditectif Arolygydd Kate Fleming a’r ardal o’u hamgylch, ni fyddai’n ormod o dasg canfod pwy yn union daniodd y gwn. Mae hyn yn dangos sut mae gwyddoniaeth ddadansoddol yn chwarae rôl bwysig y tu ôl i’r llen mewn cymaint o ymholiadau fforensig.”

Tra bo miliynau yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddiweddglo’r sioe y penwythnos hwn, mae’n bosib y caiff y rhaglen effaith hirdymor ar ddarpar wyddonwyr y dyfodol.

Mae ein cwrs Bsc (Anrh) Gwyddor Fforensig wedi ei ddylunio i sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth fanwl o ddisgyblaethau gwyddonol a’u paratoi ar gyfer gyrfa o ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno tystiolaeth ac arbenigedd ar draws ystod eang o droseddau.

Nid yn unig hyn, ond mae ein maes pwnc Gwyddor Fforensig ac Archeolegol ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol, ac yn 2il yn y DU am foddhad gyda’r addysgu. (dadansoddiad PGW o ddata Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020 nas cyhoeddwyd).