Ewros Merched 2022: Yn gyrru newid cadarnhaol ar gyfer menywod mewn chwaraeon

Heb os, bydd dychweliad hir-ddisgwyliedig Pencampwriaeth Ewropeaidd y Merched, a ohiriwyd yn 2021 oherwydd y pandemig, yn ddigwyddiad enfawr yn y calendr chwaraeon. Gyda’r diddordeb mewn pêl-droed merched wedi cynyddu’n sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf, mae min cyffrous ychwanegol i’r bencampwriaeth eleni gan y bydd yn cael ei chynnal yn Lloegr. Mi fydd yn gyfle gwych i chwaraewyr ifanc uchelgeisiol wylio eu harwyr ar y cae, yn ysbrydoli selogion ar draws y Deyrnas Unedig.

Cefndir

Bydd buddugoliaeth diweddar y Llewesau o 5-1 dros y pencampwyr bryd hynny, sef Yr Iseldiroedd, yn hwb i’w hyder wrth agosáu at ddechrau’r bencampwriaeth. Bydd y pwysau, fel y mae bob amser, yn parhau i fod yn uchel ar y Llewesau i gyflawni perfformiadau cryf, ond nid yw tirwedd ac ysbryd cystadleuol pêl-droed Ewropeaidd merched erioed wedi bod mor ffyrnig. Yn ystod y cwpan y byd diwethaf, roedd saith allan o’r wyth tîm gyrhaeddodd y rowndiau gogynderfynol yn dimoedd Ewropeaidd.

Dadansoddiad

Fel fi, rwy’n siŵr eich bod yn edrych ymlaen at weld sut olwg fydd ar y timoedd yn dactegol o’u gosod yn erbyn ei gilydd, sut bydd gwahanol batrymau chwarae yn dod i’r amlwg, a beth mae timoedd yn ei wneud i ddileu eu gwrthwynebwyr. Bydd Lloegr yn awyddus i ennill eu grŵp, o ystyried iddyn nhw gael eu cnocio allan yn ystod y cymalau grŵp y tro diwethaf i’r Ewros ddod i Loegr. Y tro yma, mae’n debyg mai Lloegr fydd y ffefryn yn y cymalau grŵp, ond fe allan nhw fynd i drybini yn ystod cymal dilynol y twrnamaint. Os yw Lloegr yn ennill eu grŵp, mi fyddan nhw’n chwarae pwy bynnag sy’n gorffen yn ail yng Ngrŵp B. Mae llawer yn rhagweld y gallai hyn fod naill ai’n Sbaen neu’r Almaen, gyda’r ddwy wlad yn wrthwynebwyr caled iawn yn eu rhinwedd eu hun. Er bod y wlad letyol yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer y twrnamaint, collodd Lloegr sawl cyfle i chwarae gemau, ac fe’i rhwystrwyd gan Covid rhag trefnu gemau cyfeillgar o safon wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y twrnamaint, a allai hyn felly effeithio ar eu perfformiad?

Pwy yw'r ffefrynnau?

Ynghyd â Lloegr, mae llawer yn cadw llygad ar Sbaen fel y ffefryn. Gyda llwyddiant mawr iawn yn Barcelona, a nifer fawr o dîm Sbaen yn dod o’r clwb hwnnw, mae llawer yn credu y bydd llwyddiant y clwb yn cael effaith gadarnhaol ar ymdrechion y tîm cenedlaethol. Ydyn, mae llawer o chwaraewyr Barcelona yn aelodau o’r tîm cenedlaethol, ond yn y pen draw, nid yr un peth ydyn nhw. Mi fydd hi’n ddiddorol gweld sut mae effaith llwyddiant y clwb yn trosi i’r tîm cenedlaethol. Ffefryn amlwg arall wrth gwrs fydd Yr Almaen. Maen nhw wedi ennill y bencampwriaeth wyth gwaith, gan gynnwys pum gwaith yn olynol, felly sut fedran nhw ddim bod yn ffefryn? Gyda chwaraewyr fel Oberdorf, Schuller a Buhl, mi fyddan nhw’n sicr yn rym i’w cyfri. Bydd y deiliaid presennol, yr Iseldiroedd, yn cychwyn eu twrnamaint cyntaf heb eu rheolwr cadarn, Sarina Wiegman, a ddaeth yn rheolwr Lloegr nol ym mis Medi. Diddorol fydd gweld sut ac os fydd y newid personél yma yn effeithio ar lwyddiant Yr Iseldiroedd yn y twrnamaint.

Merched mewn chwaraeon

Waeth beth fo’r canlyniadau o fewn y twrnamaint, bydd y diddordeb cynyddol mewn chwaraeon merched yn parhau i ysgogi newid ar y maes chwarae ac o fewn Cymdeithas. Bydd y ffaith bod y twrnamaint ar dir cartref yn gyfle i welyo pêl-droed merched a’r diddordeb mewn pêl-droed merched i gymunedau ar draws y DU. Mae chwaraeon merched yn rhywbeth rwy’n angerddol iawn amdano. Mae cyfranogiad merched o fewn pêl-droed, ar y cae ac oddi arno, yn rhywbeth y byddwn ni, fel adran, yn parhau i’w gefnogi a helpu i dyfu.

Astudio yn PGW

Mae ein gradd israddedig Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad, yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i ddod yn ymarferwyr yn y gêm. Caiff myfyrwyr fynediad i Dystysgrif C Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Thrwydded B UEFA uchel ei barch, fel rhan o’r rhaglen radd. Mae’n gyfle gwych i ennill y cymwysterau yma y mae galw mawr amdanynt, a bod yn asiant dros newid ym myd chwaraeon.


Ysgrifennwyd gan Sara Hilton, Uwch-ddarlithydd mewn Hyfforddi Pêl-droed ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.