Newidiodd Prifysgol Glyndwr Wrecsam Fy Mywyd

Ers pan oeddwn i'n ferch fach, roedd gen i ddiddordeb mewn darllen am y modd roedd troseddau'n cael eu datrys ac hefyd gwerth tystiolaeth yn y llys. Yn bersonol, nid oedd gennyf yr hyder i ymgeisio am brifysgol tan oeddwn yn hŷn, ond hoffwn wedi ei wneud yn gynt nawr. Yn ogystal â mwynhau dros ben pob agwedd o’m astudiaethau, mae wedi agor drysau i mi na wnes i erioed freuddwydio’n bosibl.

Graddiais gyda Baglor Gwyddoniaeth (Anrh) mewn Gwyddoniaeth Fforensig yn 2018. Roedd yn gyflawniad ymhell o'm breuddwydion gwylltaf. Ar adegau, ni allaf gredu fy mod yn wyddonydd. Roedd yn anodd weithiau ond dyna lle y dysgais fwyaf amdanaf fy hun. Cefais yr holl wybodaeth hyn o hunan-astudio yn ogystal a’m grâdd a phenderfynais yr hoffwn roi hyn i eraill. Felly, gyda chefnogaeth arweinydd fy rhaglen, gwnes gais i raglen TAR y brifysgol gyda'r bwriad i ddod yn athro ôl-orfodol yn fy mhwnc. Yn ystod yr amser hwn, wrth astudio ar gyfer gradd amser llawn, cwblheais 100 awr o hyfforddiant athrawon ar y radd Gwyddoniaeth Fforensig, sef yr hon graddiais ynddo y flywddyn flaenorol. Teimlodd hyn fel anrhydedd o'r fath i mi ac helpodd yn fawr i gynyddu fy hyder. Hefyd, fe roddodd y gred i mi fod gen i'r wybodaeth a'r rhinweddau i ddod yn athro gwyddoniaeth. Cyflwynais weithdai olion bysedd mewn ysgolion lleol, hwylusais ferched o bob rhan o Ogledd Cymru mewn gweithdai ‘STEM’ ar y campws a hwylusais gweithdai anthropoleg at y digwyddiad gwyddonol 'Big Bang' yn Venue Cymru. Yn ogystal, dysgais ar y modiwl Ymchwilio Mannau Trosedd lefel 4 ac arwainiais y modiwlau Anatomi a Phatholeg ac Archwiliad Fforensig Gweddillion Dynol lefel 5.

O fewn tri mis o raddio fel athro, cefais fy nghyflogi fel darlithydd sesiynol gan Brifysgol Glyndŵr lle deuthum yn ddarlithydd arweiniol ar y modiwl Ymchwilio Mannau Trosedd. Tra bod y brifysgol ar gau oherwydd y pandemig, rwyf wedi derbyn contract i gyflwyno cynnwys ar-lein i fyfyrwyr Gwyddoniaeth Fforensig ar ‘Patholeg Fforensig’, ‘Awtopsiau’ a ‘Thrawma’. Mae gen i obaith y bydd fy ngyrfa addysgu yn blodeuo unwaith eto pan godir y cyfyngiadau presennol.

Rhoddodd hyn i gyd yr hyder i mi wneud cais am radd Meistr mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg, y byddaf yn graddio ohoni ar ddiwedd y flwyddyn. Heb imi wneud y cam cyntaf hwnnw i geisio gradd Gwyddoniaeth Fforensig yn 2015, ni fyddai ddim o hyn wedi bod yn bosibl. Erbyn hyn, rydw i'n athro a gwyddonydd hyderus ag egnïol, gyda chymaint o ddrysau'n agor i mi oherwydd fy mod yn fenyw a benderfynodd gymryd siawns ar wyddoniaeth a dilyn fy mhasiwn. Rwan mae mwy o gyfle a chefnogaeth nag erioed i wneud cais i brifysgol gyda chyllid, mentora a llefydd blwyddyn sylfaen gwych. Rwyn ei argymell i unrhyw un. Mae'r siwrnai rydw i wedi'i chymryd wedi newid fy mywyd.

Dysgwch fwy am stori Emma yn y fideo isod a sut y trodd ei bywyd o gwmpas i ddod yn Enillydd Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant!

 

Ysgrifennwyd gan Emma Williams. Yn ei amser hamdden, mae Emma hefyd yn Gynorthwywr Marwdy wirfoddol.