Grymuso eraill drwy ddod yn therapydd lleferydd ac iaith

Yng ngoleuni’r newyddion diweddaraf bod cynnydd dramatig wedi bod mewn cyfeiriadau i wasanaethau Lleferydd ac Iaith, rydym yn sgwrsio gyda Lauren Salisbury, ein darlithydd Lleferydd ac Iaith am ei barn hi ar y sefyllfa. Mae Lauren yn myfyrio ar pam mae hyn wedi digwydd a sut y gallwch chi astudio tuag at radd a all wneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn ymateb i angen sy’n tyfu o hyd.

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn cefnogi pobl o bob oedran ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Yn ddiweddar, gwelwyd cynnydd yn nifer y cyfeiriadau i wasanaethau Therapydd Lleferydd ac Iaith ac felly mae’r baich achosion yn tyfu. Mae’r cyfryngau yn adrodd i’r cyfnod clo fod yn ffactor a gyfrannodd at y cynnydd cyflym yn yr angen am gefnogaeth therapi lleferydd ac iaith ar gyfer plant.

Yn yr adroddiad diweddaraf yn y cyfryngau, roedd y dadansoddiad yn nodi:

“Bod nifer y plant pump a chwe blwydd oed sydd angen cefnogaeth lleferydd ac iaith yn yr ysgol wedi codi gan 10% yn Lloegr tros y flwyddyn ddiwethaf”. Dywed arbenigwyr bod y cynnydd “yn llawer mwy na mewn blynyddoedd blaenorol” a’i fod “yn rhannol oherwydd i’r cyfnod clo gyfyngu ar ryngweithio cymdeithasol”.

Mae’r cyfnod clo wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau ond hefyd mae galw presennol gan boblogaeth sy’n heneiddio ac sy’n byw’n hirach. Mae’r genhedlaeth hŷn angen cefnogaeth gwasanaethau Lleferydd ac Iaith ar gyfer diagnosis fel dementia, strôc, clefydau Parkinson a Niwronau Motor.

Ond beth mae therapyddion lleferydd ac iaith yn ei wneud?

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn darparu gwasanaethau hanfodol i unigolion o 0-1000+ mlwydd oed, sydd angen cefnogaeth gydag unrhyw agwedd o’u hanghenion cyfathrebu a/neu fwyta, yfed a llyncu. Mae yna brinder cenedlaethol o Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ac mae’n broffesiwn ‘mewn angen’ cydnabyddedig.

Mae ystod y cymorth y mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn ei gynnig yn golygu ei bod y rôl sydd yn rhoi llawer o foddhad, ac yn un hynod heriol ac amrywiol.

A ble mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn dod i mewn i hyn?

I baratoi ar gyfer y rôl hon, byddwn yn eich cefnogi chi drwy gydol eich astudiaethau ac i’ch gyrfa broffesiynol.

Mae ein gradd BSc (Anrh) Therapi Iaith a Lleferydd wedi ei chofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC) a’i hachredu gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT).

Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaglen “cyn cofrestru” gydnabyddedig, ac y byddech yn gallu gweithio fel Therapydd Lleferydd ac Iaith unwaith ichi gwblhau’n llwyddiannus y radd tair blynedd llawnamser. Mae’r radd yn rhoi sylw i amrywiol ddisgyblaethau sydd yn cyfrannu tuag at y sail gyflawn o wybodaeth a sgiliau sydd gan Therapydd Lleferydd ac Iaith. Mae yna hefyd leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol pob blwyddyn i ddod â’r holl theori yn fyw. Yn eich blwyddyn gyntaf o ymarfer, fel ymarferydd sydd newydd gymhwyso byddwch yn trafod llwyth achosion clinigol yn y GIG, gyda goruchwyliaeth agos ar ôl cael eich cefnogi gydol eich dysgu gyda ni.

Mae ein tîm rhaglen cwrs i gyd yn Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac yn teimlo’n angerddol am y fraint o addysgu a siapio’r genhedlaeth nesaf o gydweithwyr y dyfodol.