GWNEUD CAIS I BRIFYSGOL AR DDIWRNOD AGORED: PETHAU I'W COFIO

Open day campus tour

Gwneud cais i Brifysgol ar Ddiwrnod Agored: Pethau i’w Cofio

Mae llawer o bobl eisiau cwblhau cais prifysgol yn y fan a’r lle mewn diwrnod agored. Os ydi hyn yn swnio fel syniad da i chi, man gan ein Rheolwr Mynediadau Andy Philips ychydig o gyngor ar beth i’w gwneud o flaen llaw i hwyluso’r broses. 

Gwybod pa bwnc mae gennych ddiddordeb ynddi

Mae’n hollol arferol i ddod i ddiwrnod agored hefo sawl opsiwn rydych yn eu hystyried. Un o brif fanteision y diwrnod yw cael siarad hefo’r darlithwyr sydd yn dysgu’r cyrsiau i ganfod mwy amdanynt a gweld os ydynt yn addas i chi.

Mae eich diddordeb mewn chwaraeon i gwrs hyfforddi neu iechyd yn gymharol hawdd, ond efallai bydd yn ormod i wneud hyn oes gennych ddiddordeb mewn celf, peirianneg a gwyddoniaeth. Cymerwch olwg arall ar y cyrsiau yn u meysydd yna o flaen llaw, er mwyn i chi wybod beth i flaenoriaethu. 

Nodwch syniadau am beth i gynnwys yn eich datganiad personol

Os ydych eisiau gwneud cais ar y diwrnod, bydd angen ddatganiad personol arnoch ynghyd â’ch cais. Mae paratoi ychydig o syniadau am beth i gynnwys yn eich datganiad o flaen llaw yn rhoi rhywbeth i chi siarad amdano hefo ni ar y diwrnod. Byddwn yn eich helpu i fireinio’ch syniadau nes byddwch yn hapus i’w gynnwys yn eich cais. Beth am edrych ar ein cyngor ar ysgrifennu’ch datganiad personol?

Dewch â’ch CV, neu restr o gymwysterau

Bydd rhaid i chi gynnwys eich cymwysterau yn eich cais, a bydd rhestr glir ohonynt yn ein helpu ni a’r tiwtoriaid i roi gwell gyngor i chi ar y diwrnod. Efallai mai’r cymhwyster a gawsoch flynyddoedd yn ôl a bob tro yn anghofio i’w cynnwys mewn ceisiadau’n gwneud y gwahaniaeth rhwng cael cynnig lle’n uniongyrchol ar raglen gradd a gwneud blwyddyn sylfaenol.

Mae CV yn well oherwydd gall cynnwyd pethau fel y dyddiadau roeddech yn yr ysgol neu goleg sbario llawer o amser wrth lenwi ffurflen gais ar y diwrnod.

Ymgeisio am gwrs celf? Dewch â’ch esiamplau

Mae portffolio o’ch gwaith hyd yma’n rhan bwysig o gais ar gyfer cwrs celf a dylunio. Os oes gennych esiamplau o’ch gwaith, dewch â nhw hefo chi. Gall hyn eich sbario gorfod dod â’ch portffolio nes ymlaen yn y broses.

Ysgrifennwch i lawr unrhyw beth penodol rydych eisiau’i gwybod.

Mae’n hawdd anghofio cwestiwn rydych wirioneddol eisiau gwybod yr ateb iddi wrth geisio ffitio cymaint â phosib i mewn i’r diwrnod agored. Cofiwch ysgrifennu unrhyw gwestiynau i lawr i’ch annog ar y diwrnod. 

Cael rhywun i gytuno i fod yn ganolwr ichi a chael ei manylion

Bydd angen ichi chi gynnwys rhywun fel canolwr yn eich cais - rhywun galluog sydd yn barod i ysgrifennu ychydig amdanoch a’ch potensial fel myfyriwr (nid ffrind neu aelod teulu). Bydd yn rhaid iddyn nhw cytuno i wneud hyn drostoch cyn ichi gyflwyno’ch cais, felly gwnewch yn siwr eu bod nhw’n hapus ichi roi eu manylion cysylltu inni a dewch a’r manylion hefo chi ar y diwrnod.

Ac yn olaf, peidiwch â phoeni na chwblhewch chi’r cais ar y diwrnod!

Byddwn yn cymryd eich manylion cysylltu inni gysylltu hefo chi ar ôl y digwyddiad a gwneud yn siŵr fod pob dim yn iawn ac nad oes gennych unrhyw broblemau. 

Edrychwn ymlaen gwrdd â chi ar ein Diwrnod Agored nesaf!

 

Ysgrifennwyd gan Andy Phillips, Rheolwr Derbyniadau ac Ymchwilio ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.