LLYTHYR CARIAD AT Y GIG AR EI BEN-BLWYDD YN 73 OED

nurse wearing a mask

Mae’r GIG wedi bod yn rhan annatod o fy mywyd o’r diwrnod y cefais fy ngeni, hyd at fy newis gyrfa ym maes nyrsio. Rhan hardd, ac efallai’r mwyaf perthnasol oll o’r GIG yw’r gallu i gyffwrdd â bywydau pawb. O gael eich geni, i apwyntiadau Meddyg Teulu a phresgripsiynau, i ddamweiniau ac argyfyngau, hyd ar ofal diwedd oes. Mae pawb yn adnabod rhywun y mae’r GIG wedi eu cyffwrdd, arbed neu guradu’r gofal drostynt.

Maria Hinfelaar Rachel Luty 935

Ein Is-Ganghellor, Yr Athro Maria Hinfelaar yn cyflwyno Gwobr Ede & Ravenscroft i Rachel am Gyflawniad Academaidd mewn Astudiaethau Israddedig Lefel 4.

Mi fedraf ddweud yn onest na fedrwn i fod yn fwy balch o fod yn rhan o wasanaeth iechyd sydd mor unigryw, hygyrch, mawrfrydig a chyffredinol. Fe ddechreuodd popeth ar 5ed Gorffennaf 1948, wrth i Aneurin Bevan arloesi system ofal iechyd dibynadwy oedd yn caniatáu mynediad i bawb, waeth beth oedd eu dosbarth a chyfoeth. Roedd y GIG yn syniad chwyldroadol ac arloesol a gymerodd flynyddoedd o waith caled a phenderfyniad. Nid oedd gofal iechyd bellach yn wasanaeth detholus. Nid oedd y GIG yn gwahaniaethu yn erbyn dosbarth cymdeithasol na lliw croen. Roedd yn caniatáu i bawb flaenoriaethu ei hiechyd ac felly, 73 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae’n parhau i fod yn rhan annatod o’r hyn sy’n gwneud y Deyrnas Unedig mor unedig. 

Rachel Luty Cat Mandangu Lauren Nesbitt 935

Rachel gyda chyd-fyfyrwyr Cat Mandangu a Lauren Nesbitt ar eu lleoliad cyntaf yn ystod y pandemig.

Felly o waelod calon, pen-blwydd hapus iawn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, diolch am ddarparu swydd yr wyf yn ei charu, swydd ble rwyf yn gallu helpu pobl, swydd ble mae modd imi symud ymlaen ynddi, swydd ble rwyf yn gallu dysgu’n barhaus, swydd ble rwy’n gallu cwrdd â gwahanol bobl o bob haen o gymdeithas, swydd ble mae cyfle imi arallgyfeirio ynddi ac yn anad dim, swydd sydd yn hanfodol i gynnal momentwm a gwerthfawrogiad o’r adnodd gwych yr ydych chi. 

 

Ysgrifennwyd gan Rachel Luty, nyrs sydd newydd gymhwyso yn nhrydedd flwyddyn gradd BN (Anrh) Nyrs (Oedolion) Prifysgol Wrecsam Glyndwr.