MAE FY MA TROSEDDEG A CHYFIAWNDER TROSEDDOL WEDI FY NGALLUOGI I GEFNOGI DIODDEFWYR TRAIS DOMESTIG

Fi a fy rôl

Fy enw i yw Lisinayte Lopes,  ac rwy’n dod yn wreiddiol o Sao Tome a Principe. Rwy’n gweithio fel gweithiwr allgymorth gyda Bawso yng Ngogledd Cymru a’m rôl yw cefnogi dioddefwyr trais yn y cartref. Portiwgaleg yw fy mamiaith sy’n fy ngalluogi i estyn allan at gymaint o bobl o’r gymuned Portiwgeaidd sy’n byw ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â dioddefwyr o genhedloedd eraill. Yn fy rôl rwy’n cefnogi dioddefwyr, yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, cyngor a gwybodaeth. Mae hyn hefyd yn cynnwys dynion BME sy’n profi camdriniaeth ddomestig gan bartneriaid ac aelodau o’r teulu.

MA mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mi enillais i radd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhortiwgal ac ers mis Medi’r llynedd wedi gorffen fy ngradd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mi wnes i gwblhau fy ymchwil yn edrych ar Fasnachu Pobl yng Ngogledd Cymru. Roedd yr ymchwil yn archwilio mater masnachu pobl yng Ngogledd Cymru ac yn cynnig darlun eang o arferion cyfredol a ddefnyddir i gefnogi dioddefwyr ac i ennill gwell dealltwriaeth o’r canfyddiad o’r dioddefwyr a’r staff rheng-flaen sy’n gweithio gyda nhw.

Yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Glyndŵr fy mwriad oedd defnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig gyda gweithwyr cymorth yn BAWSO sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda dioddefwyr masnachu pobl a gyda Chomisiynydd Trosedd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru. Oherwydd Covid-19, bu rhaid imi newid y cynlluniau hynny. Roeddwn yn ymwybodol o’r pwysau aruthrol sydd ar staff rheng-flaen ar hyn o bryd oherwydd Covid-19. Ac felly, es ati i gwblhau adolygiad llenyddiaeth estynedig, a ddarparodd drafodaeth gynhwysfawr a beirniadol ar y testun.

Pwysigrwydd cydnabod masnachu mewn pobl

Dechreuais ymddiddori yn y pwnc am fod masnachu pobl yn broblem fyd-eang ac yn un o droseddau mwyaf cywilyddus ein byd, sydd yn effeithio bywydau miliynau o bobl o amgylch y byd ac yn eu hamddifadu o’u hurddas.

Mae masnachwyr yn twyllo menywod, dynion a phlant o bob cwr o’r byd ac yn eu gorfodi bob dydd i sefyllfaoedd ble rhywun yn manteisio arnynt. Mae pobl sydd yn cael eu masnachu yn cael eu hadnabod fel dioddefwyr trosedd ac felly’n derbyn y mesurau amddiffyniad a ddarperir dan y gyfraith. Mae’n cynyddu gallu’r heddlu i gasglu tystiolaeth mewn ymholiadau. Mae’n galluogi pobl sydd wedi eu masnachu i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u dyfodol.

Mae masnachu pobl yn ymyriad anferthol â hawliau dynol, am fod y troseddwyr yn dal person arall mewn caethiwed ac yn eu gorfodi i weithio heb iddynt fedru gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydym yn gyfrifol am gynnydd ein hil yn ei chyfanrwydd, a dylid dod â’r bobl hynny sy’n manteisio ar y rhai na allant ymladd yn ôl o flaen eu gwell.

Ymwybyddiaeth ac addysg yw’r allwedd i drechu masnachu pobl. Mae angen i bawb fod yn ymwybodol o arwyddion masnachu pobl, er enghraifft nifer fawr o bobl mewn man cyfyng, cyflogwyr yn dal dogfennau adnabod, amodau byw gwael, byw gyda chyflogwr, methu siarad ag unigolyn ar eu pen eu hunain, arwyddion o gam-drin corfforol, y dioddefwyr yn ymostyngol neu’n ofnus ac ati.

Mae masnachu pobl yn drosedd sydd yn ein cywilyddio ni i gyd.

Cymorth i Ddioddefwyr

Gall unrhyw ddioddefwr masnachu neu gaethwasiaeth gael help a chefnogaeth drwy’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NMR). Mae hon yn broses sydd yn adnabod dioddefwyr masnachu pobl neu gaethwasiaeth ac yn sicrhau eu bod yn derbyn yr amddiffyniad a’r cymorth cywir.

Dim ond wrth iddynt roi eu cydsyniad y gellir atgyfeirio dioddefwyr i’r NRM. Cysylltwch â’r Heddlu os yw dioddefwr am gael eu hatgyfeirio.

Os yw dioddefwyr yn dod i’r NRM, mae modd iddynt gael cymorth gyda:

  • Llety.
  • Costau byw.
  • Mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cyngor am faterion cyfreithiol a mewnfudo.

Os nad ydych am ddefnyddio’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol mae’n bosib y bydd cymorth ar gael drwy sefydliadau eraill. Os ydych dan 18 mlwydd oed, bydd Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig cymorth. 

Tysteb Glyndŵr

Mae’r gefnogaeth a gefais ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn ogystal a’r gallu i wneud fy astudiaethau ar-lein, wedi fy helpu i barhau gyda fy rôl gyda BAWSO. Rwy’n credu’n gryf mai addysg yw’r arf mwyaf grymusol yn y byd. Mae wedi agor drysau i mi. Mae fy astudiaethau cyfredol wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth a hyder ac yn fy helpu i chwalu rhwystrau.

Roeddwn i wrth fy modd yn astudio ym Mhrifysgol Glyndwr. Roedd gen i ddarlithwyr rhagorol ac roedd fy nhiwtoriaid yno i mi bob tro roeddwn i eu hangen. Roeddwn i’n fyfyriwr rhan-amser ac roedd y rhan fwyaf o’r gwaith yn digwydd ar-lein – cadwodd y brifysgol y prosesau yn syml ac effeithiol.

Gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglenni Israddedig neu Ol-raddedig Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.