MYFYRIWR ISRADDEDIG I PHD: STORI YSBRYDOLEDIG PAIGE O ASTUDIO GWYDDONIAETH

dusting for prints

Roedd dechrau gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) yn benderfyniad munud olaf i mi. Yn yr ysgol uwchradd, dywedwyd wrthyf y byddwn i’n methu fy arholiadau gwyddoniaeth. Roedd hyn yn gymaint o ergyd i’m hyder nes mi benderfynu nad astudio gwyddoniaeth oedd y llwybr iawn i mi mwyach. Yn lle gwneud gwyddoniaeth Lefel Ac fe es i’r coleg i astudio gofal plant. Penderfynais wneud cais i astudio cwrs prifysgol mewn nyrsio pediatrig. Roedd y broses ymgeisio ar gyfer nyrsio yn golygu bod rhaid sefyll profion Saesneg i leihau nifer yr ymgeiswyr o’r miloedd i lawr i ddim ond cwpl o gannoedd. Methais y profion. Roeddwn i bellach wedi derbyn pum gwrthodiad a dim cynllun eglur o’r hyn roeddwn i am ei wneud. 

Penderfynais roi un tro olaf i wyddoniaeth. Edrychais ar raddau Gwyddoniaeth Fforensig a gweld bod PGW yn gartref i un o’r ychydig ffermydd corff yn y DU. Hefyd roedd ganddynt lwybr blwyddyn sylfaen a fyddai’n caniatáu imi lenwi’r bylchau yn fy ngwybodaeth wyddonol yr oeddwn i wedi ei fethu ar Lefel A. Roeddwn i wastad wedi hoffi sioeau trosedd ar y teledu a heb os fy nghariad tuag at NCIS a Bones oedd un o’r rhesymau pam y penderfynais astudio Gwyddoniaeth Fforensig. Nid oedd hi’n hawdd setlo i mewn i fywyd prifysgol, ond erbyn fy ail flwyddyn, roedd popeth wedi dechrau syrthio i’w lle. Mi gefais i ddiagnosis dyslecsia a derbyn cymorth anhygoel gan fy narlithwyr a’r tîm cynhwysiant. Nawr roedd gen i’r gefnogaeth yr oeddwn i ei hangen, ac fe ddechreuodd fy ngraddau gynyddu.

Ar ddiwedd fy ail flwyddyn yn PGW, daeth y cyfle i ymweld ag America. Aethom ni ar daith trosedd gan ymweld â sawl amgueddfa, safleoedd coffa a charchar diogelwch eithaf. Fodd bynnag, y profiad mwyaf bythgofiadwy oedd y diwrnod dreulion ni ym Mhrifysgol Tennessee. Yn y bore, fe wnaethom ni ddysgu am ddadelfennu ac esgyrn a threulio’r prynwn yn un o’r ychydig gyfleuster ymchwil Taphonomi Dynol yn y byd. Dyma ble dechreuodd fy niddordeb mawr yn yr astudiaeth o Daphonomi Fforensig.

Ers y trip yma, mae llawer o’m hymchwil wedi canolbwyntio ar Daphonomi Fforensig. Roedd fy ymchwil traethawd hir yn edrych ar ba un ai a yw maint y corff dynol yn cael effaith ar gyfradd y dadelfennu. Es i ymlaen yn ddiweddarach i ennill dwy wobr; Clod Uchel yn y Gwobrau Byd-eang i Israddedigion, ble cafwyd tros 4,000 o gyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn 50 o wahanol wledydd, gan ei restru gyda’r 10% uchaf yng nghategori Gwyddor Bywyd; a’r Wobr Dewis y Cynrychiolwyr yng Nghynhadledd Haf Sefydliad Anthropoleg Fforensig Prydain.

Nawr rydw i’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf PhD ac yn gweithio fel darlithydd sesiynol yn dysgu ar y rhaglenni y bues i’n eu hastudio. Mae hyn yn dal i beri syndod i mi.  Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i ennill gradd, heb sôn am fynd ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig.

Rydw i nawr yn fodel rôl i fy nith, sydd yn ceisio ymdopi gydag anghenion dysgu ychwanegol, ac i’r bobl hynny y dywedwyd wrthynt y byddent yn methu ac nad oedd gwyddoniaeth neu’r Brifysgol ar eu cyfer nhw.

 

Ysgrifennwyd gan Paige Tynan, myfyriwr PhD Gwyddoniaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.