Nawr yw’r amser i ddysgu am Newid Hinsawdd

Mae’n hen bryd gweithredu dros newid hinsawdd

Mae uwchgynhadledd diweddar COP 26 wedi uno arweinyddion byd, gwyddonwyr amgylcheddol ac arbenigwyr newid hinsawdd o bob cwr o’r byd i ysbrydoli gweithredu a mynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd. Nod y gynhadledd, sydd i’w chynnal yn ninas Glasgow o 31ain Hydref hyd 12fed Tachwedd yw sicrhau dyfodol mwy disglair ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i wledydd ymrwymo i gyfres o gamau gweithredu i adfer, ailgodi ac adennill ein planed.  

Bydd 200 o wledydd yn dod ynghyd ar gyfer yr uwchgynhadledd, gan fanylu ar eu cynlluniau i dorri allyriadau erbyn 2030. Bydd hyn yn symud y sgwrs yn ei blaen o Gytundeb Paris yn 2015[1] – ble cytunodd gwledydd i gadw cynhesu byd-eang islaw 2 radd Celsius ac anelu at 1.5 gradd Celsius mewn ymdrech i osgoi trychineb hinsawdd.

Tra cafwyd pryderon ynghylch mesurau diogelwch COVID-19 yn yr uwchgynhadledd[2] gyda 25,000 o gynrychiolwyr i fynychu’r digwyddiad yn yr Alban, mae trefnwyr y digwyddiad ac Arlywydd COP am dawelu meddyliau cynrychiolwyr a’r cyhoedd bod mesurau a phrotocolau diogelwch cadarn wedi eu sefydlu i liniaru’r risg gymaint â phosib.

[1] https://www.bbc.co.uk/news/science-environment-35073297

[2] https://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-59027744

Ond beth yn union fydd y drafodaeth yn yr uwchgynhadledd a sut allai hyn effeithio arnoch chi?  

Tra bo rhai gwledydd wedi rhannu cynlluniau cyn yr uwchgynhadledd, bydd penderfyniadau eraill yn cael eu gwneud yn ystod yr uwchgynhadledd deuddeg diwrnod, megis dyfodol y diwydiant cynhyrchu ceir trydan, cyflymu’r broses o roi’r gorau i ddefnyddio pŵer glo a lleihau nifer y coed rydym yn eu torri i lawr.

Mae’n bosib y gallai canlyniadau’r uwchgynhadledd gael effaith ar ein bywyd pob dydd i’r dyfodol, ac fe allent hefyd gael effaith ar ymddygiad unigolion mewn ymdrech i ddod yn ddefnyddwyr mwy cynaliadwy. Ymysg yr enghreifftiau posib mae mynd ati i ynysu tai, newid i ddefnyddio cerbyd trydan, gwneud mwy o ddefnydd o gludiant cyhoeddus neu ddewis bod yn deithwyr mwy eco-ymwybodol. 

Gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn Glyndŵr

Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae gennym ni ein harbenigwr gweithredu ar newid hinsawdd ein hunain, David Sprake. Mae David yn Arweinydd Rhaglen ar y BEng (Anrh) Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy gyda’r Brifysgol, ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad o waith ymchwil ac addysgu ar faterion megis newid hinsawdd.

Fel un sydd yn frwdfrydig dros gynaliadwyedd, mae David yn awyddus i egluro sawl gwybodaeth anghywir a rennir – yn enwedig ar-lein – ynghylch newid hinsawdd. Oherwydd hyn, mae David wedi llunio cwrs byr newydd sbon, ‘Cyflwyniad i Newid Hinsawdd’. Bydd y cwrs, sydd i ddechrau ar 11eg Tachwedd, yn cael ei gyflwyno ar draws chwe wythnos, ar-lein a wyneb yn wyneb, ac mae’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb yr amgylchedd ac sydd yn awyddus i ddysgu mwy.

Bydd y cwrs yma yn cynnig trosolwg o’r problemau sy’n berthnasol i newid hinsawdd, yr achosion, a’r effaith mae’n ei chael ar y blaned. Gan gwmpasu’r wyddoniaeth tu ôl i gynhesu byd-eang, mynd i’r afael â damcaniaethau cynllwyn cyfredol, a dysgu mwy am sut gall ymddygiad bodau dynol gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd – heb os, bydd y cwrs yn fodd i unigolion ddod i wybod sut gallan nhw wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol. Ond nid yn unig hyn, bydd y cwrs yn caniatáu i’r cohort drafod digwyddiadau cyfoes sy’n dod yn fwyfwy amlwg, fel llifogydd a thannau gwyllt.

Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i ganiatáu 2 awr yr wythnos ar y campws ( neu drwy gyfrwng darlith wedi ei recordio) ac amser astudio hunangyfeiriedig i hyrwyddo’r dysgu a chynnig mynediad at adnoddau aml-gyfryngol. Cost y cwrs yw £95, ac mae modd canfod mwy o wybodaeth neu archebu lle nawr trwy ein gwefan.

Yn meddwl am wneud gradd?

Tra bod y cwrs byr Cyflwyniad i Newid Hinsawdd yn gyfle gwych i roi trosolwg cychwynnol o’r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu, mae gennym ni hefyd raglenni eraill (cymwysterau israddedig ac ôl-radd) a all gynnig gradd mewn Peirianneg i ddatblygu eich diddordeb a’ch arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau adnewyddadwy a chynaliadwy. Mae ein cwrs BEng (Anrh) Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf y mae dynolryw yn eu hwynebu heddiw; ynni fforddiadwy, newid hinsawdd, cynhesu byd-eang, a rheoli llygredd. Gyda blwyddyn sylfaen gychwynnol, mae’r cwrs yn gyfle gwych ar gyfer myfyrwyr sydd am fod ar flaen y gad ym maes peirianneg newydd, ac sydd am fod yn arloeswyr atebion tymor hir, cost-effeithiol.

Darllenwch mwy am y rhaglen Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am COP 26 a’r canlyniadau ewch i’r wefan swyddogol.

#TogetherForOurPlanet

 

Ysgrifennwyd gan Alice James, Swyddog Ymgysylltu â'r Gyfadran a Liason ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.