O HOLLYWOOD I WRECSAM: CYSYLLTIADAU SERENNOG WGU

Wrexham Football Club Stadium

Mae’n debyg bod ein prifysgol am gael cymydog newydd - wrth i Ryan Reynolds gael ei enwi fel prynwr posib ar gyfer ein clwb pêl droed, CPD Wrecsam - reit gerllaw ein campws.

Cadarnhawyd y seren Deadpool - a Rob McElhenney o It’s Always Sunny in Philadelphia - fel y ddau fuddsoddwr sydd â diddordeb yn y clwb, wrth i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam bleidleisio i barhau trafodaethau â’r darpar brynwr.

Er mor annisgwyl y newyddion, dydyn ni heb ein synnu cymaint â fyddwch chi’n meddwl. Cadarnhaodd Ryan ei hun hynny pan atebodd ddefnyddiwr Twitter a drydarodd ‘you never know when Ryan Reynolds is going to turn up in Wrexham’ - a pan mae’n dod, bydd yn profi croeso cynnes a thref sydd eisoes wedi croesawu pob math o wynebau enwog - gan gynnwys yma yn ein prifysgol.

Mae’n Ganghellor - Colin Jackson CBE - ymysg y wynebau cyfarwydd gallwch weld o gwmpas Glyndŵr - a gyda chefndir mewn chwaraeon a’r cyfryngau, rydyn yn siŵr buasai’n hapus i rannu awgrymiadau â Ryan!

Dechreuodd Colin ei siwrne Glyndŵr fel un o’n Cymrodoriaethau er Anrhydedd - a, fel fo, mae’n gymrodoriaethau yn enwog am eu sgiliau chwaraeon - megis Robbie Savage, Michael Owen ac Ian Rush - neu eu cysylltiadau i’r llwyfan a’r sgrin - megis Charlie Adlard, artist The Walking Dead a’r cyfarwyddwr ffilmiau Sara Sugarman.

Mae’n holl Gymrodoriaethau er Anrhydedd wedi ymddangos ar lwyfan Neuadd William Aston are ein campws Plas Coch fel rhan o’n Seremonïau Graddio - fel hefyd mae sêr comedi a cherddoriaeth.

Felly pan mae’n Gymrodoriaethau yn camu’r byrddau hyn, maent yn dilyn olion traed amryw of sêr sydd wedi perfformio yn y Neuadd - o enwau anfarwol comedi megis Jimmy Carr, Rhod Gilbert a Jason Manford i’n harwyr lleol enwog Neck Deep.

Mae’n fyfyrwyr wedi cael y cyfle i weithio â cherddorion proffesiynol fel rhan o’u gwaith cwrs diolch i’n cysylltiadau cryf gyda mudiadau lleol megis yr ŵyl flynyddol FOCUS Wales, gyda rhannau ohoni’n cymryd lle ar ein campws.
A thro bod digwyddiadau byw yn cymryd saib am y tro, mae’r gwaith hynny’n parhau - gyda chyfres o ddigwyddiadau Covid-ddiogel yn cael eu ffilmio yn ein stiwdios darlledu i helpu i gadw edmygwyr FOCUS Wales mewn cyswllt gyda’r diweddaraf mewn cerddoriaeth byw.

Ac nid yn unig ein myfyrwyr Cyfryngau Creadigol sy’n cael y cyfle i weithio gyda phobl broffesiynol o’r radd flaenaf - dros yr haf mae’n fyfyrwyr chwaraeon wedi clywed oddi wrth bobl flaengar y diwydiant megis dadansoddwr perfformiad i’r All Blacks, Jamie Hamilton, yn ogystal â staff o glybiau pêl droed Everton, Lerpwl a mwy.

Mae gan fyfyrwyr ar ein cwrs Hyfforddi Pêl droed a’r Arbenigwr Perfformiad cyswllt rheolaidd gyda CPD Wrecsam a’r Cae Ras - gyda myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni yng ngemau rhyngwladol Cymru yn ogystal â gemau CPD Wrecsam.

Felly fel dywedodd Mr Reynolds ei hun, ‘dach chi byth yn gwybod pwy wneith droi fyny yn Wrecsam.