PAM DEWIS CWRS BYR?

Students sitting in a workshop, hand modelling ceramics

Mae llawer o resymau dros astudio cwrs byr o ddysgu sgiliau newydd i gyfarfod â ffrindiau newydd. Ond oeddech chi’n gwybod ei fod hefyd yn gam gwych ymlaen i astudio pellach ar lefel gradd? Dyma ein prif resymau i ddewis cwrs byr.

Mae’n fyr

Ie, mae’r cliw yn yr enw! Mae’n cymryd ychydig wythnosau i gwblhau cyrsiau byrion yn unig, felly os nad oes gennych lawer o amser i’w sbario ond eich bod am loywi sgil neu bwnc newydd, cyrsiau byrion yw’r opsiwn perffaith.

Cael blas ar y brifysgol

Bydd pob un o’n cyrsiau byrion yn dangos eich gallu i astudio ar lefel prifysgol, a bydd pob un ohonynt yn cael effaith bositif ar unrhyw gais a wnewch i astudio gyda ni ar lefel gradd a thu hwnt.

Rhoi hwb i’ch credydau

Mae nifer o gyrsiau byrion yn cario credydau – mae hyn yn golygu, pe baech yn penderfynu mynd ymhellach i astudio gradd mewn pwnc cysylltiedig, y gall eich cwrs byr gyfrif tuag y credydau sydd arnoch eu hangen i wneud cais.

Cael eich traed oddi tanoch

Os gwnaethoch ddilyn eich gradd nifer o flynyddoedd yn ôl a bod gennych ddiddordeb mewn astudio ôl-raddedig ond eich bod yn poeni nad ydych wedi bod mewn addysg ers cryn amser, efallai mai cwrs byr gyda ni fydd y peth cywir i hogi eich sgiliau astudio ac i’ch paratoi i ddechrau cwrs hirach ym mhen ychydig wythnosau neu fisoedd.

Troi dalen newydd

Neu, os nad ydych erioed wedi astudio yn y brifysgol o’r blaen a’ch bod wedi gadael byd addysg nifer o flynyddoedd yn ôl, gall cwrs byr fod yn bont werth chweil rhwng eich addysg flaenorol a’r safon sydd ei hangen ar un o’n rhaglenni blwyddyn sylfaen.

Magu hyder

Pan fyddwch yn gorffen eich cwrs byr, rydych yn siŵr o deimlo’n fwy hyderus am ddechrau gyrfa brifysgol, a bydd y tîm derbyniadau’n gallu gweld eich bod wedi profi eich gallu i astudio yn y brifysgol cyn iddynt wneud cynnig am y cwrs gradd o’ch dewis.

Cymerwch gip ar bob un o’n cyrsiau byrion yma.

I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau byrion neu ragor o gyngor neu fynd ymlaen i astudio gradd lawn a thu hwnt, cysylltwch â’n tîm derbyniadau ar enquires@glyndwr.ac.uk a byddant yn fwy na pharod i helpu.