PŴER PEIRIANNEG – CNOI CIL YN YSTOD WYTHNOS TECHNOLEG CYMRU

A student in our engineering labs using the equipment

Ers dechrau’r pandemig, mae’r byd wedi ei swyno’n llwyr gan wyddoniaeth fyd-eang a brwydrau’r sectorau iechyd yn erbyn Covid-19.

Yn y DU yn enwedig, bu gwerthfawrogiad diddiwedd gan y cyhoedd o’r GIG a gweithwyr gofal iechyd a gwirfoddolwyr eraill sydd wedi rhoi eu gyrfaoedd i achub bywydau a blaenoriaethu eraill. Yn yr un modd, mae gwyddoniaeth a’r diwydiannau epidemioleg wedi cael eu rhoi ar lwyfan byd-eang hefyd, gydag arbenigwyr blaenllaw ar draws y blaned yn dod at ei gilydd i ddatblygu a darparu rhaglenni brechu.

Un ddisgyblaeth sydd hefyd wedi bod yn rhan annatod o’r ymateb i’r pandemig a’r adferiad yw Peirianneg. Mae sefydliadau peirianneg proffesiynol megis Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) yn eglur eu barn bod Covid-19 wedi effeithio ar beirianneg mewn sawl ffordd. Mae’r sector addysg wedi ei drawsnewid wrth i ystafelloedd dosbarth newid i fod yn rhithwir dros nos; roedd, ac mae, galw mawr am beirianwyr, i gefnogi sefydliadau gofal iechyd i ddefnyddio offer technegol yn gywir ac yn effeithiol; gyda chyfyngiadau’r cyfnod clo gwelwyd lefelau allyriadau yn cwympo’n ddramatig ar draws y byd - dim ond rhai o’r enghreifftiau yw’r rhain sydd yn amlinellu’r galw mawr am beirianwyr ac arloesedd.

Yr her byd-eang arall sydd yn mynd i barhau tu hwnt i Covid-19 yw newid hinsawdd. Yn wir, yn Uwchgynhadledd G7 o arweinwyr y byd yng Nghernyw, y ddau brif flaenoriaeth oedd Covid-19 ac ymrwymo i chwyldro cynaliadwy. Does dim dwywaith y bydd ynni adnewyddadwy a thechnoleg di-garbon yn llywio’r degawdau nesaf o ddatblygiadau peirianneg.  

Mae’r Athro Neil Pickles, Deon Cysylltiol Materion Academaidd, wedi gweld sut mae peirianwyr wedi ymateb i’r heriau byd-eang yma:

“Bu maint yr ymchwil a wnaed yn ystod Covid-19 yn syfrdanol ac mae ymchwil rhyngddisgyblaethol rhwng gofal iechyd a pheirianneg wedi cychwyn yn wirioneddol. Dim ond ychydig enghreifftiau o hyn yw technoleg synwyryddion, cynhyrchu peiriannau anadlu, deunyddiau gwrth-feirws a dadansoddi llif aer. Mae’r brwdfrydedd yma dros gydweithredu yn ddatblygiad i’w groesawu ac fe ddaw’n hanfodol wrth fynd i’r afael â Covid-19 a newid hinsawdd. Yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, rydym yn bwriadu tynnu ar arbenigedd ar draws ein disgyblaethau pwnc ac ymateb i’r mathau hyn o heriau. Mae ein myfyrwyr yn cydnabod pwysigrwydd ynni adnewyddadwy a thechnoleg ac mae hyn yn ffocws cynyddol o’n harbenigedd ymchwil.”

Nodyn amserol i’n hatgoffa yw gweld sut mae’r argyfwng parhaus yn galluogi arbenigwyr blaenllaw i gydweithio ac adeiladu gwell dyfodol gyda’n gilydd, wrth inni ddathlu Wythnos Technoleg Cymru 2021. Mae’r wythnos ymwybyddiaeth, sydd i ddechrau ar 21ain Mehefin, yn gyfle i bawb sydd naill ai’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd neu’r rhai hynny sydd yn edrych ymlaen at ddechrau eu gyrfa yn y gymuned dechnoleg i gymryd egwyl a dathlu ystod amrywiol yr arbenigedd a dysgu, rhannu ac arloesi gyda’n gilydd yn ystod yr wythnos a thu hwnt. Darllenwch fwy am y digwyddiadau a’r agenda lawn yma, sydd yn cynnwys gweithdai rhithwir a chyfleoedd rhwydweithio i sicrhau bod sgyrsiau yn parhau i symud yn eu blaen.  

Ar lefel leol, yma yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn PGW, rydym yn falch o’r ystod eang o raglenni sydd gennym i’w cynnig i fyfyrwyr i harneisio eu harbenigedd gan barhau i ddarparu cyfleoedd i gysylltu a dysgu mwy am ddisgyblaethau technoleg eraill. Yn ychwanegol ar yr ystod o gyrsiau Peirianneg a gynigwn, mae gan y Gyfadran gasgliad bywiog o ddisgyblaethau eraill sydd yn amrywio o Dechnoleg Dylunio Pensaernïol a phynciau Amgylchedd Adeiledig a Thai cysylltiedig, Cyfrifiadura, cyrsiau Gemau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, Gwaith Fforensig a gwyddorau cysylltiedig, yr holl ffordd at y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, y Dyniaethau ac ardal Cyfryngau sy’n cynnwys Technolegau Cerddoriaeth, Sain, Teledu a Fideo. Mae gan y Gyfadran gynlluniau uchelgeisiol i dyfu ein portffolio tros y blynyddoedd i ddod gan gyflwyno mwy o gyfleoedd cydweithredu ar draws meysydd gwahanol. Dwy enghraifft ddiweddar o hyn yw ein BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch sydd yn hybrid o Gelf a Dylunio a Pheirianneg a’n rhaglen BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol sydd hefyd yn cynnwys elfennau peirianneg yn ogystal â gwyddoniaeth, iechyd a meddygaeth. 

Ysgrifennwyd gan Alice James, Swyddog Ymgysylltu â'r Gyfadran a Liason ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.