RHWYDWEITHIO RHITHWIR AR GYFER BUSNESAU YN GWEITHIO

Dydi hi ddim yn gyfrinach fod technoleg wedi bod yn ganolog i'n goroesiad yn y pandemig byd-eang hwn; yn ein bywydau personol ac mewn busnes, rydyn ni gyd wedi gorfod addasu i fyd sy'n dibynnu'n fawr ar rith-ymgysylltu.

Wrth i unigolion a busnesau gael eu gorfodi i fabwysiadu technoleg digidol i ddisodli rhyngweithio corfforol bron dros nos, daeth heriau a newidiadau mawr yn y ffordd rydym yn adeiladu a chynnal perthnasoedd yn ogystal â rhwydweithio a chysylltu â chysylltiadau a chwsmeriaid newydd.

Naw mis i fewn i'r pandemig, mae'n ymddangos yn annhebyg y byddwn yn ysgwyd llaw nac yn cael y 'sgyrsiau coridor' hynny am beth amser eto ond diolch byth, mae digwyddiadau rhithwir yn golygu fod busnesau wedi gallu cynnal cyfleoedd rhwydweithio ar-lein gwerthfawr - rhywbeth sy'n debygol iawn o aros rhan o weithgaredd busnes yn y dyfodol ar ôl Covid19.

Er ei bod wedi cymryd peth amser i ddod i arfer ag ef i rhai, mae pobl yn cydnabod yn gyflym fod gan digwyddiadau Rhithwir rai manteision mawr dros ddigwyddiadau corfforol; o fod yn hawdd i ymuno a nhw o unrhyw leoliad, maent yn rhatach o lawer i'w cynnal ac i fynychu gyda’r gallu i gynnwys cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio o safon trwy sesiynau ymneilltuo ac elfennau rhyngweithiol gan wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ymgysylltu.

Efallai bod diffyg 'coffi a chroissants am ddim’ drwy wneud pethau ar-lein ond mae rhwydweithio rhithwir wir yn gweithio yn effeithiol ac ym Mhrifysgol Glyndwr mae ein Tîm Menter yn gyffrous iawn fod ein Digwyddiadau Rhwydweithio 'Brecwast Busnes' yn dychwelyd o fis Ionawr, fydd yn cymryd lle yn rhithwir wrth gwrs.

<>Yn ein digwyddiad cyntaf a gynhelir ar 8fed Ionawr 2021, byddwn yn cynnal sgwrs rithwir ynghylch y brwydrau a wynebir wrth gynnal a mynychu digwyddiadau rhithwir a rhwydweithio. Bydd y digwyddiad hwn yn gweithredu fel rhith-seinfwrdd; cyfle i rannu profiadau ac awgrymiadau ar sut i oresgyn rhai heriau rhithwir. Byddwn hefyd yn croesawu’r siaradwr gwadd Mike Corcoran, sy’n arwain ein cwrs byr poblogaidd Cyflwyniad i Gyd-Gynhyrchu sydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd, bydd yn cyflwyno sgwrs ddeng munud ar ymgysylltu ar-lein a chyflwyno sgiliau.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnig cyfle i'r rheini sydd â diddordeb mewn datblygu eu strategaeth ar-lein ar gyfer eu busnes i ddarganfod  mwy am ein mentrau cymorth digidol a marchnata – sydd yn NEWYDD ar gyfer 2021!

Ysgrifennwyd gan Ann Bell. Ymunodd Ann gyda'r Tim Menter yn ystod haf 2020 fel Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog.