Rydych chi'n fwy na'ch pwyntiau UCAS

Students looking at ucas website on a laptop

Nid yw hi’n gyfrinach i ganlyniadau Lefel A fod rhywfaint yn wahanol eleni. Pa un ai a ydych chi’n hapus, yn siomedig, yn ail-sefyll neu’n apelio, neu os ydych chi wedi gadael ysgol sbel yn ôl, rydym ni yma i ddweud wrthoch chi – nid yw eich canlyniadau Lefel A yn bopeth.

Ydyn, mae’r Lefel A, BTEC a chymwysterau eraill oll yn cyfri tuag at eich pwyntiau UCAS, sydd yn ffurfio’r sail ar gyfer sawl cais Prifysgol – ond mae llawer mwy i’w ystyried.

Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam rydym yn ymfalchïo mewn edrych ar bob cais ar sail unigol, gan edrych ar y ‘person llawn’ – nid dim ond eich graddau.

Tra bo’r rhan fwyaf o’n cyrsiau i israddedigion yn gofyn am 112 pwynt tariff UCAS, nid yw hynny wedi ei osod mewn carreg ar gyfer pob cwrs. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd yn eich profiad, eich angerdd, a’r hyn sy’n eich gyrru i ddysgu – pethau fydd yn eich gwneud yn fyfyriwr da a helpu i ddangos inni y gwnewch chi ffynnu ar un o’n cyrsiau.

Eich canlyniadau

Mae eich record academaidd o bwys, am ei fod yn helpu i ddangos inni beth yw lefel gyfredol eich gwybodaeth, a bod gennych y gallu i astudio ar lefel uwch. Ond os ydych chi rywfaint yn brin o’r gofynion, neu os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus, mae yna ddigon o ffyrdd i gael mynediad i addysg uwch.

Un llwybr fyddai ystyried un o’n graddau gyda blwyddyn sylfaen – rydym yn cynnig nifer fawr ohonynt, ar draws pob math o feysydd pwnc, ac maent yn berffaith o ran rhoi sylfaen dda ichi yn eich disgyblaeth a datblygu eich sgiliau. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau Dysgwr Hyderus, sydd yn rhad ac am ddim, i’ch paratoi ar gyfer lefel uwch o ddysgu, a gall helpu i gryfhau eich cais.

Pethau eraill i’w hystyried

Gan edrych y tu allan i’ch hanes academaidd, rydym hefyd yn ystyried pethau fel profiad gwaith. Gall hyn fod yn unrhyw beth o 20 mlynedd yn gweithio ym myd diwydiant i swydd ran-amser pan oeddech chi yn yr ysgol – cyn belled â’ch bod chi’n gallu dangos inni beth ddysgoch chi a pham mae’ch profiad yn eich gwneud chi’n addas ar gyfer eich cwrs.

Mae’ch datganiad personol yn rhan allweddol o’ch cais, am mai dyma yw eich cyfle i’n hargyhoeddi ni y dylech chi ddod yma i astudio. Gallwch ddefnyddio hwn i arddangos eich sgiliau a’ch profiad, ac i dynnu sylw at eich brwdfrydedd dros y cwrs o’ch dewis a’r hyn rydych chi’n disgwyl ei ennill ohono. Rydym yn gweld miloedd o ddatganiadau personol pob blwyddyn - maen nhw’n amrywiol, yn ddiddorol ac yn aml yn unigryw a dyna sut y dylai hi fod. Peidiwch â cheisio gwneud eich un chi yn rhy berffaith; dim ond ei wneud yn berffaith i chi.

Felly os nad ydych yn siŵr a fydd eich canlyniadau yn ddigon i sicrhau lle yn y brifysgol eleni – peidiwch â mynd i banig. Mae ein tîm derbyniadau cyfeillgar yma i gynnig cyngor ar ganfod y llwybr sydd yn iawn i chi, a’ch cefnogi chi drwy’r broses o ymgeisio, ac mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer ystod eang o ‘n cyrsiau ar gyfer y flwyddyn hon.

Gobeithio y gwelwn ni chi ar y campws yn fuan!