SUT MAE EICH PROFIADAU GYDA CHYNNYRCH WEDI NEWID?

Mae tri phrif faes ble rydw i wedi sylwi’n ddiweddar bod pethau wedi newid, ac mae hyn yn bennaf ers y cyfyngiadau COVID a’r cyfnodau clo, ond hefyd oherwydd natur ddigidol y byd erbyn hyn.

Yr un cyntaf yw’r sector harddwch a gofal gwallt, gan edrych yn benodol ar frand All Things Hair fel enghraifft.

Mae’r brand yma fel llawer i un arall yn defnyddio dulliau i helpu’r defnyddiwr yn y cartref, yn hytrach na mynd allan i’r siop drin gwallt, am yn ddiweddar doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys fideos ‘sut i wneud’ a thiwtorialau, erthyglau ac awgrymiadau am ba gynnyrch fyddai’n addas ar gyfer eu gwallt. Mae’r tueddiad yma hefyd wedi ei farchnata’n egnïol gan filoedd o flogwyr a dylanwadwyr ym maes harddwch.

hairstyle

A dydy’r fformat yma ddim wedi ei gyfyngu i’r sector gwallt a harddwch. Does dim ond raid inni edrych ar y diwydiant adeiladu a chrefftau’r cartref, gydag astudiaeth ddiweddar o’r UDA yn canfod bod ‘ 57 y cant o berchnogion tai yn rhoi pwyslais ar wella’u cartrefi yn ystod tri mis cyntaf pandemig COVID-19’ gan greu tueddiad anferthol mewn fideos crefftau’r cartref ar-lein gan fusnesau bach a lleol yr holl ffordd at gwmnïau cadwyn rhyngwladol. Mae’r tiwtorialau fideo yma wedi’n galluogi ni i gwblhau tasgau crefftau’r cartref yn ystod cyfnodau clo, ar ôl prynu’r cynnyrch sydd eu hangen arnom o’u gwefannau.

Mae profiadau siopa wedi newid

Er enghraifft, siop arddangos Dyson, sy’n brofiad y gallwch chi gerdded drwyddo’n rhyngweithiol mewn 3D gan gysylltu gyda’u cynnyrch a’r ffordd maent yn gweithio, neu pan fo amser yn caniatáu, mae eu siop yn cynnig profiad trochi llawn gydag arddangosiadau ymarferol. 

Iechyd a Ffitrwydd yw’r sector nesaf ble gwelwn ni newidiadau parhaus

Mae Apple Fitness+ yn arwain y ffodd wrth greu llawer o gynnwys ar-lein, felly does dim angen inni gamu i mewn i’r gampfa, hyd yn oed os ydyn nhw ar agor erbyn hyn. Mae’r dosbarthiadau ar-lein yn ein cysylltu ni’n ddi-wead at y rhan fwyaf o’u cynnyrch caledwedd corfforol ac yn gwneud y profiad a gawn yn un perffaith. Mae hyn wedi dechrau tueddiad newydd ac un sydd am aros gyda ni mae’n debyg, o leiaf yn y tymor canolig, am fod buddion y cyfleustra gydag ychwanegiad rhaglenni hyfforddi gan arbenigwyr ffitrwydd blaengar yn enfawr.

exercise at home

Cynaliadwyedd

Fel y gwyddom ni oll, cynaliadwyedd a’r angen i leihau ein ôl troed carbon ym mhopeth a wnawn yw un o’r heriau mwyaf pwysig ar gyfer y byd modern. Rwyf wedi meddwl yn aml bod llawer o gwmnïau a brandiau wedi bod yn araf i’r bwrdd, ac yn newid eu ffyrdd dim ond am fod raid iddyn nhw wneud hynny er mwyn cadw ac ehangu eu sail cwsmer. Felly, pan ddes i ar draws y brand esgidiau rhedeg yma, mi roeddwn i’n hapus.

Mae brand On Running wedi lansio gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer esgidiau ymarfer (gan ennill dwy wobr ISPO 2021), a fydd yn rhan o ddolen gynhyrchu cwbl gaeedig, gan olygu y byddant yn ailgylchu’r esgidiau ymarfer rydych yn eu danfon yn ôl i wneud pâr newydd. Mae eu brandio yn ddiddorol gan nodi ‘dyma’r esgid redeg na fyddwch chi fyth yn berchen arni’, ond maen nhw, fodd bynnag, eisiau fy arian! Mae’r esgid yn ddyluniad syml gwyn heb unrhyw lifion na lliwiau.

Mae Peloton (hyfforddwr beicio cyfrifiadurol ar-lein), hefyd bellach yn datblygu caledwedd arall, fel peiriannau rhedeg a rhwyfo ac mae Concept 2,y gwneuthurwr peiriannau rhwyfo hefyd erbyn hyn wedi mynd i gyfeiriad arall i gynnwys SkiErgs a CycleErgs gyda phob un yn cynnig profiadau ar-lein helaeth.

Mwy o wasanaethau tanysgrifio

Mae Pret yn cynnig gwasanaeth tanysgrifio ble cewch chi 5 coffi y dydd!

coffee

Mae’r holl leoli cynnyrch yma yn hynod ddiddorol ac mae’n gyffrous gweld brandiau a chwmnïau yn newid ac yn datblygu eu safle strategol i ymdopi â’r gofynion di-baid heddiw gan gymdeithas.

Mae profiad y defnyddiwr o’r cynnyrch yn allweddol ac yn fethodoleg mor bwysig wrth ddylunio cynnych. Bydd profiad da yn annog y defnyddiwr i ddychwelyd ac i brynu gan y brand dro ar ôl tro. Ond mae’r angen i beidio â disbyddu adnoddau naturiol y byd ac i gadw holl gylchred y cynnyrch mewn dolen gynaliadwy gaeedig yn hynod bwysig. Yn y bôn, y cyfosodiad yma o wneud y profiad mor gyflawn â phosib gan ddefnyddio cyn lleied o ddeunyddiau a charbon i gynhyrchu eich cynnyrch yw’r cysyniad y daw cwmnïau llwyddiannus i’w groesawu.

Mae’r trafodaethau yma ynghylch dylunio ac ymddygiad y cwsmer yn rhywbeth y gallwn ni ei gynnig yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch. I ganfod mwy am gynnwys y cwrs cliciwch yma.

 

Ysgrifennwyd gan Daniel Knox. Mae Daniel wedi ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ddiweddar fel Darlithydd Dylunio Cynnyrch