SYNIADAU I LEIHAU STRAEN

A student looks to the side, her pen poised over her notebook

Mae straen yn effeithio arnon ni i gyd ar adegau gwahanol ac mewn gwahanol ffyrdd. Gall symud oddi gartref, dadlau gyda' r bobl sy'n byw yn eich llety, cwblhau traethodau ac amser arholiadau roi straen ar rai myfyrwyr. Hwyrach bod pobl eraill eisoes yn byw gyda chyflwr iechyd meddwl, neu wedi eu heffeithio gan brofedigaeth neu broblemau perthynas.

Bydd tua un ym mhob pedwar person yn y DU yn profi salwch meddwl bob blwyddyn. Mae straen yn ffactor mawr mewn cyflyrau megis iselder a phryder, felly mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yn canolbwyntio ar straen a sut i’w leihau.

Mae gan uwch gwnselydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Diane Duff, syniadau ar leihau straen.

“Gall straen fod yn allanol, yn codi o’ch amgylchedd neu sefyllfa, neu’n fewnol, yn codi o bwysau rydych yn rhoi ar eich hunan,” meddai Diane.

“Rhaid cydnabod beth allech ei reoli a beth na allech. Os mai pwysau amser ydy’r broblem, oes yna rywbeth sydd ddim mor bwysig y gallech ei adael? Wrth drin straen mae angen cael gwared ac achos y straen, neu ddod o hyd i ffordd o’i reoli, fel ymlacio, myfyrdod, ymarfer corff, cael pobl gefnogol o’ch cwmpas – gwneud mwy o beth sy’n gwneud i chi deimlo’n well.”

Gellir trefnu apwyntiadau drwy gwblhau'r Ffurflen Mynediad at Gymorth Bywyd Campws a Myfyrwyr. Gall fyfyrwyr cyfredol ddarganfod fwy am y gwasanaeth cwnsela drwy ymweld â'u tudalennau mewnrwyd ble mae yna hefyd lawer o wybodaeth hunangymorth a dolenni i adnoddau eraill.

Ar gyfer myfyrwyr gyda chyflwr iechyd meddwl yn barod, gall ein gwasanaethau cynhwysiad eich cysylltu â mentor iechyd meddwl a chynghori ar eich cymhwyster ar gyfer budd-daliadau.

Os ydych yn ymddiddori mewn iechyd meddwl efallai buasai diddordeb gennych yn ein gradd iechyd meddwl a lles.

 

Ysgrifennwyd gan Laura Edwards, Swyddog Ymgysylltu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.