Teithio Llesol: Mater Iechyd y Cyhoedd?

2 people on bikes smiling

O ganlyniad i fuddion amlweddog sydd i’w cael o seiclo’n rheolaidd, mae sawl parti wedi galw ar i’r sector iechyd chware mwy o rôl wrth hybu teithio llesol (TLl). Yn unol â hynny, mae fy astudiaeth yn archwilio safle TLl fel mater iechyd y cyhoedd, gan ganolbwyntio ar y gweithlu iechyd y cyhoedd ym Manceinion Fwyaf (Greater Manchester GM). Adnabuwyd GM fel ardal o ddiddordeb oherwydd y cyd-destun unigryw a gyflwynwyd gan ddwy ‘fargen ddatganoli’ diweddar ym maes iechyd a chludiant.

Cynhaliwyd 42 cyfweliad lled-strwythuredig gydag aelodau a wahanol haenau o weithlu iechyd y cyhoedd GM er mwyn deall eu barn a’u profiadau o hyrwyddo TLl. Roedd y sampl yma o natur fwriadol ac yn targedu’r gweithredwyr canlynol: Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Ymgynghorwyr Iechyd y Cyhoedd, Arweinyddion y Grŵp Comisiynu Clinigol, Prif Swyddogion Gweithredol y Cyngor, Cynghorwyr, Swyddogion Rhaglen Iechyd y Cyhoedd, Swyddogion Datblygu Chwaraeon.

Beth oedd y canlyniadau?

(1) Roedd y rhethreg ar gyfer datganoli iechyd yn canolbwyntio’n drwm ar ‘symudiad radical’ tuag at fesurau atal salwch, gyda gweithgaredd corfforol a TLl yn cael eu gweld yn ‘brif’ weithgareddau. Fodd bynnag, cwestiynodd y cyfranogwyr i ba raddau y byddai’r gweithlu iechyd y cyhoedd yn gallu arwain ar y symudiad yma, am eu bod yn rhagweld y byddai gwaith o’r fath wedi ei gyfyngu gan ogwydd ideolegol hir-ddatblygol tuag at wasanaethau seiliedig ar driniaethau. I rai, roedd yr ideoleg hon yn golygu bod y rhan fwyaf o wasanaethau iechyd y cyhoedd wedi eu cyfeirio oddi wrth yr hyn yr oeddent yn eu hystyried i fod yn ‘wir’ iechyd y cyhoedd, ac yn hytrach yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn gwaith triniaeth rheng flaen. Canfuwyd bod hyn yn effeithio ar ddatblygiad ymyriadau ar sail atal, ac yn arbennig, hyrwyddo TLl, am mai ychydig o bobl oedd yn blaenoriaethu gwaith o’r fath, er gwaetha’r ffaith eu bod yn cydnabod y buddion posib.

(2) Roedd unrhyw un oedd am wella darpariaeth TLl o fewn eu bwrdeistref yn ddibynnol, i ryw raddau neu'i gilydd, ar farn ac agweddau eu cynghorwyr lleol. Fodd bynnag, awgrymodd gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd bod bwlch rhwng llunio polisi ar sail tystiolaeth a’r ffurfiau gwleidyddol o wneud penderfyniadau yr oedd cynghorwyr wedi dod i arfer â hwy. Yn arbennig, awgrymwyd bod cynghorwyr yn blaenoriaethu cyfathrebu gyda thrigolion lleol dros ganllawiau ac astudiaethau ymchwil. Roedd hyn yn peri pryderi i’r rhai oedd fwyaf cefnogol o welliannau TLl, am fod yna ymwybyddiaeth mai pur anaml y mae TLl yn fater o bwys i’r cyhoedd pan maent yn pleidleisio.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu mai ychydig o bwysau sydd ar hyn o bryd ar lywodraethau lleol i herio’r meddylfryd traddodiadol ynghylch cludiant. Mae hyn yn golygu, mewn cyfnod o gyni parhaus i lywodraethau lleol, ei bod hi’n annhebygol bod llywodraethau lleol a thimoedd iechyd y cyhoedd yn mynd i fod yn barod, neu’n abl, i wella darpariaethau teithio llesol yn eu hardaloedd lleol - heb gefnogaeth bellach (a allai angen bod llawer mwy na chyllid)

Astudio yn PGW

Mae’r ymchwil hwn yn un o sawl enghraifft o sut mae ein tîm yn ymchwilio ymhellach i benderfynyddion ehangach iechyd a lles. P’un ai oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn sector iechyd y cyhoedd, iechyd meddwl neu les, mae gennym ystod o gyrsiau israddedig neu ôl-radd. Gallwch hefyd gofrestru ar sawl cwrs byr ar iechyd a lles, a fydd yn rhoi blas ichi o’r maes astudio a bywyd myfyriwr yn PGW.

Ysgrifennwyd gan Chris White, darlithydd Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.