TROI EIN DIWRNOD AGORED 'YN DDIWRNOD ALLAN'

Os ydych yn dod i’n gweld ni yn ein Diwrnod Agored, beth am ei droi’n ddiwrnod llawn a gweld beth arall sydd gan Wrecsam i’w gynnig tra’r ydych yn ymweld? Dyma ychydig o’n hoff awgrymiadau o bethau i’w gwneud cyn ein diwrnod agored ac ar ei ôl.

Mynd i’r dref am goffi boreol

Mae Wrecsam yn gartref i ychydig o siopau coffi gwych annibynnol, fel Bank Street a Lot 11. Ewch am ddiod neu fyrbryd canol bore cyn cael diwrnod prysur yn dod i weld Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Students drinking coffee

Ymweld â ‘Tŷ Pawb’

Os yw’r celfyddydau/marchnadoedd/cerddoriaeth fyw yn mynd â’ch bryd chi, mae canolfan celfyddydau a diwydiant canol y dref Tŷ Pawb yn lle gwych i alw heibio. Byddwch yn gweld stondinau marchnad gwych, dwy oriel gelf a chwrt bwyd yn cynnwys cynnyrch lleol gwych.

Dweud helo wrth Ddefaid Wrecsam

Ers 2016, mae defaid yn ymddangos ym mhob cwr o Wrecsam. (Ond nid defaid cyffredin mo’r rhain!) Roedd yr hyn a ddechreuodd fel praidd o 20 o gerfluniau defaid, bellach yn cynnwys llwybr sydd â thros 30 o ddefaid sydd wedi’u dylunio, eu haddurno a’u harddangos gan grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol.

Mynd am dro (neu gwch camlas) ar draws Traphont Ddŵr Pontcysyllte)

Oeddech chi’n gwybod bod Wrecsam yn gartref i Safle Treftadaeth y Byd? Traphont Pontcysyllte a godwyd dros 200 mlynedd yn ôl yw’r draphont ddŵr fwyaf yn y DU. Os ydych yn hoffi bod ar uchder, mae taith ar draws y draphont 38 metr o uchder yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar gefn gwlad lleol.

Ymweld ag atyniadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ychydig funudau i ffwrdd o’n campws yn Wrecsam, byddwch yn gweld Erddig, sef plasty yn y wlad o’r 18fed ganrif, yn cynnwys gerddi a pharcdir. Neu ar gyrion Wrecsam, gallech ymweld â Chastell y Waun

Mae gan Wrecsam bopeth y gallech ei angen am noson wych 

Boed yn gerddoriaeth fyw yn y Rockin’ Chair a'r Parish, peint a'r chwaraeon diweddaraf yn Hill Street Social, bariau a chlybiau fel Atik, neu ginio clyd a choctels yn y Fat Boar, mae rhywbeth i bawb. 

A dydi hynny ddim yn anghofio ein bar Undeb y Myfywyr ar y campws - angenrheidiol os ydych chi'n fyfyriwr. 

Wrth gwrs, y prif beth rydym ni eisiau i chi ei gael o’ch ymweliad â Wrecsam yw dysgu mwy am yr holl gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a gweld popeth sydd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam i’w gynnig! Os nad ydych wedi cadw eich lle ar ein diwrnod agored eto, gallwch gofrestru yma.

Oes gennych chi awgrym arall o bethau i’w gwneud yn Wrecsam? Rhowch wybod i ni – byddem ni wrth ein bodd o glywed gennych chi!