TROI SYNIADAU YN REALITI

Tasa rhywun wedi deud wrthai flwyddyn yn ol, bo fi’n mynd i fod yn gweithio’n llawn amser ar ddau fusnes dwi wedi eu greu yn ystod y cyfnod clo – fyswn i byth wedi’u coelio.

Ond y realiti ydi…dyma lle ydwi bellach. Ar derfyn fy wythnos gyntaf yn gweithio i’r busnesau yn llawn amser ‘yn swyddogol’ dwi’n oedi i gymeryd popeth i mewn, ac er mod i’n teimlo weithiau bo fi ddim yn gneud digon o ‘brogress’ yn ddyddiol…does ond angen i fi edrych yn ol dros y 9 mis diwethaf i weld jest pa mor bell dwi di dod.

Dwi’n berson sy’n cael syniadau o hyd. ‘Dwi di cael syniad….’ ydi’r geiriau mae fy mhartner Ceurwyn yn ofni ei glywed fwyaf gen i! Ond mi ydwi wedi dysgu bellach..pan ydwi’n cael syniad, mi dwi’n aros efo’r syniad fy hun am ychydig oriau, ddyddiau, neu wythnosau weithia; achos yn y gorffennol, mi oedd gen i dueddiad i fod eisiau cychwyn ar pob syniad yn syth (boed o’n rhywbeth yn y cartref, syniad busnes, syniad am hobi newydd) ond i ddiflasu arno yn eitha sydyn – ac ella yn y cyfamser unai wedi dweud wrth pawb amdano, neu wedi gwario arian ar ddechrau ei weithredu. Mae wedi codi embaras arnai sawl gwaith cyn heddiw. Felly, pan ges i’r syniad gwreiddiol am gofod.space – sy’n wefan i roi gwybodaeth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i fusesau bach; dwi’n meddwl mai yn y gawod oeddwn i (dwi’n cael nifer fawr o’n syniadau yn y gawod – yr un man lle dwi’n cael ‘switch off’ yn llwyr!) nes i fynd yn ecseited fy hun – ond oherwydd fy mhrofiad yn y gorffennol, mi ddaru mi gadw fo i fi’n hun am ychydig ddyddiau. Dim ond wedyn, ar ol datblygu’r syniad yn fy mhen a ffeindio mod i dal yn hynod ecseited amdano, ac yn bwysicach, yn meddwl y bysa fo’n gweithio fel busnes, nes i son wrth fy mhartner amdano. Ag er iddo rowlio’i lygaid pan neshi ddeud wrth…’dwi di cal syniad’, erbyn diwedd y sgwrs, mi roedd o mor ecseited a fi.  Dwi di dysgu fod o’n ‘sounding board’ eitha da chwara teg iddo fo, ac yn gallu cynnig persbectif gwahanol i fi ar bethau. Felly ‘fast forward’ tua 3 wythnos o’r sgwrs yna, ar Hydref y 9fed 2020, mi ddaru mi lawnsio gofod.space. Gyda’n sgiliau dylunio i, a sgiliau adeiladu gwefan a thechnolegol Ceurwyn mi oedden ni’n ffodus i allu adeiladu’r wefan ein hunain, rhywbeth dwi’n hynod hynod browd bo ni wedi gallu ei wneud.

Dwi’n gwybod ers ychydig flynyddoedd mod i eisiau gweithio yn cefnogi busnesau bach.. ar un adeg ychydig flynyddoedd yn ol, mi oeddwn i’n rhedeg busnes bach fy hun ac yn cofio teimlo’n unig iawn yn gwneud hynny. Mi nes i feddwl hyfforddi fel ‘coach’, ond doeddwn i chwaith ddim eisiau cynnig gwasanaeth i nifer fechan o berchnogion busnes oedd yn ddigon ffodus i allu fforddio hynny. Felly pan ddaeth y syniad am gofod.space – gwefan y gallith unrhyw berchennog busnes bach fynd iddi i gael y wybodaeth a’r gefnogaeth ma nhw ei angen, wedyn mi odd yn apelio’n fawr. Y weledigaeth oedd cael un lle dibynadwy i berchnogion busnesau bach gael yr holl wybodaeth mae nhw angen ei wybod am redeg busnes, neu wybod i le i fynd i gael y wybodaeth; i gael at gefnogaeth sy’n mynd i wneud eu bywyd yn haws i’w fyw – unai drwy feddwlgarwch, symud, cadw gwell trefn, hunanofal ayyb. Ysbrydoliaeth drwy ddarllen am berchnogion busnesau bach eraill, eu hanesion ac yna jest ychydig bach o hwyl pan ma popeth yn mynd yn drech – taflenni lliwio, chwileiriau a llawer mwy.  

Un peth mae’n rhaid i mi ei grybwyll ydi, taw nid fi ydi’r arbenigydd.  Do, dwi wedi rhedeg busnes yn y gorffennol, ac mae gen i brofiad a gwybodaeth am wneud hynny, ond yr holl syniad ydi bo fi’n cael yr arbenigwyr i gyfrannu a rhannu eu arbenigedd efo’n cynulleidfa.  Rhyw fath o gydlynydd neu hwylysydd yn y canol os liciwch chi. Dwi hefyd yn dysgu mwy wrth i mi fynd ymlaen, ac mae’r ffaith bo fi’n cael dysgu mwy wrth dyfu’r busnes yn rhywbeth sy’n apelio’n fawr i fi.  Allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig ydi hi i bawb gario mlaen i ddysgu a pharhau i ddatblygu wrth redeg eu busnes.  Allwch chi ddim disgwyl gallu tyfu fel arall.

Dwi’n browd iawn o be mae gofod.space wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ac mae’n bwysig bo ni’n bod yn browd weithiau.  Mae ganddo ni fel Cymry dueddiad i ddarostwng ein llwyddiannau, a chwarae popeth i lawr, ond wrth beidio dathlu ein llwyddiant, ‘da ni mewn peryg o beidio a gallu adeiladu ar y llwyddiannau hynny. 

O fewn naw mis, mae gofod.space wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau i rai sy’n cychwyn busnes, ac sydd mewn busnes yn barod; mi ddaru ni redeg Caledr Adfent cyn y Nadolig ar Instagram ble roedd busnesau bach yn cyflwyno fideo byr i ddweud be mae’r Nadolig yn ei olygu iddyn nhw a’u busnes; ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, creuwyd Prosiect MMB (Merched Mewn Busnes) ble ddaru mi greu cyfanwaith o luniau o nifer fawr o ferched sy’n rhedeg busnes a’u rhannu gyda’n cynulleidfa. Dwi’n cyflwyno podlediad gofod i drafod / space to discuss (sy’n cael ei noddi gan Dim Menter Prifysgol Glyndwr Wrecsam) – rhywbeth dwi wedi wir gorfod gwthio fy hun allan o’n ‘comfort zone’ i wneud. Ac ar ben hyn i gyd, mi rydw i ar ganol creu ail wefan o dan ymbarel gofod.space sef busnesaubach.cymru.  Ar ol llwyddo i godi dros £2000 drwy gronfa torfaol, mae busnesaubach.cymru yn mynd i fod yn wefan sy’n gyfeirlyfr o fusnesau bach Cymru.  Dim bwys pa sector, os ydi’r busnes wedi’i leoli yng Nghymru ac yn fusnes bach, mae modd cael rhestriad ar y wefan.  Y weledigaeth ydi cael cyn gymaint o fusnesaubach Cymru i gyd mewn un lle er mwyn i bawb allu eu darganfod yn hawdd. Meddyliwch tasa chi’n mynd i Aberystwyth am benwythnos, a dim ond eisiau gallu defnyddio busnesau bach tra yr ydych chi yno. Mae’r wefan yn mynd i alluogi chi wneud hynny – ffeindio rhywle i aros, llefydd i fwyta, hyd yn oed rhywle i drwsio’ch car tasa chi’n torri lawr yno!     

Ers lawnsio’r busnes, dwi wedi dysgu gymaint am fi fy hun, ac wedi sylweddoli fod oedd gen i dueddiad i danamcangyfrif be oeddwn i’n gallu ei wneud.  Y sialens fwyaf ydi bod wedi cael y gred yna ynddo fi’n hun. Mae pawb wedi clywed am yr ‘imposter syndrome’, ac mi dwi wedi gweithio’n galed i ddechrau ei waredu.  Dydio ddim wedi mynd yn llwyr – ‘work in progress’ fel tae, ond dwi ar adegau wedi wir gorfod cloddio’n ddyfn a ffeidnio rhywbeth ynddai and oeddwn i’n sylweddoli oedd yna. Un esiampl o hyn ydi i ddechrau gwrando yn ol ar fy llais fy hun ar ol recordio’r podlediadau.  Mi gymerodd hi wythnosau ar ol cychwyn recordio nhw i fi gael yr hyder i wrando nol arnynt, erbyn y dweidd oedd o’n boen arnai.  Erbyn hyn, dwi’n llawer mwy cyfforddus yn gwrando ar llais fy hun.  Wnes i ddilyn cwrs byr gyda Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ddiweddar ‘Cyflwyniad i Siarad Cyhoeddus’ – cwrs oedd yn cael ei redeg yn rhad ac am ddim gan y Brifysgol, ac mae wir wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder i mi allu meddwl am sefyll i fyny a thraddodi o flaen cynulleidfa. Cyn dilyn y cwrs, mi fysa’r syniad wedi rhoi ias i mi – dydwi ddim yn dda yn siarad o flaen pobol o gwbwl, ond fel popeth, mae o’n rhywbeth ma rhywun yn gallu meddiannu’r sgiliau cywir ac ymarfer er mwyn goroesi’r broblem. (Mae’r cwrs yn cael ei redeg eto ar hyn o’r brud gyda dyddiadau pellach yn cael eu trafod- mi fyswn i’n argymell i unrhywun ei ddilyn!

Dwi wrth fy modd yn cael gweithio bob dydd efo gwahanol fusnesau bach a’r cwmniau hynny sy’n gallu eu cefnogi. Dwi’n ffodus iawn i fod wedi adeiladu busnes dwi wir yn fwynhau ei redeg, ac mae’r dyfodol a’r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer gofod.space a busnesaubach.cymru wir yn gyffrous. Dwi hefyd yn gyffrous fod na gymaint o fusnesau bach yn bodoli, ac wedi eu cychwyn yn ddiweddar.  Mae’r symudiad o fod eisiau prynu gan fusnes bach wedi ffrwydro a dwi wir yn gobeithio fod hynny yma i barhau (gyda help adnoddau fel busnesaubach.cymru wrth gwrs!). 

Os yda chi’n pendroni byth am gychwyn busnes, neu i gymeryd y cam nesaf, yr oll ddudai ydi cerwch amdani.  Ma hi’n llawer gwell mentro na difaru peidio. 

 

Ysgrifennwyd gan Caryl Owen. Caryl yw sylfaenydd gwefannau gofod.space a busnesaubach.cymru ac mae hi'n cefnogi cyfres o sesiynau rhwydweithio cyfrwng Cymraeg Tím Menter Prifysgol Glyndwr Wrecsam ar gyfer busnesau ac unigolion.