Troseddeg: Cofio: Stephen Lawrence

hand across mouth

Mae heddiw yn nodi diwrnod pwysig o ran cydraddoldeb hiliol. Mae heddiw yn ddathliad o fywyd ac o waddol Stephen Lawrence a lofruddiwyd, yn 18 mlwydd oed, mewn ymosodiad digymell ag iddo gymhelliant hiliol ar 22ain Ebrill 1993 gan griw o lanciau gwyn (Cathcart, 2021).

Cafodd llofruddiaeth Stephen effaith ddwys ar agweddu’r cyhoedd tuag at wahaniaethu hiliol ac anghydraddoldeb ac fe helpodd i ddatgelu hiliaeth sefydliadol o fewn y system cyfiawnder troseddol (Cottle, 2004; Savage, 2013). Amlygodd digwyddiadau 22ain Ebrill 1993, ac yn wir yr ymchwiliad hirfaith a ddilynodd, gatalog o fethiannau gan yr heddlu oedd yn arwain yr ymchwiliad (McLaughlin a Murji, 1999). Roedd y rhain yn cynnwys cyfuniad o anghymwyster proffesiynol, hiliaeth sefydliadol a methiant mewn arweinyddiaeth gan uwch swyddogion - gyda phob un wedi eu dogfennu’n eang yn Adroddiad Macpherson (1999). Gwnaeth casgliad canolog yr adroddiad hirfaith hwn argymhellion allweddol i’r Heddlu archwilio ymarfer a pholisïau’r heddlu ac asesu a allai eu gweithredu o ran plismona cymunedau lleiafrifoedd ethnig greu neu gynnal patrwm o wahaniaethu (Macpherson, 1999; Foster et al, 2005). Wrth asesu effaith achos Stephen Lawrence, cafodd yr heddlu eu hatgoffa bod rhaid i blismona cymdeithas amrywiol fod yn briodol ac yn broffesiynol, gyda phob unigolyn sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Heddlu yn cael eu trin ag urddas a pharch (Macpherson, 1999; Lea, 2000).

Gan ddod â syniadau pellach yn ymwneud â hil i’r ddadl, roedd adroddiad Macpherson (1999) yn nodi os yw hiliaeth i gael ei ddileu, ‘rhaid creu awyrgylch newydd o hyder ac ymddiriedaeth ar y cyd’ (Macpherson, 1999, adran 45.24). Cynigwyd bod raid i bawb yn y gymdeithas weithio gyda’i gilydd ar y cyd ac mewn cytgord i atal hiliaeth rhag datblygu. Mae hyn yn gofyn am ddiwygio cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl, ac yn galw ar i bobl weithio gyda’i gilydd i atal anghydraddoldeb a gwahaniaethu ar sail hil. Er mwyn ennyn ymddiriedaeth a hyder ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig, sydd yn aml yn gweld eu hunain yn dioddef gwahaniaethu gan union brosesau’r system gyfiawnder troseddol, rhaid sicrhau tegwch a chyfartaledd ar draws pob rhan o’r system gyfiawnder (Macpherson 1999).

Mae hyn yn galw am frîd newydd o weithwyr proffesiynol cyfiawnder troseddol sydd yn adnabod nad oes lle i gamgymeriadau’r gorffennol i’r dyfodol. Wrth geisio cyfiawnder, tegwch a chydraddoldeb, mae’r gweithwyr proffesiynol yma i’r dyfodol yn dal yr allwedd i greu gwell perthynas rhwng y system cyfiawnder troseddol a chymunedau amrywiol. Gan ddwyn gweledigaeth, syniadau newydd a meddwl goleuedig, gall gweithwyr proffesiynol cyfiawnder troseddol sydd newydd gymhwyso gychwyn ar eu gyrfâu gan wybod y bydd pobl o bob cefndir yn derbyn system gyfiawnder sydd yn weithdrefnol gyfiawn a theg. System gyfiawnder sydd wedi ei seilio ar uniondeb, ac un sydd yn gallu archwilio a barnu troseddau yn effeithiol ac yn ddiduedd, gan sicrhau bod hawliau’r rhai dan amheuaeth a dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn.

Dylid gweld diwrnod Stephen Lawrence fel llwyfan i sbarduno newid, a gwneud hynny, drwy ysbrydoli cymdeithas sy’n fwy cyfartal a chynhwysol. Cymdeithas sydd yn meithrin cyfleoedd i bobl ar y cyrion yn y DU. Boed i’r diwrnod yma, a’r holl ddyddiau i ddod, fod yn amser i gymryd safiad yn erbyn hiliaeth.

Cymerwch ran drwy astudio

Yn union fel y gwnaeth Stephen Lawrence cyn i’w fywyd ddod i ben mor drasig, mae’n bosib eich bod chi’n meddwl am eich gobeithion, eich uchelgeisiau a’ch proffesiwn. Ydych chi am ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn sector fel y system cyfiawnder troseddol? Hoffech chi herio hiliaeth drwy astudio ar gwrs ble mae’r math yma o bynciau a dadleuon yn cael sylw helaeth? Os felly, beth am feddwl am astudio un o’n graddau israddedig mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Y Gyfraith a Chyfiawnder Toseddol, neu Blismona Proffesiynol. Rydym hefyd yn cynnig gradd ôl-radd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn ogystal â chyrsiau byr sydd yn archwilio Troseddau a Throseddwyr Drwg-enwog.

Byddwch yn rhan o ddiwrnod Stephen Lawrence 2022

Heddiw, gallwch wneud safiad yn erbyn hiliaeth drwy gefnogi Sefydliad Stephen Lawrence. Yma, mae’r sefydliad yn gofyn eich bod yn derbyn yr her i wneud rhywbeth ystyrlon heddiw dros berson arall – gweithred syml o garedigrwydd sy’n gallu goleuo diwrnod person arall. Mae’n bosib hefyd yr hoffech addysgu eich hunan ynghylch hil a defnyddio’r diwrnod pwysig yma i fyfyrio ar hil drwy ddiweddaru eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â hil. Gallwch wneud hyn drwy fynd i wefan Diwrnod Stephen Lawrence.

Ysgrifennwyd gan Jo Prescott, darlithydd Plismona a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

 

Cyfeiriadau
Cathcart, B., (2012). The Case of Stephen Lawrence. London: Penguin Books.
Cottle, S., (2004). The racist murder of Stephen Lawrence: Media performance and public transformation. Praeger.
Foster, J., Newburn, T. and Souhami, A., (2005). Assessing the impact of the Stephen Lawrence Inquiry. Home Office Research, Development and Statistics Directorate.
Lea, J., (2000). The Macpherson Report and the question of institutional racism. The Howard Journal of Criminal Justice, 39(3), pp.219-233.
Macpherson, W., (1999). The Stephen Lawrence inquiry (Vol. 1). London: Stationery Office Limited.
Mclaughlin, E. and Murji, K. (1999). ‘After the Stephen Lawrence Report’, Critical Social Policy, 19(3), pp. 371–385. doi: 10.1177/026101839901900305.
Savage, S.P., Grieve, J. and Poyser, S., (2013). Stephen Lawrence as a miscarriage of justice. In Policing and the Legacy of Lawrence (pp. 42-57). Willan.