TYFU'R TÎM 'O ADREF'

“Yng nghanol anhawster mae cyfle”
Albert Einstein.

Ar adeg pan fo llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol eu gweithwyr, rydym yn hynod ffodus ein bod mewn sefyllfa i dyfu ein Tîm Menter; i wasanaethu nid yn unig ein Prifysgol a'n partneriaid presennol ond i gynyddu ein cefnogaeth a'n harbenigedd er mwyn cyrraedd mwy o fusnesau a chysylltiadau nag erioed o'r blaen. 

Gwnaethom groesawu Ann Bell fel ein Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog ym mis Awst, sy'n mynd ati i godi ein proffil ar draws y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan ehangu ein marchnata a'n cyfathrebu a chefnogi gyda digwyddiadau. Ymunodd Emily yn fuan wedi hynny fel ein Gweinyddwr a bydd yn cefnogi'r tîm cyfan gyda gweinyddiaeth o Gyrsiau Byr i Brentisiaethau Gradd a llawer mwy! Ein recriwt mwyaf diweddar yw Chloe Huxley sydd wedi ymuno â'r tîm fel Swyddog Datblygu Busnes ac mae hi wedi mynd ar afael y swydd drwy gymryd rhan mewn ystod eang o ddigwyddiadau rhwydweithio ar-lein yn ogystal â chynllunio rhai ein hunain. 

Nid ein tîm yw'r unig un sy'n tyfu ar hyn o bryd; bu cynydd mewn recriwtio yn y DU drwy gydol yr argyfwng coronafirws; ar draws sectorau fel technoleg, bancio, gofal iechyd, fferyllol a logisteg yn ogystal â'r tyfwyr bwyd, cyflenwyr ac archfarchnadoedd wrth gwrs. Wedi inni ffarwelio (am y tro o leiaf) gyda'r cyfweliad traddodiadol, yn ei le mae prosesau cyfweld fideo ar-lein yn fwy ‘normal'; rhywbeth na ddaeth gyda llawlyfr ar y pryd ond rhywbeth y mae llawer o gwmnïau wedi cymryd ato ac a fyddai'n mynd cyn belled â dweud ei fod yn rhywbeth y byddant yn parhau i'w wneud, os nad yn unig ar gyfer cyfweliadau cam 1af ac 2il pan fydd pethau'n dychwelyd i'r 'normal' mwy cyfarwydd yn y dyfodol. 

Mae prosesau cyfweld ac chroesawy aelodau staff newydd wedi cael eu haddasu gan dimau a rheolwyr Adnoddau Dynol ledled y wlad fel y gellir gwneud popeth yn gyfan gwbl ar-lein, er ychydig yn wahanol. Mae ein Tîm Menter yn hynod falch ein bod wedi llwyddo yn ein prosesau recriwtio gan ddod ag aelodau newydd o'r tîm 'o'u cartref' i deimlo eu bod yn cael eu croesawu ac mor gynhwysol â phosibl ac wrth ddod â phobl ynghyd yn rheolaidd ar gyfer sgyrsiau a thrafodaethau tîm ar-lein gallwn ar y cyd gyflawni'r cynnydd a thwf parhaus yr ydym yn bwriadu ei gyflawni. 

Nid unigolion yn unig sy'n cyflawni pethau gwych mewn busnes ond tîmau o bobl, ac yn sicr mae'n tîm ni yn un i'w wylio ar hyn o bryd! 

Mewn ymateb i'r newidiadau mewn prosesau busnes ac i gefnogi twf busnes ar yr adeg anodd ac ansicr hon, rydym wedi datblygu nifer o gyrsiau byr ar-lein i gefnogi arweinwyr a rheolwyr yn ogystal â llywio ffocws ar ddatblygiad gyrfa a phersonol yn y meysydd canlynol, gyda chyrsiau'n cael eu cynnal o Ionawr 2021:

• Arloesi a Thwf Busnes
• Cyflwyniad i Reoli Busnes
• Rheoli Gwydnwch Busnes
• Rheoli Newid a Newid Sefydliadol
• Rheoli Gweithrediadau Busnes

Am fwy o fanylion am y cyrsiau a'r dyddiadau uchod, ewch i'n tudalen cyrsiau byr neu cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk.


Ysgrifennwyd gan Ann Bell. Mae Ann yn un o recriwts y Tim Menter sydd wedi ymuno fel Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog.