Y DATGANIAD PERSONOL PERFFAITH?

Person using a laptop with beverages next to them.

Os ydych erioed wedi treulio amser maith yn pori’r we er mwyn cael awgrymiadau ar sut i lunio Datganiad Personol ar gyfer eich cais i’r brifysgol, byddwch yn gwybod bod digonedd o gyngor i’w gael. Byddwch yn gweld awgrymiadau, cyngor, canllawiau a thaflenni gwaith sydd â’r bwriad o’ch helpu yn eich ymgais i lunio 4000 o lythrennau a rhifau, a’r cyfan wedi’i drefnu’n dwt ac yn daclus er mwyn gwarantu lle i chi (neu o leiaf gyfweliad) yn eich prifysgol ddelfrydol, ar eich cwrs delfrydol.

Ond os ydych yn chwilio am y Datganiad Personol ‘perffaith’, dyma’r man cychwyn o ran cyngor i chi fwy na thebyg…

Nid yw’r templed ar gyfer y Datganiad Personol hollgynhwysfawr yn bodoli, felly rhowch y gorau i chwilio amdano!

Nid yw hyn yn golygu nad yw’ch Datganiad Personol eich hun yn gallu gweddu’n berffaith i’ch cais ac i’ch dewisiadau prifysgol. Gall wneud hynny, wrth reswm. Ond ni ddylech boeni’n ormodol nad ydych wedi dilyn pob un darn o gyngor dan haul.

Mae’n cymryd 0.75 eiliad i Google ganfod bron 8 miliwn o ganlyniadau chwilio o dan thema Datganiad Personol Perffaith (da iawn, Google!) ond credwch chi fi, bydd yn cymryd mwy o amser o lawer na hynny i edrych trwy bob un ohonynt ac i grynhoi’r cyngor hwnnw yn Ddatganiad Personol dealladwy sy’n cael yr effaith ddymunol. Ac nid yw hynny’n cynnwys faint o amser y byddwch yn ei wastraffu wrth edrych ar luniau o gathod…

Cynllun gwell o lawer yw canolbwyntio ar ychydig o awgrymiadau gwych ac ar ychydig o bethau i’w hosgoi, yr ydym wedi’u crynhoi’n hwylus i chi yma!

Beth ydych chi eisiau ei wneud, pham? 

Diben sylfaenol y datganiad yw rhoi gwybod i brifysgolion pam rydych yn awyddus i astudio eu cwrs a pham y byddech yn dda yn gwneud hynny. Peidiwch â chanolbwyntio’n ormodol ar eich gweithgareddau allgyrsiol gan anghofio dweud wrthym beth yn union rydych chi eisiau ei wneud!

Lluniwch eich fersiwn ddrafft gyntaf heb gyfrif geiriau

Efallai y bydd hyn yn swnio’n rhyfedd – onid oes rhaid cadw at derfyn penodol? Wel oes, mae’n rhaid i chi wneud hynny yn y pen draw, ond i ddechrau, byddwch yn elwa ar ysgrifennu toreth o syniadau ar ryw fath o lun sy’n nodi’r holl resymau pam y byddech yn berffaith ar y cwrs o’ch dewis. Pan fyddwch wedi cyrraedd diwedd eich rhestr, cyfrifwch y llythrennau a'r rhifau ac yna, byddwch yn gwybod faint mae angen i chi eu lleihau. Byddwch yn gweld ei bod yn haws cael gwared ar bethau yn hytrach na’u rhoi i mewn.

Sicrhewch fod y cyfan yn ddarllenadwy

Mae paragraffau’n ychwanegu at eich cyfrif geiriau ond maent hefyd yn ei gwneud hi’n haws o lawer eu darllen yn hytrach na thestun hirfaith heb yr un saib. Bydd prifysgolion yn darllen cannoedd o ddatganiadau; helpwch ni trwy wneud eich un chi’n haws ei ddarllen.

Anelwch at gael y stwff technegol yn gywir

Mae camgymeriadau sillafu, gwallau gramadeg, mân lithriadau; mae modd osgoi pob un o’r rhain ac maen nhw’n dangos diffyg craffter sydd yn ei dro yn gwneud i ni gwestiynu faint o ymdrech y byddwch yn ei wneud ar ein cwrs. Dylech ofyn i rywun dibynadwy i brawfddarllen y datganiad cyn i chi bwyso’r botwm cyflwyno.

Defnyddiwch yr holl adnoddau sydd ar gael i chi ar UCAS

Mae UCAS wedi gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau bod eu systemau’n ei gwneud mor rhwydd â phosibl i chi wneud rhannau technegol eich datganiad yn iawn. Edrychwch ar eu canllaw cam-wrth-gam hwylus yma.

PEIDIWCH  dechrau gyda dyfyniad

Rydym ni eisiau clywed eich geiriau chi, nid rhai rhywun arall. Mae dyfyniad ar hap heb unrhyw esboniad yn waeth fyth: ‘Mae’n rhaid i bob un ohonom ddewis rhwng yr hyn sy’n iawn, a’r hyn sy’n hawdd!’ Hyfryd, ond beth mae hynny’n ei ddweud amdanoch CHI? Y peth hawsaf i’w wneud yw osgoi dyfyniadau’n gyfan gwbl.

Peidiwch â gwastraffu lle yn esbonio pethau sydd ar eich cais eisoes

Bydd prifysgolion sy’n darllen eich ffurflen UCAS yn gwybod beth rydych yn ei astudio yn y coleg, felly peidiwch â rhoi gwybod i ni eich bod yn gwneud tair lefel-A mewn Hanes, Saesneg, Celf ac ati. Defnyddiwch egwyddor ‘A beth?’: beth ydych wedi’i ddysgu o’r Lefelau-A yma i’ch gwneud yn ymgeisydd cadarn ar gyfer y brifysgol?

Peidiwch â chael gormod o gyngor

Gall gofyn i nifer o bobl am gymorth wneud mwy o niwed nag o les. Os byddwch yn cael cyngor gan bawb ac yn gwneud yr holl newidiadau y byddan nhw’n eu hawgrymu, gall eich datganiad fod yn generig, yn ddryslyd ac ni fydd yn edrych yn bersonol i chi. Manteisiwch ar y cymorth y bydd eich coleg yn ei gynnig, a phan fyddwch wedi gorffen, gofynnwch i rywun ei brawfddarllen ond gwnewch yn siŵr mai gwaith o’ch ‘eiddo chi’ yw’r cyfan yn y pen draw.

pheidiwch â chopïo. Byth!

Bydd rhai brawddegau yn ymddangos mewn mwy nag un datganiad personol, yn anochel. Rydym yn disgwyl hyn, ac nid yw’n broblem. Ond mae gan UCAS ddull soffistigedig o wirio bod yr holl ddatganiadau personol a gyflwynir iddynt yn wreiddiol. Os byddan nhw’n gweld bod gormod o bethau’n debyg i ddatganiadau eraill sydd yn eu cofnodion, byddan nhw’n rhoi  gwybod i bob un o’r prifysgolion rydych wedi gwneud cais amdanynt. Peidiwch â theimlo’r temtasiwn i dynnu ychydig o baragraffau o’r datganiadau sampl sydd i’w cael ar y we. Nid yw’n werth cymryd y risg.

 Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym ni’n gweld miloedd o Ddatganiadau Personol yn ystod pob cylch. Maen nhw’n amrywiol, diddorol ac yn unigryw yn aml ac felly y dylai hi fod hefyd. Peidiwch â cheisio gwneud eich un chi’n rhy berffaith; dim ond gwneud yn siŵr ei fod yn berffaith i chi!

Edrychwn ni ymlaen at ddarllen eich un chi’n fuan!