Y gyfraith ac iechyd meddwl: y chanlyniadau trosedd sy’n mynd heb eu gweld

wooden gavel that judge uses

Yr achos

Roedd llofruddiaeth y bachgen bach pum mlwydd oed, Logan Mwangi ar ddiwedd Gorffennaf 2021 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru gyda’r gwaethaf a welwyd. Llofruddiwyd y bachgen bach bywiog a chariadus gan ei fam Angharad Williamson, ei lys-dad John Cole a’i lysfrawd 14 mlwydd oed, Craig Mulligan.

Roedd treial y tri aelod teulu a gyhuddwyd yn cynnwys manylion oedd yn erchyll ac yn ofidus. Heb os byddai cyfreithwyr a swyddogion heddlu profiadol wedi cael trafferth dod i delerau gyda’r artaith a’r gamdriniaeth a ddioddefodd Logan yn yr wythnosau a’r misoedd cyn ei farwolaeth.

Y cyfryngau

Yn ystod ac wedi’r treial gofynnodd y BBC imi fynegi barn gyfreithiol a rhoi sylwadau am yr achos, yr amgylchiadau, ei natur unigryw, a’r modd y byddai’r llys a’r barnwr yn delio gyda’r achos wrth ddedfrydu.

Yn ystod un o’m cyfweliadau, fe fynegais farn bod yr achos yn cynnwys tystiolaeth o drais oedd mor echrydus fel y byddai’n peri gofid i’r rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol a lleygwyr, ac y dylai cymorth ar gael ar gyfer unigolion o dan yr amgylchiadau hynny. Ychydig a sylweddolais ar y pryd, y byddai gwneud sylwadau o’r fath yn peri i un o’r rheithgor ymateb i’m sylwadau, gan gadarnhau’r straen a’r trallod yr oedd hi ag eraill wedi ei ddioddef wrth dderbyn y dystiolaeth erchyll yn achos Logan Mwangi.

Y treial

Mewn achosion troseddol, mae’n ofynnol i gyfreithwyr osod yr holl dystiolaeth berthnasol gerbron y llys. Byddai achosion, fel llofruddiaeth Logan yn cynnwys toreth o dystiolaeth ysgrifenedig, ffotograffig, fideo a fforensig, gyda llawer ohono’n dystiolaeth fanwl a graffig. Dyma natur achosion troseddol. Rhaid gosod popeth gerbron y llys, waeth pa mor amhleserus ac ofnadwy y gallai’r dystiolaeth hynny fod. Mae’r barnwr i sicrhau bod aelodau o’r rheithgor wedi mor barod ag y gallent fod i wrando ac edrych ar y dystiolaeth, ond, mae’r rhan fwyaf o’r hyn a welir ac a glywir yn y llys y tu hwnt i brofiadau arferol y rhan fwyaf o bobl. Gall gorfod wynebu gwybodaeth o’r fath fod yn frawychus a hyd yn oed yn niweidiol.

Dywedodd yr aelod rheithgor a siaradodd yn yr achos hwn ei bod wedi ei heffeithio mor ddwfn gan y dystiolaeth a glywodd y byddai cymorth iechyd meddwl wedi’r treial wedi bod yn ddymunol ac y dylai’r llys bod wedi’i gynnig.

Y gefnogaeth

Fe allaf dystio o’m profiadau fy hun fel cyfreithiwr troseddol, bod achosion yn gallu aros gyda chi, yn eich isymwybod, gan eich plagio am flynyddoedd lawer. Gall ffotograffau ailymddangos yn eich meddwl, ac mae hyd yn hyd yn oed sgyrsiau a darnau o dystiolaeth yn gallu dod i’ch meddwl fel petaent yn digwydd yno o’ch blaen chi'r foment honno. Dylai fod cyfleoedd i bobl gael rhyddhau’r meddwl a dadlwytho eu hunain o’r hyn maent wedi ei weld a’i glywed.

Tros flynyddoedd lawer rwyf wedi galw ar i gymorth fod ar gael ar gyfer cyfreithwyr, gweithwyr proffesiynol, aelodau rheithgor a phobl eraill sy’n gweithio yn y system Cyfiawnder Troseddol. Fel cyfreithwyr troseddol ac ymarferwyr fe gawn yn aml ein tywys i fydoedd o drais eithafol a llofruddiaeth trwy’r achosion rydyn ni’n eu trin, a hynny’n ddyddiol weithiau. Gall y gweddillion aros am flynyddoedd, ac mae’n amser cynnig cymorth i rai o ddioddefwyr troseddau sy’n mynd yn angof.

Y radd

Trwy astudio gradd y Gyfraith yn PGW, byddwch yn cael y dewis i dreiddio'n ddyfnach o fewn iechyd meddwl y gyfraith, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fodiwlau eraill sy'n arbenigo yn y gyfraith. Os oes gennych chi ddiddordeb yn iechyd meddwl yn unig, bydd ein gradd Iechyd Meddwl a Lles yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i chi, sy'n berffaith ar gyfer gyrfa yn y maes hwn.

Cymrwch y cam nesaf; archwiliwch ein cyrsiau israddedig i ddod o hyd i’r un i chi. Neu, beth am archebu lle ar un o’n cyrsiau byr i gael blas i’ch helpu i ddatblygu ymhellach, yn broffesiynol a phroffesiynol. Gallwch hefyd ddod ar ymweliad diwrnod agored i ddysgu mwy am ein cyrsiau ac am fywyd myfyrwyr yn PGW.

 

Ysgrifennwyd gan Dylan Rhys Jones, darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.