Y WYDDONIAETH Y TU ÔL I GOFLEIDIO, AC YMLAEN Â’R SIOE AR GYFER THEATRAU

Group performance in Blood Brothers

Cipolwg gan ein harbenigwyr ar ddod un cam yn agosach at normalrwydd. 

Roedd Mai 17eg, neu ‘ddiwrnod y cofleidio’ yn ôl y cyfryngau, yn ddiwrnod a welodd miliynau o bobl ar draws y DU yn ailgysylltu gydag anwyliaid, diwrnod ble roedd modd mynychu hoff leoliadau (dan do) ac efallai hyn yn oed fynd ar awyren i fan cynhesach, wrth inni gymryd cam yn agosach at normalrwydd yn y frwydr yn erbyn COVID-19. 

Mae theatrau a lleoliadau creadigol eraill wedi dioddef yn enbyd ers gorfod cau’r llenni am yn agos i flwyddyn. O aelodau cast i griw cefn llwyfan, y dderbynfa, timoedd hyrwyddo a’r holl ffordd drwy’r gadwyn gyflenwi i wneuthurwyr gwisgoedd ac ysgrifenwyr - mae’n amlwg bod y diwydiant wedi hiraethu am gael gweld y diwrnod pan mae modd dychwelyd at ddiddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad.

Mae’r newyddion da wedi esgor ar lawer o optimistiaeth yn y Brifysgol hefyd. Dyma farn Elen Mai Nefydd ar beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y diwydiant a myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam.

“Fel gradd rydym yn deall pa mor berygl y byddai hi i theatrau aros ar agor a gweithio fel ag o’r blaen yn ystod y pandemig Covid-19 oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch. Fodd bynnag, mae’n newyddion addawol iawn clywed bod theatrau wedi ailagor, ac rydym wrth ein bodd o glywed y bydd gweithgaredd theatraidd yn digwydd unwaith yn rhagor. Mae ein myfyrwyr yn hyfforddi i weithio mewn diwydiant a fu’n lle tywyll am fisoedd, felly bydd ein holl fyfyrwyr theatr yn croesawu’r newyddion yma. Mae’r newyddion yma yn newyddion arbennig o dda ar gyfer ein myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf am y bydd yr ail-agor, gobeithio, yn darparu llawer o gyfleoedd cyflogaeth er mwyn iddyn nhw gael symud ymlaen i fyd gwaith a dechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd yn llawn gobaith.”

Canmolodd Elen Mai hefyd ystwythder a chreadigrwydd y tîm staff a myfyrwyr cyfredol sydd wedi addasu i arferion dysgu digidol newydd yn ystod y pandemig. Dywedodd “…mae ein myfyrwyr wedi cofleidio llwyfannau digidol tros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi parhau, er gwaethaf rhwystrau, i gynhyrchu ystod ragorol o waith. Er eu bod wrth gwrs yn edrych ymlaen at wefr cynulleidfa fyw unwaith yn rhagor yn y dyfodol agos, fe aethon nhw ati i gynhyrchu cynhyrchiad digidol gair am air cydweithredol dan y teitl  ‘Pobl y Pandemig’ sydd yn defnyddio cyfweliadau go iawn gyda gweithwyr allweddol i ddangos datblygiad y feirws o fis Mawrth 2020 hyd heddiw.”

Yn ychwanegol at weld eich hoff sioe gerdd yn y theatr, mae’r llacio newydd yma ar gyfyngiadau symud hefyd wedi cyfreithloni cofleidio unwaith yn rhagor. Wedi’i osod yn rhif pedwar o’r ‘30 peth y mae pobl Prydain yn edrych ymlaen atynt wedi’r Pandemig’, mae cymaint ohonom ni wedi ysu am gyswllt dynol ffrind neu berthynas yn hytrach na sgwrsio dros Zoom neu FaceTime.

Ond pam mae hyn felly? Mae’r Athro Neil Pickles, Deon Cysylltiol Materion Academaidd, yn egluro’r wyddoniaeth y tu ôl i gofleidio.

“Pan rydych chi’n cofleidio perthynas, mae cemegyn o’r enw ocsitosin yn cael ei ryddhau. Mae’r cemegyn yma yn gysylltiedig â hapusrwydd ac mae ganddo nodweddion lleddfu straen, a dyma’r rheswm pam fod llawer ohonom yn chwilio am gysur drwy gofleidiad. Mae rhai astudiaethau ymchwil wedi dangos bod y buddion yma yn hynod bwerus mewn menywod, ac mewn rhai achosion, gall pŵer cofleidio hyd yn oed gyfrannu at leihau pwysau gwaed. Wrth gwrs, bydd llai o berygl Covid-19 i unigolion sydd wedi eu brechu, a byddant yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws pan fyddant yn agos at eraill”. 

Fel yn achos y rhan fwyaf o newidiadau, mae’r llacio cyfyngiadau symud wedi hollti barn, gyda rhai yn teimlo’n bryderus wrth feddwl am gymdeithasu a chymysgu unwaith yn rhagor. Mae arweiniad ar sut i ‘gofleidio’n ofalus’ wedi ei ryddhau i helpu’r rhai a allai deimlo’n betrusgar am y rheoliadau newydd.

Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau ar gael yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Pa un ai a ydych chi am am gael eich ysbrydoli gan wyddonwyr blaenllaw ar ein rhaglenni Biocemeg a Gwyddor Fforensig, mae gennym ni gyrsiau i ddiwallu amrywiol ddiddordebau yma ym Mhrifysgol Glyndŵr. 

Ysgrifennwyd gan Alice James, Swyddog Ymgysylltu â'r Gyfadran a Liason ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.