YDY HI’N AMSER I ADENNILL EICH LLES

Efallai’ch bod chi wedi bod yn mynd i’ch gweithle yn fwy aml, ond gweithio o adra ydach chi mewn gwirionedd, ac mae’r diwrnodau yn dal i deimlo’r un fath â’i gilydd.

Efallai’ch bod chi wedi bod yn gweld ffriniau a theulu, ond ddim rhywsut yn cael y mwynhad llawn o hyn eto, neu hyd yn oed yn teimlo bod pethau’n drech na chi ar adegau ac yn cilio’n ôl i’r tŷ.

Efallai’ch bod chi wedi bod yn mynd unwaith eto i siopau nad ydynt yn ‘hanfodol’ neu leoliadau hamdden, ond yn methu eu mwynhau nhw fel oeddech chi gynt.

Efallai’ch bod chi’n gwneud y pethau rydych chi wastad wedi eu gwneud, ond dydy’r cymhelliant ddim yno, neu rydych yn teimlo’n ddryslyd.

Beth ar wyneb y ddaear sy’n digwydd? Mae bywyd yn ‘agor i fyny’ uwaith yn rhagor, ac mae ‘na lawer mwy o arwyddion positif o’n hamgylch ni. Mae’n bosib eich bod chi wedi gwneud popeth yr oeddech chi i fod i’w wneud yn ystod y ‘cyfnodau clo’ – o goginio teisen fanana i fynd am dro bob dydd. Rydych chi wedi dod drwy’r gwaethaf o’r pandemicg, ac wedi profi adegau gwell a gwaeth na’i gilydd, ond yn y bôn, yn dal ati ac yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i ‘normalrwydd’. Rydych chi wedi gwneud mor dda…felly pam ydach chi nawr yn teimlo eich bod chi mewn rhyw gyflwr bron yn barhaus y gellir ‘mond ei ddisgrifio fel bod yn ‘ddifflach’, neu nad ydach chi’n symud ymlaen eto?

Yn gyntaf, peidiwch â phoeni. Mae hyn yn adwaith normal o brofi’r galar, y cyfyngiadau symud a’r ynysu cymdeithasol sy’n dod law yn llaw gyda pandemig byd-eang. Cam cyntaf hanfodol i adennill eich lles yw cydnabod y cyflwr ‘difflach’ yma ynoch chi, er mwyn ichi fedru gwneud rhywbeth amdano fo!...A nawr eich bod chi wedi gwneud hyn, beth am inni gymryd golwg agosach ar les mewn byd sydd yn newid, a’r hyn y gallwch chi wneud i adennill eich un chi! 

Ail-ddiffinio lles?

Mae lles yn gysyniad hynod anodd ei ddiffinio, ac yn aml mae’n cael ei ddrysu gyda thermau eraill fel iechyd meddyliol a hapusrwydd. I rai, mae lles yn ‘deimlad’ goddrychol o ‘lesiant’ corfforol, meddyliol a/neu gymdeithasol, tra i eraill mae’n ymwneud â chael yr adnoddau i gwrdd â heriau bywyd ac felly cynnal cyflwr ‘cytbwys’. I eraill, mae lles yn golygu bod yn gyfforddus a bodlon. Diffiniad yr ydym ni’n hoff ohono yw ei fod yn gyflwr o ‘ffynnu’ sydd yn tarddu o feddwl iach. Efallai mai ffynnu yw’r peth sydd ar goll i lawer o bobl ar hyn o bryd; maen nhw’n ‘oce’ neu’n ‘iawn’ ond mae eu sioncrwydd a’u hasbri fel petai wedi ei golli.

O ystyried yr anawsterau sy’n gysylltiedig â’r cysyniad o les, nid yw hi o bosib yn syndod nad yw pobl yn gwybod bob tro beth sy’n gwella eu lles, heb sôn am yn ystod cyfnod mor anarferol! Sawl tro yr aethom ni ar ôl pethau sydd, yn ein tyb ni, yn gwneud inni deimlo’n dda - y swydd ddelfrydol honno, eitem hyfryd o ddilledyn, neu hyd yn oed ddarn o gacen - ond mae’r pleser mor ddiaros, hyd yn oed os gwnaethom ni sylwi arno o gwbl, ac nad ydan ni’n gosod ein bryd ar bethau eraill neu fod pethau eraill yn mynd â’n sylw ni. Mae seicolegwyr wedi defnyddio’r cysyniad o ‘felin droed hedonaidd’ i ddisgrifio’r tueddiad yma. Yn ddiddorol, mae ymchwil yn dangos bod pobl yn dod yn ôl dro ar ôl tro at ‘lefel sail’ o les, waeth pa mor hapus mae rhywbeth yn gwneud iddyn nhw deimlo; mae hyd yn oed enillwyr y loteri wedi dychwelyd i’w ‘pwynt sylfaen’ o fewn blwyddyn o’r digwyddiad! Ond yr hyn sy’n galonogol o’r ymchwil yma yw nad yw lefel sylfaenol person yn gynhenid, a bod modd ei altro drwy hyfforddi.

Mae cwestiynau pwysig yn codi o’r ymchwil yma ar les: Ydy’r pandemig wedi gostwng ‘lefel sylfaenol’ pobl o ran hapusrwydd oherwydd eu bod wedi profi cyfnodau hir a mynych o sefyllfaoedd llawn straen? Ydy’r digwyddiadau tros y flwyddyn ddiwethaf wedi newid ein barn am yr hyn sydd o bwys mewn bywyd, ac felly’r pethau sy’n gwneud inni deimlo’n dda? A sut ydym ni’n adennill ein lles mewn byd sydd yn prysur newid?

Adennill eich lles…

Er y gallai hyn edrych yn gymhleth, y newyddion da yw bod pethau cymharol hawdd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran adennill ein lles. Tros gyfnod y pandemig, mae cymaint o ddewisiadau wedi mynd tu hwnt i’n rheolaeth. Mae penderfyniadau am bwy gawn ni eu gweld, beth allwn ni wneud a ble gallwn ni fynd yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol. Gall hyn wneud inni deimlo’n ddi-rym - ein bod ni’n eistedd yn sedd y teithiwr mewn car y mae rhywun arall yn ei yrru, heb unrhyw reolaeth dros ble rydym ni’n mynd.

Cam allweddol gyda adennill ein lles yw rhoi eich hun yn ôl tu ôl i’r olwyn drosiadol honno – gofyn i’n hunain, beth sydd o fewn fy rheolaeth? Ble ydw i am fynd, a sut ydw i am gyrraedd yno? Fe allwn ni wneud hyn mewn ffyrdd hynod hawdd: 

  • Adennill: RHEOLAETH: Gwnewch restr o’r pethau sydd yn digwydd yn eich bwyd ar hyn o bryd. Yna, gyda phin ysgrifennu, rhowch linell drwy’r rhai nad oes gennych chi reolaeth drostyn nhw. Edrychwch ar yr hyn sydd weddill - dyma’r pethau y mae gennych chi reolaeth drostyn nhw, ac y medrwch chi felly eu hadennill. Os ydyn nhw’n broblemau, sut medrwch chi fynd i’r afael â nhw? Os ydyn nhw’n bethau positif, sut medrwch chi fuddsoddi mwy ynddyn nhw?
  • Adennill: ARFERION: Yn aml mae ein harferion yn tyfu o amlygch yr ‘angen i wneud’ pethau. Beth am ddechrau o’r newydd, a phenderfynu beth hoffech chi ei gynnwys yn eich bywyd pob dydd. Efallai y gallwch chi feddwl am: faint o orffwys hoffwn i ei gael? Beth a phryd hoffech chi fwyta?  Sut gallwch chi ychwanegu mwy o’r pethau sy’n rhoi mwynhad ichi? Oes yna bethau oedd yn arfer bod yn rhan o’ch arferion nad ydych chi am eu gwneud mwyach? 
  • Adennill: CYMHELLIANT: Lluniwch gollage (ar bapur neu’n ddigidol), wedi ei orchuddio gyda lluniau o’r pethau sy’n eich ysgogi. Gall hyn fod yn fannau yr hoffech chi ymweld â nwy rhyw ddydd, pobl sy’n eich ysbrydoli, lliwiau neu olygfeydd sy’n codi’ch ysbryd, ac ati.

Mae’r byd wedi newid ac rydym ni wedi newid…a nawr mae’n amser gwneud newidiadau i adennill ein lles. Mae Tîm Iechyd a Lles PGW wedi trefnu haf llawn blogiau a fideos sydd yn archwilio sut y gallwn ni adennill lles! Cadwch lygaid arnom drwy ein dilyn ar Facebook @glyndwrhealth a Twitter @glyndwrhealth

 

Ysgrifennwyd gan Dr Sharon Wheeler a Rachel Byron, darlithwyr BSc (Anrh) Iechyd Cyhoeddus a Lles ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.