YDY O WERTH MYND I'R BRIFYSGOL?

Oes pwynt mynd i brifysgol? Mae’n gwestiwn anferth a ‘does dim ateb cywir neu anghywir. 

Roeddwn i’n lwcus oherwydd roeddwn yn gwybod beth o’n i. Pan ddewisais fy opsiynau ym mlwyddyn 9, a hefyd pan es i goleg, roedd astudiaethau cyfryngau’n darged clir i fi. Felly, roedd mynd i brifysgol yn benderfyniad hawdd i fi. 

Mae fy nghwrs yn bopeth roeddwn i’n gobeithio amdano a mwy. Dw i ar fin cwblhau fy ngradd Darlledu, Newyddiaduraeth a Chyfathrebiadau’r Cyfryngau. A dweud y gwir, heb brifysgol ni fydda i hefo'r sgiliau a gwybodaeth sydd gen i rŵan. 

Rwyf wedi cael ystod eang o brofiadau yn Glyndŵr, gan gynnwys cynllunio a chyflwyno syniadau teledu a sain i CBBC, All4 a BBC Radio Wales, cymryd rhan mewn sioe deledu BBC One Wales a bod yn arlywydd cylchgrawn Egwyl yn fy mlwyddyn olaf. Mae hyn oll yn brofiad y buaswn ddim yn ei chael taswn i ddim wedi dod i brifysgol, ond mae.

Mae darlithwyr yn rhan bwysig o fywyd prifysgol. Galla i ddim siarad dros bob myfyriwr, ond mae fy narlithwyr i wedi bod yn anhygoel! Maen nhw bob amser yn sicrhau bod ganddynt amser i bob un ohonom - rywbeth na cheir pob tro yn y diwydiant yma.

Mae’n anodd cydbwyso astudio, gweithio, bywyd cartref, cael profiadau newydd a chymdeithasu, ond fel pob dim arall, mae’n dod mewn amser ac mae tîm cynorthwyo myfyrwyr Glyndŵr yn ardderchog.

Wrth edrych yn ôl ar bwy roeddwn i gyn dechrau fy ngradd, mae fel edrych ar berson hollol wahanol.

Rydych yn aeddfedu gymaint heb sylwi ei bid yn digwydd. Doedd gen i ddim hyder tair blynedd yn ôl a, gan wybod yr hyn dw i’n gwybod rwan, doedd dim gobaith gen i o lwyddo mewn cyfweliad swydd.

Mae’r gwaith yn bwysig, wrth gwrs, mae cyfeillgarwch thyfiant personol wedi bod yr un mor bwysig.  

Mae dyled yn gallu gwneud i bobl penderfynu peidio myn i’r brifysgol, ond mae opsiynau ar gael i helpu hefo materion ariannol, felly gwnewch eich ymchwil cyn gwneud penderfyniad byddwch efallai yn ei difaru yn y dyfodol.

Mae meddwl am ddyled yn, ond mae opsiynau ar gael i helpu hefo materion ariannol, felly ymchwiliwch cyn gwneud penderfyniad y byddwch efallai’’n difaru yn y dyfodol.

Ydi prifysgol yn anodd? YDI

Ydw i wedi poeni am waith? YDW

Ydw i wedi gwneud smonach o bethau ar ryw adeg? YDW

OND

Ydw i wedi chwerthin? YDW

Ydw i wedi cael y tair blynedd gorau? YDW

Ydw i wedi gwneud ffrindiau agos? YDW

Rwyf wedi clywed erioed fod cael gradd yn wych ac os gewch chi brofiad hefyd, rydych yn gwneud yn dda mewn bywyd!

Felly, ydw i’n meddwl ei bod yn werth mynd i brifysgol? Ydw, cant a chant!

Mae’r canlyniad terfynnol, profiadau a chyfeillgarwch werth y byd.

 

Ysgrifennwyd gan Emma Tattum. Mae Emma yn fyfyrwraig Darlledu, Newyddiaduriaeth a Chyfryngau trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.