YMATEBWYR CYNTAF I FASNACHU POBL A’R CYMORTH MAENT YN EI GYNNIG

RÔL BROFFESIYNOL GYDA BAWSO

Fy enw i yw Glory William, ac rwy’n gweithio fel Uwch Ymarferydd Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl a Chynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref. Mae fy rôl yn cynnwys asesu a darparu cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr potensial a dioddefwyr camdriniaeth megis Trais yn Erbyn Menywod Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Trais ar sail Anrhydedd, Masnachu Pobl, Cyngor a Gwybodaeth yn enwedig i Lleiafrifoedd Du ac Ethnig yn ein cymuned leol. Rydw i hefyd yn darparu Hyfforddiant, Codi Ymwybyddiaeth, yn mynychu cyfarfodydd, Cynadleddau, yn rhan o Gyrch/Gweithrediadau a gwiriadau lles. Rydw i hefyd yn cyfeirio dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern i broses y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol.

BAWSO yw’r sefydliad arweiniol yng Nghymru sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol ar gyfer dioddefwyr sydd yn perthyn i leiafrifoedd du ethnig (BAME) a mewnfudwyr sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol, masnachu dynol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a phriodas dan orfod. Sefydlwyd BAWSO yn 1995 a’n gweledigaeth yw dyfodol ble mae pob person yng Nghymru yn rhydd rhag gamdriniaeth, trais a chamfanteisio. I gyflawni’r weledigaeth hon, rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino am bedair mlynedd ar hugain i roi diwedd ar bob ffurf ar Drais yn erbyn Menywod. Rydym wedi cefnogi chwarter miliwn o bobl.

YR ANGEN RYDYM YN EI GYFARCH

Mae Pobl/Dioddefwyr sydd o ethnigrwydd Du neu Leiafrifol yn wynebu llawer o faterion a rhwystrau wrth gael mynediad at gymorth, o gael eu trin fel dinasyddion ail-ddosbarth yn eu cymunedau eu hunain, i wahaniaethu ehangach yng nghymdeithas Prydain, unigedd, statws mewnfudo ansicr a rhwystrau iaith, i ofni gael eu diarddel gan y gymuned os ydynt yn ffoi rhag cael eu cam-drin.

Mae angen cymorth arnynt i ddeall beth yn union yw camdriniaeth, diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed, sydd yn aml yn cael ei achosi nid yn unig gan bartneriaid, ond hefyd gan y teulu agos ac estynedig. Maent angen adennill hyder a sgiliau i ddechrau o’r newydd a byw’n annibynnol, yn aml am y tro cyntaf yn eu bywyd. Hefyd mae angen eiriolaeth empathig arnynt i ganfod eu ffordd drwy’r ddrysfa o wasanaethau cymorth.

SUT RYDYM YN HELPU

Rydym yn ymyrryd ar y cyfle cynharaf posib i amddiffyn pobl sydd mewn perygl o ddioddef trais, ac yn cefnogi’r rhai hynny sy’n dioddef, gan fynd gyda nhw ar eu taith tuag at ddiogelwch ac adferiad. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau arbenigol sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, drwy ein llinell gymorth 24 awr, canolfannau cyngor ac eiriolaeth drws agored, llochesau pwrpasol, a gwasanaethau yn y gymuned. Rydym yn cynnig:  

  • Cyngor am dai a gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais.
  • Gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais domestig a thrais rhywiol.
  • Cymorth Masnachu Pobl/Caethwasiaeth Fodern.
  • Cymorth a chanolfan adrodd am Droseddau Casineb.
  • Cymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).
  • Priodas dan Orfod a Thrais ar sail Anrhydedd.
  • Gallwn gynorthwyo dioddefwyr camdriniaeth sydd yn methu troi at arian cyhoeddus.

Rydym yn cyfrannu at atal menywod a dynion rhag dod yn ddioddefwyr dro ar ôl tro, drwy adeiladu eu hyder, eu pendantrwydd a’u dealltwriaeth o’u hawliau. Rydym yn eu cefnogi i adfer o’r drawma maent wedi ei dioddef ac i symud ymlaen gyda’u bywydau. Yn olaf, rydym yn gweithio gyda chymunedau BAME i herio arferion traddodiadol niweidiol ac i herio agweddau sy’n golygu bod camdriniaeth yn parhau i fynd heb ei adrodd.

Mae’n bwysig adnabod y mathau o Gaethwasiaeth Fodern sy’n drosedd dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. “Deddf Seneddol yw Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 sydd wedi ei llunio i fynd i’r afael â masnachu dynol drwy gyfnerthu’r ddeddfwriaeth flaenorol a chyflwyno mesurau newydd.” Y rhain yw Camfanteisio ar Lafur, Camfanteisio Rhywiol, Troseddu Gorfodol, Caethwasiaeth Domestig a Chynhaeafu Organau.

ARWYDDION A DANGOSYDDION

Maent yn cynnwys y canlynol:

  • Dim dogfennau adnabod personol ganddynt neu basbort/dogfennau yn cael eu dal gan berson arall.
  • Diffyg arian/rheolaeth dros eu harian eu hunain neu ddiffyg mynediad at enillion.
  • Yn byw/cysgu yn y man gwaith.
  • Unrhyw dystiolaeth o reolaeth dros symud, naill ai fel unigolyn neu grŵp.
  • Cyswllt prin gyda theulu a chyswllt cymdeithasol prin.
  • Eraill yn ceisio siarad dros y person rydych yn ceisio ymgysylltu â nhw.
  • Yn byw neu wedi eu canfod mewn cyflwr ‘diraddiol’.
  • Plant ddim yn derbyn addysg.

CYMORTH AR GYFER DIODDEFWYR

Mae dioddefwyr potensial a dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern sydd yn y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ac sydd wedi derbyn penderfyniad sail rhesymol cadarnhaol yn cael eu cefnogi gan y Swyddog Cyswllt Gofal Dioddefwr. Maent yn gymwys i dderbyn:

  • Cymorth ariannol.
  • Cymorth materol.
  • Gwasanaethau dehongli.
  • Cyngor a Gwybodaeth.
  • Cymorth meddygol a chwnsela.
  • Llety saff a diogel.
  • Mynediad at wasanaethau Cyfreithiol perthnasol.
  • Mynediad at weithiwr cymdeithasol.

Mae BAWSO yn codi ymwybyddiaeth ac yn Darparu Hyfforddiant ar Gaethwasiaeth Fodern yn ogystal â’n Prosiectau eraill gydag Asiantaethau ac aelodau o’n cymuned leol.

HYFFORDDIANT AR GYFER YMRFERWYR

Rydym hefyd yn lleihau’r rhwystrau y mae dioddefwyr BAME yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau statudol a gwirfoddol drwy hyfforddi ymarferwyr ar anghenion a phrofiadau’r gymuned BAME. Rydym yn cynnig rhaglenni hyfforddi ar:  

  • Cymorth Masnachu Pobl/Caethwasiaeth Fodern.
  • Cymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.
  • Cymorth Priodas dan Orfod a Thrais ar sail Anrhydedd.

TROSEDDEG A CHYFIAWNDER TROSEDDOL AT PGW 

Mae Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol wrth wraidd dadleuon cyfoes sydd yn ystyried sut rydym ni fel cymdeithas yn ymateb i, ac yn deall trosedd. Un drosedd sydd yn cael sylw beirniadol ar draws y cwricwla yn ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yma ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam yw testun Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. Yma bydd myfyrwyr yn ymgysylltu’n feirniadol gyda dadleuon ynghylch camfanteisio a masnachu pobl, gyda’r myfyrwyr yn dysgu am y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen wrth geisio cefnogi dioddefwyr. Yn ychwanegol at ddeall y ddamcaniaeth droseddeg sy’n sail i Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl, bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio’r hyn sy’n gwneud pobl yn agored i gael eu masnachu, sut gall pobl gael eu masnachu a sut i wneud addasiadau ar gyfer effeithiau trawma. Gydag arbenigedd yn y maes, a chysylltiadau gydag ystod eang o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae rhaglenni gradd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam hefyd yn tynnu ar gyfoeth o brofiad i fwyhau profiad myfyrwyr.

Gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglenni Israddedig neu Ôl-raddedig.

EIN LLINELL GYMORTH 24 AWR0800 731 8147  Swyddfa Wrecsam BAWSO: 01978 355818

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL:@bawso ar bob platfform neu TWITTER:  www.twitter.com/bawso  INSTAGRAMwww.instagram.com/bawso FACEBOOKwww.facebook.com/bawso