YSTYRIED ASTUDIO AR LEFEL ÔL-RADDEDIG

Postgraduate students studying

Ystyried astudiaethau ôl-raddedig? Efallai ei bod hi'n flynyddoedd ers eich astudiaethau israddedig neu efallai eich bod chi'n dod i ddiwedd eich gradd ac yn meddwl am fynd i lawr y llwybr ôl-raddedig.

Beth bynnag bo'r sefyllfa, mae yna lawer o bethau i'w hystyried cyn i chi gychwyn ar studiaeth ôl-raddedig. Mae'n ymrwymiad mawr ac mae'n bwysig gwneud eich ymchwil cyn penderfynu cymryd y cam mawr nesaf.

Yn gyntaf oll, meddyliwch am pam yr ydych am wneud gradd ôl-raddedig - a ydych chi eisiau gwella'ch gwybodaeth, dod yn arbenigwr yn eich pwnc neu eisiau gwella'ch rhagolygon am swydd? Os ydych chi'n credu y bydd gwneud gradd ôl-raddedig yn gwella'r cyfle ichi gael swydd benodol ar y diwedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hyn – ffoniwch gyflogwr yr hoffech weithio iddynt a gofyn iddynt a fydd y cwrs yr ydych yn bwriadu ei wneud yn golygu eich bod yn fwy cyflogadwy.

Meddyliwch am ble rydych chi am wneud y cwrs, y dull astudio a faint o oriau cyswllt sydd, achos efallai y byddwch yn ceisio ymdopi â bywyd teuluol neu waith gyda'ch astudiaethau.

Hefyd, a fyddwch chi'n gallu ei fforddio? Mae rhai prifysgolion fel ni yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd wedi gwneud eu hastudiaethau israddedig gyda ni. Mae yna lawer o wybodaeth hefyd ar ein gwefan ynghylch pa gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.  

Y peth gorau i'w wneud os ydych chi'n meddwl am astudiaeth ôl-raddedig yw dod i un o'n nosweithiau agored.  Rydym yn cynnal nosweithiau agored astudiaethau ôl-raddedig, proffesiynol a rhan-amser ttrwy gydol y flwyddyn sy'n rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr ddod draw a siarad am y pwnc (pynciau) y mae gennych ddiddordeb ynddynt a siarad â darlithwyr wyneb yn wyneb. Byddwch yn dysgu mwy am y rhaglen, y ffordd y byddwch chi'n astudio a'r ffordd y byddwch yn cael eich asesu yn ogystal â'r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n astudio yma.

Bydd gwasanaethau cymorth ar gael i siarad am unrhyw bryderon eraill a allai fod gennych am astudiaeth ôl-raddedig – o ariannu'r cwrs, i gyngor gyrfaol a chyflogadwyedd. Yn aml, bydd gennym fyfyrwyr cyfredol wrth law i ateb cwestiynau am y brifysgol ac iddynt ddweud wrthych sut beth yw astudio yma.

Cynhelir ein noson agored ôl-raddedig, broffesiynol a rhan amser nesaf ddydd Mercher, Hydref 2 o 4.30-6.30pm. I archebu lle, ewch i'n hadran noson agored ar ein gwefan.

 
Ysgrifennwyd gan Antonia Jones, Rheolwr Cyfathrebu Digidol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.