Pa ffordd well o roi hwb i'ch busnes yn y flwyddyn newydd nag arddangos eich busnes, neu gysylltu gyda busnesau yn un o'r prifysgolion a chododd mwyaf yn Nhabl Cynghrair Prifysgol y Guardian '22? 

Mae Prifysgol Glyndŵr yn gyffrous iawn i gynnal digwyddiad Arddangosfa Busnes ar raddfa fawr ar y campws yn Chwefror ac yn estyn croeso i fusnesau arddangos eu busnes, neu fynychu. Gwahoddir busnesau i gynnal stondin am £100 (noder nad oes ffi i elusennau), neu i ymweld ac ymgysylltu ag amrywiaeth helaeth o fusnesau sy'n cynrychioli gwahanol sectorau diwydiant ar draws Gogledd Cymru a'r rhanbarth ehangach. 

 

Dyddiad: Dydd Mercher, 8fed o Chwefror 2023

Amser: 10.00-3.00 

Lleoliad: Canolfan Chwaraeon Plas Coch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW 

Mae manteision rhedeg stondin a mynychu yn cynnwys y cyfle i: 

  • Gyflwyno eich busnes ac arddangos eich gwaith a'ch arbenigedd i fusnesau a sectorau eraill
  • Rhyngweithio a sefydlu cysylltiadau â chynrychiolwyr eraill 
  • Cefnogi myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wrth iddynt chwilio am gyfleoedd lleoliad a gyrfa

Yn yr un modd, mae'r digwyddiad ar agor i fusnesau na fydd yn arddangos a bydd yn rhoi llwyfan i gysylltu â busnesau lleol ac archwilio cyfleoedd gyrfa

Enillwch gefnogaeth amhrisiadwy gan dîm Menter Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a fydd wrth law drwy'r dydd. Dysgwch sut y gallwch chi bartneru â'r brifysgol ac archwiliwch y gwahanol gyfleoedd a ariennir sydd ar gael ar stepen eich drws i gyflymu eich twf busnes.

Cewch glywed hefyd gan rai entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr ac yn rhedeg busnesau newydd gan Wrecsam Glyndŵr a fydd yn defnyddio'r digwyddiad hwn fel llwyfan i werthu neu arddangos eu busnes a chydweithio â busnesau eraill.

I ddangos diddordeb mewn bwcio stondin, cliciwch yma.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r tîm Menter drwy e-bost: enterprise@glyndwr.ac.uk