Gyda nifer o safleoedd ledled Gogledd Cymru, mae gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam amrywiaeth eang o gyfleusterau sydd ar gael i helpu i gefnogi'ch busnes.

Campws Wrecsam

Mae Canolfan y Diwydiannau Creadigol yn adeilad modern, arloesol a agorodd ei ddrysau yn 2011, a sefydlwyd i gefnogi ein cyfres o gyrsiau creadigol gan gynnwys celf, cerddoriaeth, newyddiaduraeth, darlledu, ffilm a theatr.

Mae gan y canolfan y stiwdios teledu a radio ddiweddaraf, gweithdai 3D, ystafelloedd TG (gan gynnwys cyfarpar hyfforddi Apple) a chyfleusterau ôl-gynhyrchu sain a gweledolac mae hefyd yn ganolfan Gogledd Ddwyrain Cymru i BBC Cymru Wales.

Mae gennym hefyd ganolfan gynadledda ar y safle, Canolfan Catrin Finch sy'n ddelfrydol ar gyfer cynnal cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, cyrsiau hyfforddi ac arddangosfeydd.

Am rywbeth ychydig yn wahanol, mae gennym Xplore! – canolfan darganfod gwyddoniaeth ddiddorol gyda llu o arddangosfeydd ysgogol ar gyfer dysgu ymarferol.

Llanelwy

Yn ein campws yn Llanelwy, fe welwch ein canolfan ymchwil arloesol, sy'n dod ynghyd arbenigwyr o diwydiant ac academia.

Mae gennym amrywiaeth o labordai a gweithdai arbenigol yn cynnwys ystod eang o'r offer technegol diweddaraf sydd yn canobwyntio ar brosiectau ymchwil sy'n arwain y byd.

I gael gwybod mwy am y cyfleusterau sydd ar gael ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293997.