Datblygiad  Proffesiynol

Rydym yn credu mewn arfogi pobl â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwir botensial yn yr yrfa o'u dewis. Defnyddiwn senarios ymarferol a gwersi bywyd go iawn i baratoi myfyrwyr, gweithwyr a sefydliadau am yr heriau sy'n newid yn barhaus y byddant yn eu wynebu.

Yn yr amserau economaidd heriol hyn, mae'n hanfodol bod sefydliadau a'u gweithwyr ar y blaen pan ddaw i gystadlu. Bydd staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i lwyddiant y busnes.

Cyrsiau proffesiynol

Ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, rydyn ni'n rhedeg nifer o gyrsiau sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer gweithwyr proffesiynol, sy'n eich galluogi i gael cymwysterau newydd a sefyll pen a'ch ysgwyddau uwchben y gystadleuaeth.

Gweld ein rhaglen gyfredol o gyrsiau proffesiynol

Graddau ôl-raddedig

Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth eang o gyrsiau ôl-raddedig - gall dewis astudio ar y lefel hon ddod â nifer o fanteision i'ch gyrfa broffesiynol. 

Gall cymhwyster ôl-raddedig ymestyn eich sgiliau yn y maes o'ch dewis, ac yn aml yn gallu gwella'ch rhagolygon a mynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf.   Mae llawer o gyrsiau hefyd ar gael i astudio'n rhan-amser, sy'n golygu y gallwch barhau yn eich swydd bresennol wrth astudio.

Gweld ein graddau ôl-raddedig

Hyfforddiant pwrpasol

Os na allwch ddod o hyd i gwrs sy'n cyd-fynd â'ch anghenion fel sefydliad, rydym yn falch o archwilio ffyrdd y gallwn ddefnyddio ein harbenigedd i gefnogi'ch gweithlu trwy gynnig cyrsiau pwrpasol, wedi'u teilwra i'ch gofynion penodol eich hun.

Mae enghreifftiau o gyrsiau hyfforddi pwrpasol yr ydym wedi'u creu a'u rhedeg ar gyfer busnesau yn cynnwys:

  • Rheoli ac ymdrin â materion perfformiad
  • Iaith fusnes ar gyfer cyfathrebu effeithiol
  • Hyfforddiant Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Ysgrifennu CV a thechnegau cyfweld
  • Datblygu eich tîm gorau
  • Hyfforddiant Hydroleg
  • Rheoli pobl a pherfformiad
  • Arferion siopau peiriannau

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein cyrsiau pwrpasol, cysylltwch â enterprise@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293997.