Mae defnyddio Prentisiaeth Gradd a Ariennir yn Llawn yn gwneud synnwyr i'ch busnes.

Yn gryno, mae Prentisiaethau Gradd yn ffordd wych o ennill cymhwyster lefel Prifysgol i gyflogeion yng Nghymru wrth weithio ar yr un pryd, gan ddarparu budd clir i'r prentis ond hefyd y cyfle i gyflogwyr ddatblygu talent o fewn eu busnes neu uwchsgilio cyflogeion presennol i gwrdd â galw cyfredol ac yn y dyfodol.

Y buddion o ddefnyddio Prentisiaeth Gradd:

  • Cyfoethogi eich gweithlu
  • Llenwi'r bwlch sgiliau
  • Denu cyflogeion gyda sgiliau a gwybodaeth wedi'u teilwra
  • Tyfu'ch busnes
  • Uwchsgilio staff presennol
  • Cynyddu cynhyrchiant
  • Arddangos eich ymrwymiad i fuddsoddi mewn pobl

Yn debyg i brentisiaeth draddodiadol, mae Prentisiaethau Gradd yn cyfuno dysgu cysylltiedig â gwaith ag astudiaeth Addysg Uwch. Rhaid i'r “prentis” fod mewn swydd sy'n briodol i'r rhaglen maen nhw'n ei hastudio a gweithio 51% o'u hamser yng Nghymru. Nid oes terfyn oedran uchaf i'r cwrs hwn.

Ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndwr mae gennym ddegawdau o brofiad mewn dysgu mewn lleoliad gwaith ac addysgu myfyrwyr diwydiannol, ac rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer chwe rhaglen Prentisiaeth Gradd a Ariennir yn Llawn.

Rhaglenni ar gael o fis Medi 2023; 

  • Peirianneg Fecanyddol
  • Peirianneg Drydanol
  • Peirianneg Cynhyrchu
  • Ynni Carbon Isel, Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd - ni yw'r unig Prifysgol yn yr Rhanbarth i gynnig yr rhaglen hwn  

I holi am y rhaglenni canlynol a'u dyddiadau cychwyn nesaf, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk 

  • Seiberddiogelwch
  • Peirianneg Meddalwedd

Meini Prawf Cymhwystra; 

  • Mae'n rhaid i gyflogai fod yn gweithio yng Nghymru am o leiaf 51% o'r amser
  • Mae'n rhaid i gyflogai allu mynychu WGU un diwrnod yr wythnos ar gyfer astudiaethau
  • Mae'n rhaid i gyflogai fodloni gofynion mynediad y rhaglen 

 I ddarganfod mwy am gyfleoedd y Brentisiaeth Gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk


Ydych chi am gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Ydych chi eisiau darganfod mwy am sut y gallech gael mynediad i rhaglenni a ariennir yn llawn wrth weithio'n llawn amser?

Nid oes rhaid i chi ddewis rhwng gradd neu brentisiaeth mwyach. Mae nifer cynyddol o gwmnïau yn cynnig prentisiaethau lefel gradd, fel y gallwch astudio ar gyfer gradd yn ddi-ddyled, gan ennill profiad masnachol ymarferol. Mae prentisiaethau gradd yn wych os oes gennych lwybr gyrfa â ffocws mewn golwg, eisiau dechrau gweithio wrth astudio tuag at radd, ac ennill cyflog wrth i chi ddysgu.

Mae prentisiaeth gradd yn rhoi profiad gwaith go iawn i chi, ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r theori y byddwch chi'n eu cael o astudio gradd. Trwy ganiatau i chi ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer swyddi a gyrfaoedd penodol, gallwch ddechrau eich gyrfa a chryfau eich CV drwy'i deilwra i'r maes rydych chi am weithio ynddo.

Ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndwr mae gennym ddegawdau o brofiad mewn dysgu mewn lleoliad gwaith ac addysgu myfyrwyr diwydiannol, ac rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer chwe rhaglen Prentisiaeth Gradd a Ariennir yn Llawn.

I fod yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer yr rhaglenni hyn gyda PGW rhaid i chi:

• fod mewn cyflogaeth yng Nghymru
• cael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â'r lefel astudio sy'n ofynnol
• cwrdd â'r gofynion mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni
• heb fod astudio pwnc tebyg ar y lefel hyn neu'n uwch o'r blaen.

I ddarganfod mwy am gyfleoedd y Brentisiaeth Gradd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk.