Bariau a Thafarnau

Y bar agosach ydi Glyn's, yn adeilad yr Undeb Myfyrwyr. Tu allan i’r campws, mae gan ardal ganol y dref ddewis enfawr o dafarnau, o dai cwrw traddodiadol i dafarnau mwy modern sy’n dangos chwaraeon byw, i gyd o fewn pellter cerdded byr o'i gilydd.

Mae golygfa myfyrwyr Wrecsam wir wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd diweddar, ac mae yna nosweithiau clybio gwych i fwynhau. Atik ydi clwb nos fwyaf Gogledd Cymru. Gyda’r gallu i fwy na 1600 o bobl i fynychu, mewn dwy ystafell, mae nosweithiau themâu’r clwb yn cynnwys DJs a PAs gorau'r DU yn aml.

Os ydych eisiau ffreshau eich bywyd nos i ffwrdd o Wrecsam, Gaer ydi’r lle agosach, ychydig dros y ffin yn Lloegr. Mae gwasanaethau bws a thrên rheolaidd i’r ddinas, ac ni fydd tacsi yn rhy ddrud os ydych yn mynd i glybio gyda’ch ffrindiau.

 

Cerddoriaeth Byw

Neuadd William Aston ydi’r lleoliad cyngherddau a theatr fwyaf yn Wrecsam ac mae wedi’i leoli yma ar ein prif gampws. Mae’r theatr 900-sedd wedi’i ddylunio ar gyfer rhagor o ddigwyddiadau adloniant, ac mae’n cynnal enwau mawr o gerddoriaeth, comedi a theatr yn aml.

Y Cae Ras ydi tir cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam ac mae’n cynnal gigs hefyd - Stereophonics ydi’r band mwyaf diweddar i chwarae ar y tir.

Bob blwyddyn mae myfyrwyr a darlithwyr o’n cyrsiau Celfyddydau Creadigol yn cymryd rhan gyda Focus Wales, gŵyl cerddoriaeth aml-leoliad, rhyngwladol gyda pherfformiadau o fwy na 100 o fandiau ar draws y dref.

 

Ffilm a Theatr

Mae gan Sinema Odeon yn Nôl yr Eryrod, yng nghanol dref Wrecsam, 8 sgrîn o gyflwr uchel, gan gynnwys 3D, er mwyn rhoi’r gorau yn ansawdd llun a sain. Rydych yn gwarantu golygfa gwych felly gallwch eistedd yn ôl a mwynhau’r ffilmiau newydd i gyd. Gallwch hefyd dderbyn disgownts gwych gyda’ch ID Myfyriwr!

Yn ogystal â’r Neuadd William Aston, mae yna nifer o theatrau yn yr ardal o amgylch Wrecsam. Theatr Clwyd ydi tŷ drama fwyaf poblogaidd Cymru. Mae gan y theatr cwmni cynhyrchu ei hun sy’n perfformio rhaglen amrywiol o sioeau i gynulleidfaoedd bob blwyddyn, gan gynnwys pantomeim Nadolig cerddorol. Mae Theatr Clwyd hefyd yn cynnal theatr deithiol, cyngherddau cerddorol a ffilmiau cyfoes.

Mae’r Stiwt wedi’i leoli’n agosach i’r brifysgol yn Rhos ac mae’n cynnal cymysgedd tebyg o berfformiadau byw a ffilmiau. Cafodd y theatr ei hailwampio ar ddiwedd y 1990au, gwerth sawl miliwn o bunnoedd, ac mae nawr yn gyfleuster cymunedol allweddol i’r bobl yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a phellach.

Mae theatr amatur gyda chynrychiolaeth gref yn Wrecsam drwy Theatr Parc Grove. Mae’r theatr wedi’i leoli yng nghanol y dref ac yn arddangos cynyrchiadau wedi’u perfformio gan grŵp dramatig amatur y theatr.