Does dim prinder o bethau i wneud yn ac o gwmpas Wrecsam i’ch meddiannu.

Boed chi’n chwilio am safle hanesyddol, siopau neu rywbeth ychydig mwy actif, yn sicr na fyddwch yn diflasu.

Dyddiau Allan

Ar agor drwy’r flwyddyn, mae’r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! wedi’i ddylunio i ysbrydoli pobl ifanc am wyddoniaeth drwy’r casgliad o arddangosfeydd ymarferol, sioeau byw a dyddiau gyda themâu. Mae staff o’r ganolfan yn gweithio’n eang gydag ysgolion lleol a’r brifysgol i hybu’r hawlio yng ngwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn addysg.

Gallwch chwarae Bowlio Deg Tenpin yn Nôl yr Eryrod gyda chyfleusterau bowlio gwych, yn cynnwys 24 lôn, ciniäwr Take 10, bar trwyddedig, byrddau pŵl a diddanai.

Tŷ Pawb ydi hwb gelf, galeri a chymunedol Wrecsam. Mae yna siopao, lefydd i fwyta ac yfed, bar, galerïau gelf, theatr a llefydd i berfformio cerddoriaeth. Mae digwyddiadau rheolaidd yn cynnwys gigs, cyngherddau, ffeiriau record, dangosiadau ffilm, nosweithiau comedi, ffeiriau gyrfaol, arddangosfeydd celf, sioeau theatr a chelf a chrefft.

Waterworld ydi’r ganolfan hamdden leol yn cynnig hwyl a gemau dyfrol. Mae’r gosodiad nodedig o gyfleusterau yn cynnwys pwll 25 metr gyda 6 lôn a 300 o seddi i wylwyr, pyllau  dysgu a phwrpas, llithren 65 metr, sy’n wych ar gyfer teuluoedd, yn ogystal â phwll swigod a reid afon dyfroedd gwych.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn brolio ardaloedd eang o brydferthwch naturiol a golygfeydd unigryw. Mae’r parc yn cyfro 838 milltir sgwâr, ac mae’n gartref i’r Wyddfa, sef mynydd mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn 3560 troedfedd.

Mae Gogledd Cymru hefyd yn bendithio o arfordir dros 200 milltir, gyda nifer fawr o draethau fflag las, pob un gallwch gyrraedd yn hawdd.

Os ydych yn aros yng Ngogledd Cymru, ewch draw i Lannau Dyfrdwy i drio allan ychydig o Go-Cartio, neu heriwch eich hunain yng nghanolfan ddringo Boardroom.

Mae Sw Gaer yn agos hefyd, gyda dros 12,000 o anifeiliaid a 400 o wahanol rywogaethau. Ceir ei alw’r sw gorau yn y DU yn aml ac wedi’i restru yn seithfed yn y byd ar TripAdvisor. Hefyd, dros y ffin yn Sir Gaer, gallwch fynd i Goedwig Delamere, llawn o gerddedfeydd hardd, teithiau segway, beicio ac yn gartref i gyrsiau rhaffau pen-coed Go Ape.

Os mai siopao ydi'ch pethau (ac rydych yn barod wedi bod i bob siop yng nghanol dref Wrecsam a Dôl yr Eryrod!) ewch draw i Allfa Dylunydd Cheshire Oaks yn Ellesmere Port i chwilio am eitemau dylunydd am brisiau rhad, Tra rydych yn yr ardal, beth am drio un o’r parciau trampolîn, chwarae ychydig o golff antur neu fynd i Sw Fôr Blue Planet.

Safleoedd Hanesyddol

Gallwch weld un o saith rhyfeddod Cymru, Pigdwr Eglwys San Silyn, ar draws canol y dref. Wyddoch chi y gallwch ddringo i’r top i fwynhau’r olygfa wych o’r dref mae’n rhoi i chi? Mae teithiau’r tŵr dim ond yn digwydd yn ystod y misoedd mwy braf, ac mae angen i chi archebu lle, ond mae wir yn werth yr ymdrech! Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Chanolfan Gwybodaeth Twristiaeth Wrecsam ar 01978 292015.

Wedi’i hadeiladu gan Thomas Telford, mae Traphont Ddŵr nodedig a hynod Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd, wedi’u leoli ychydig filltiroedd o Wrecsam. Yr adeilad Rhestredig Gradd I yma ydi’r draphont ddŵr hirach ac uchaf yn y DU a gafodd ei adeiladu ym 1805. Mae’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae un o dai gorau ym Mhrydain, sef Erddig a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, yn dair milltir i ffwrdd o ganol dref Wrecsam. Cynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a cheir digwyddiadau eu cynnal yno drwy’r flwyddyn, gan gynnwys gŵyl afalau blynyddol, marchnadoedd Nadoligaidd a sioeau awyr agored yn yr Haf.

Mae Cymru yn enwog am gestyll, ac nid oes eithriad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru chwaith. Mae Castell y Waun yn agos, ac yn dyddio o 1310 a theyrnasiad Edward I ac yn cynnwys tŵr canoloesol, daeargelloedd a gerddi drud - hefyd mae yna brofiad segway. Mae Castell Conwy, ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn amddiffynfa carreg dywyll wedi’i hadeiladu ar gyfer Edward I, gan Feistr James o San Siôr. Mae’r castell ymhlith yr amddiffynfeydd canoloesol gorau sydd wedi para ym Mhrydain.