Dewch yn Lysgennad Myfyriwr

Ydach chi / Oes gennych chi...

  • frwdfrydedd go iawn dros Prifysgol Wrecsam a'r cwrs rydych yn astudio?
  • yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm?
  • agwedd hapus a phositif?
  • yn hoffi cwrdd â phobl newydd?
  • eisiau dweud eich stori i bobl eraill?
  • eisiau ennill ychydig o arian ychwanegol?

Os ydych yn ffitio’r meini prawf uchod yna rydym ni’n meddwl byddech yn ffitio i mewn yn dda fel un o’n Llysgenhadon Myfyrwyr angerddol.

Drwy ddod yn Llysgennad Myfyriwr a rhannu eich persbectif unigryw, byddech yn chwarae rhan hanfodol yn arddangos Prifysgol Wrecsam i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, i’w hannog nhw i astudio a byw yma a mwynhau profiadau tebyg.

Beth mae’n cynnwys?

Eich prif rôl ydi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i ymuno â ni yma ym Prifysgol Wrecsam.

Yn dibynnu ar eich sgiliau a diddordebau, gall ddyletswyddau cynnwys:

  • Rhannu eich profiadau positif gyda myfyrwyr potensial ar ddiwrnodau agored, ffeiriau UCAS ac ymweliadau i ysgolion a cholegau
  • Helpu’r tîm mynediad gyda rhagor o dasgau gweinyddol
  • Postio ar ein porth Instagram i ddangos gyrsiau a bywyd myfyrwyr
  • Ateb cwestiynau myfyrwyr potensial ar lein fel un o’n tîm Unibuddy
  • Modelu mewn lluniau a fideos hyrwyddol
  • Cymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer fideos, datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos

Nid yn unig bydd eich cymorth yn amhrisiadwy i’n tîm Cyfathrebu, Marchnata, Recriwtio a Mynediad, ond gall fod yn Llysgennad Myfyriwr fod yn wych ar gyfer datblygiad personol eich hunain. Bydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu a chymhelliant, a fydd yn profi i fod yn werthfawr yn eich gyrfa ddyfodol - ac edrych yn wych ar eich CV.

Bydd angen imi dderbyn hyfforddiant?

Bydd, ceir popeth bydd angen i chi wneud ei gyfro gyda hyfforddiant neu friffio ar-y-diwrnod.

A fyddai’n derbyn cyflog?

Byddech, mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn ennill £9.90 yr awr.

Sut brofiad ydi bod yn Lysgennad Myfyiwr?

Emma Telfer, Seicoleg

"Y cyfleoedd diddiwedd i gymryd rhan mewn pethau anhygoel yw un o'r rhannau rwy'n ei garu fwyaf am y brifysgol. Ar hyn o bryd rwy'n Llysgennad Myfyrwyr a thrwy'r rôl hon rwyf wedi cael cynnig cyfleoedd fel ‘takeover’ Instagram, blogiau (fel hyn) i rannu fy mhrofiadau gydag eraill, cyfleoedd ymchwil a chyfleoedd hyfforddi fel dod yn bencampwr TrACE ar gyfer y brifysgol."

Lauren Jones, 2il flwyddyn BA Addysg ac Astudiaethau Plant

“Mae bod yn llysgennad myfyriwr wedi fy helpu’n fawr iawn gyda fy hyder ac wedi fy helpu i gwrdd â llawer iawn o bobl wych efallai na fyddwn wedi gwneud fel arall! Rwyf wiry n argymell dod yn llysgennad myfyriwr os fedrwch chi!”

Emyr Owen, 3ydd flwyddyn Cyfrifiadureg

“Dechreuais fel Llysgennad Myfyriwr ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yma yng Nglyndŵr ac rwyf wedi mwynhau’r profiad ers hynny. Ers dod yn Llysgennad Myfyriwr, rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o swyddi gwahanol, gan gynnwys llawer o Ddiwrnodau Agored, ambell i Noswaith Agored ac rwyf wedi mwynhau pob profiad drwy’r amser. Mae’r rôl wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd ac i wella fy sgiliau personol - er enghraifft gweithio fel tîm, a sgiliau cyfathrebu - sydd hefyd yn gwella fy CV. Mae’r rôl wedi fy helpu’n ariannol hefyd, sydd yn help mawr, yn enwedig tra rwy’n astudio, ac mae’r oriau yn hyblyg iawn ac yn gweithio o gwmpas fy astudiaethau. Mae bod yn Llysgennad Myfyriwr yn llawer iawn o hwyl, ac rwyf wir yn argymell y swydd i rywun.”

Lizz Morley, BA Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol

“Dechreuais fel llysgennad myfyriwr yn fy mlwyddyn gyntaf. Mae’r cyfleoedd mae hyn wedi fy rhoi i mi yn wych. Rwyf wedi trafaelio o gwmpas Prydain yn hyrwyddo’r Brifysgol, yn cyfarfod pobl dda o brifysgolion gwahanol ar hyd y ffordd. Rwy’n gweithio ar ddiwrnodau agored, rhywbeth rwy’n caru gwneud gan fy mod yn cwrdd â phobl nerfus, sy’n gadael yn teimlo’n obeithiol ac yn llawn uchelgais. Mae’r sgyrsiau bywyd myfyriwr wedi bod y profiad gorau hyd yn hyn, yn ysbrydoli glaslanciau nad oedd yn mwynhau’r ysgol. Rwyf wedi tyfu mewn hyder gyda’r rôl yma ac rwyf nawr yn teimlo’n gyfforddus siarad o flaen pobl. Bydd hyn yn fy helpu yn fy ngyrfa ddyfodol.”

Emma Tattum, Graddedig Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau

“Mae gweithio fel #MewnwyrPGW wedi gwella fy hyder ac wedi rhoi platfform i mi ddefnyddio’r sgiliau rwyf wedi dysgu drwy gydol fy ngradd.

“Mae bod yn fyfyrwraig yn golygu gallwch weithiau gwahanu eich hunain o du allan i’ch cwrs. Roedd gweithio fel mewnwr yn golygu roeddwn yn mynychu digwyddiadau weithiau ac yn cwrdd â phobl newydd. Rhwydweithio oedd un o’r agweddau gorau ohono.”

Gwneud cais

Cliciwch yma i wneud cais.

Am gwestiynau am eich cais cysylltwch â jobs@wrexham.ac.uk

Os hoffech gyngor gyrfaoedd a chymorth arweiniad, gallwch gyrraedd ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd