Mae ein safle yn Llanelwy yn ganolfan ymchwil arloesol ar gyfer y diwydiant technoleg optoelectroneg.

Wedi'i lleoli ym Mharc Busnes Llanelwy, ar arfordir Gogledd Cymru – ychydig dros 30 milltir a 50 munud mewn cerbyd o Wrecsam, rydym yn dwyn ynghyd byd y brifysgol a byd diwydiant.

Yn ogystal â chyfleusterau cynadledda aruchel, bwyty, ac ystafelloedd cyfarfodydd gyda chysylltedd band llydan diwifr, mae ffocws, fel y gallech ddisgwyl, ar labordai gwyddonol a chyfleusterau ymchwil. Mae’r cyfleusterau modern ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, seminarau, hyfforddiant a chyfarfodydd ar gael i’w llogi gan sefydliadau allanol.

Mae ein gwyddonwyr yn enwog am eu harloesedd ym maes technoleg a gwyddoniaeth ac maent yn cynnig gwasanaethau dylunio peirianneg ac ymgynghori pwrpasol. Mae ein prosiect arloesol sef cynhyrchu drychau prototeip ar gyfer telesgop mwyaf y byd wedi ei leoli yma.

I wybod mwy ewch i wefan Arloesiadau Glyndŵr. Gallwch hefyd gysylltu â Phrifysgol Glyndŵr Llanelwy drwy’r cyfeiriad post: Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD, teleffon 01745 535100  neu E-bost opticreception@glyndwr.ac.uk.