Mae ein campws Plas Coch ar Ffordd yr Wyddgrug yn gartref i’r rhan fwyaf o gyrsiau’r brifysgol. Mae campws yn gymysgedd o adeiladau rhestredig Gradd II a chyfleusterau modern o’r 21ain ganrif a chanolfannau addysg o’r radd flaenaf. Mae wedi ei leoli 10 munud ar droed o ganol y dref, taith gerdded 5 munud o Orsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam, ac mae’n hawdd ei gyrraedd ar y ffordd.  

Wedi ei lleoli yng Nghanolfan Edward Llwyd, mae ein llyfrgell yn gartref i gannoedd o filoedd o gyfnodolion, adnoddau electronig a llyfrau yn ogystal â darparu digon o fannau tawel i astudio neu weithio mewn grŵp. Mae gan y brifysgol ystafelloedd cyfrifiaduron sydd wedi eu lleoli’n hwylus ar draws ein campysau, ac mae gennym ni labordai arbenigol ar gyfer myfyrwyr cyfrifiadura, peirianneg a chelf a dylunio.

Yn yr un adeilad fe ddewch chi ar draws y rhan fwyaf o’n gwasanaethau cymorth myfyrwyr. Mae cymorth hefyd ar gael gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, ble cewch hefyd fwynhau cyfleusterau cymdeithasol, gan gynnwys bar y myfyrwyr, The Lazy Lion.

Os bydd angen gofal plant arnoch chi er mwyn astudio, mae gennym ni feithrinfa ar y campws, sef Little Scholars.

Mae gennym ni ddau fan dysgu cymdeithasol modern a chroesawgar: Yr Astudfa a’r Oriel. Mae’r ddau le yn lliwgar, chwaethus ac ymarferol, gyda goleuo gwych, seddi cyfforddus, cyflyru aer a digonedd o socedi gwefru tri-phwynt ac USB.

Mae gan Yr Astudfa sawl bwth gyda soffas lledr cyfforddus, byrddau, paneli acwstig, a monitorau y gall myfyrwyr eu defnyddio i gysylltu eu dyfeisiadau iddynt er mwyn gweithio gyda’i gilydd ar gyflwyniadau PowerPoint, fideos neu brosiectau creadigol eraill.

Mae’r dechnoleg ddiweddaraf ar gael yn Yr Oriel, ac mae rhaglen dreigl o weithiau celf i’w gweld yno. 

Mae ein dosbarth Uwchraddio, neu SCALE-UP (Student Centred Active Learning Environment) yn defnyddio technoleg a dyluniad arloesol i wella profiad myfyrwyr. Mae corridor B a’r dosbarthiadau yno wedi eu hailwampio hefyd - mae’r holl ddatblygiadau yma yn rhan o’n hymrwymiad £60m Campws 2025 i sicrhau cyfleusterau rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr.

Mae’r Ganolfan Diwydiannau Creadigol yn ffocws ar gyfer gweithgareddau yn ymwneud â’r diwydiannau creadigol, gan hybu mwy o gydweithio rhyngddisgyblaethol a chwmpasu pynciau mor amrywiol â chelf a dylunio, cyfrifiadura a pheirianneg. Yn gartref i BBC Cymru yn Wrecsam, mae gan y ganolfan stiwdios teledu a radio o’r radd flaenaf, gweithdai 3D, stiwdios dylunio, ystafelloedd TG, ystafelloedd hyfforddi Apple a chyfleusterau ôl-gynhyrchu sain a gweledol. 

Pan ddaw hi’n amser cymryd seibiant, mi fedrwch chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, defnyddio’r gampfa neu ymuno â dosbarth yn ein Canolfan Chwaraeon.

Mae digwyddiadau niferus i’w gweld yn Neuadd William Aston, o gerddorion ‘retro’ fel Belinda Carlisle, Alexander O’Neal a Boyzlife i ddigrifwyr enwog gan gynnwys Dave Gorman, Jason Byrne a Rhod Gilbert.

Stryt y Rhaglaw

Dim ond pum munud i lawr y ffordd o gampws Plas Coch mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, y canolbwynt ar gyfer ein cyrsiau celf a dylunio. Mae ein hadeilad hanesyddol Gradd II yng nghanol tref Wrecsam yn llawn cymeriad ac yn annog eich dychymyg a’ch dyfeisgarwch. Mae gan yr ysgol stiwdio bwrpasol a gwagleoedd gweithdy ar gyfer ystod o ddisgyblaethau artistig, ac mae hefyd yn gartref i’r Siop Gelf ble mae ystod eang o nwyddau celf a dylunio ar gael i’w prynu am brisiau rhesymol.

Parc y Glowyr

Yn rhan o Campws 2025 mae Canolfan Genedlaethol Datblygu Pêl-droed Parc y Glowyr. Mae’r ganolfan o fudd i bêl-droed yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn lleol, drwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi hygyrch, o’r radd flaenaf ar gyfer chwaraewyr ifanc a’r gweithlu pêl-droed ehangach yng Ngogledd Cymru.

Mae’r cyfleuster newydd yn cynnwys dau gae glaswellt o’r ansawdd uchaf, cae 3G ansawdd FIFA a chyfleusterau cymorth oddi ar y cae megis ardaloedd actifadu, ystafelloedd dysgu a chyfleusterau newid. Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi sicrhau cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf sydd ar gael at ddefnydd myfyrwyr ar raglenni gradd Gwyddor Chwaraeon a Hyfforddi Chwaraeon.