Mae Prifysgol Wrecsam yn gartref i ystod eang o leoliadau chwaraeon o’r radd flaenaf, gan ddarparu cyfleusterau rhagorol ar gyfer unrhyw un sydd am barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon tra byddant yn astudio - neu efallai roi cynnig ar rywbeth newydd am y tro cyntaf.

Mae ein cyfleusterau, gan gynnwys ein hystafell ffitrwydd, neuadd chwaraeon a chaeau awyr agored, ar gael ar gyfer myfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Am ragor o wybodaeth am logi ein cyfleusterau cysylltwch â sports.bookings@glyndwr.ac.uk, neu ffoniwch 01978 293275.

Neuadd Chwaraeon

Yn y Ganolfan Chwaraeon mae neuadd 1000 metr sgwâr, gyda llawr sbring o stribedi masarn o’r ansawdd uchaf.

Uwchlaw’r neuadd mae balconi agored ac ardal wylwyr gaeedig ar y llawr cyntaf. Mae’r cyfleusterau yn cydymffurfio â safonau cystadlu cenedlaethol ar gyfer badminton, pêl-rwyd, pêl-fasged, pêl-foli a futsal.

Mae gennym hefyd ddarpariaeth ar gyfer tennis bwrdd a matiau ar gyfer y crefftau ymladd.

Ystafell Ffitrwydd

Mae ein hystafell ffitrwydd yn agored i fyfyrwyr, staff a defnyddwyr o'r gymuned. Mae staff hyfforddedig ar gael i gynnig cymorth a chyngor pan fo angen.

Mae ganddi ystafell cardio sy’n cynnwys beiciau, peiriannau rhedeg, peiriannau traws-hyfforddi a rhwyfo ac ystafell codi pwysau gydag offer gwrthsefyll gan gynnwys bar Olympaidd a dewis o bwysau rhydd.

Hyfforddwyr Personol

Mae sesiwn hyfforddwr personol Chwaraeon Prifysgol Wrecsam yn ddull ymarfer corff drwy sesiwn un i un yn ôl anghenion a gofynion y cleient.

Mae’r sesiynau yn cael eu darparu gan ein hyfforddwyr cymwys sydd â lefel uchel o wybodaeth ym maes iechyd ac ymarfer corff.

Mae’r sesiynau yn cael eu teilwrio yn benodol ar gyfer y cleient, gan ystyried eu gallu, nodau a’u ffordd o fyw.

Mae manteision y sesiwn yn amrywio o:

  • Gwell iechyd yn gyffredinol
  • Gwell lefelau ffitrwydd
  • Gwell cymhelliant

Stadiwm Hoci

Mae Stadiwm Hoci Prifysgol Wrecsam yn gyfleuster rhyngwladol sylfaen dŵr gyda seddau ar gyfer 200 o wylwyr a llifoleuadau.

Mae sawl digwyddiad cenedlaethol wedi ei gynnal yn y cyfleuster eithriadol yma, gan gynnwys Tlws Gwledydd EuroHockey (dynion), Gemau Prawf Rhyngwladol, Twrnamaint Cwpan Geltaidd Iau i enwi dim ond rhai.

Mae Stadiwm Hoci Prifysgol Wrecsam hefyd yn gartref i Glwb Hoci Glyndŵr Wrecsam (Iau, Dynion a Merched).

Amseroedd agor

Canolfan Ffitrwydd

7.00am - 9.00pm (Llun-Gwe)
9.00am - 5.00pm (Sad-Sul)*

Cyfleusterau Dan Do

7.00am - 10.00pm (Llun-Gwe)
9.00am - 6.00pm (Sad-Sul)*

Cae Artiffisial Dŵr

7.00am - 9.00pm (Llun-Gwe)
9.00am - 6.00pm (Sad-Sul)*

*Gall amseroedd agor dros y penwythnos newid – ffoniwch i gadarnhau 01978 293275