Rhestr Brisiau Cyfleusterau Chwaraeon 2022/23

Cyfleusterau Chwaraeon

Cymuned

Myfyriwr

Cwrt Badminton £9.40 £7.60
Tenis Bwrdd £9.40 £7.60
Llogi Cwrt Sengl £9.40 £7.60
1 Llogi Cylchyn Cwrt £9.40 £7.60
2 Llogi Cylchyn Cwrt £18.80 £15.20
Hanner Neuadd £31.50 £23.40
Neuadd Gyfan £56.40 £45.60
Cwrt Gornestau £37.60 £30.40
WATP Cyfan £65.40 £52.00
Hanner WATP £42.00 £28.40

Mae pob pris yn seiliedig ar amser gweithgarwch o 55 munud.

Am ymholiadau am archebu bloc cysylltwch â'r Neuadd Chwaraeon.

Cwestiynau Cyffredin am ein Cyfleusterau

Beth yw’ch oriau agor?

Mae ein Canolfan Chwaraeon ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 9.00am tan 6.00pm ar y penwythnos.

Mae’r Cae Artiffisial Dŵr ar agor o 7.00am tan 9.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9.00am tan 5.00pm ar y penwythnos.

Gall amseroedd agor y penwythnos newid felly fe’ch cynghorir i gysylltu â ni i gadarnhau eu bod ar gael.

Oes rhaid imi fod yn aelod i ddefnyddio’ch cyfleusterau?

Nac oes, nid oes rhaid ichi fod yn aelod i ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon. Mae ein neuadd chwaraeon a'r cyfleusterau eraill ar gael i staff, myfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd ac maen nhw ar gael ar sail talu a chwarae.  Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Dydw i ddim yn fyfyriwr – ydy’r cyfleusterau ar agor i aelodau o’r cyhoedd?

Ydyn wrth gwrs, rydym ni hefyd yn ganolfan chwaraeon cymunedol ac yn croesawu unrhyw un i ddefnyddio ein cyfleusterau yn ogystal â staff a myfyrwyr y brifysgol.

Ydy hi’n bosib i mi logi offer o’r ganolfan chwaraeon?

Mae gennym racedi, gwenoliaid, batiau a pheli ar gael i westeion sy'n llogi cyrtiau badminton neu dennis bwrdd.  Ar gyfer pob gweithgaredd arall, oni bai ei fod wedi'i drefnu gan y Brifysgol, rydym yn eich cynghori i ddod â'ch offer eich hun.

Rhestr Brisiau’r Ganolfan Ffitrwydd 2022/23

Canolfan Ffitrwydd

Cymuned

Myfyriwr PGW

Ffi Ymuno

£5.00

£5.00

Misol

£15.00

£15.00

Talu fesul tro

£4.00

£3.00

Hyfforddwr Personol

£20.00*

£20.00*

*Pris yn seiliedig ar sesiwn hyfforddi o 90 munud.

Cynigion Arbennig

Aelodaeth 12 Mis - £160

Talwch am aelodaeth 12 mis ymlaen llaw am ddim ond £160, heb unrhyw ffi ymuno – arbediad o £25 i aelodau newydd neu £20 i aelodau presennol.

Cynnig ar gael gydol y flwyddyn.

Cwestiynau Cyffredin am y Ganolfa Ffitrwydd

Beth yw’ch oriau agor?

Mae’r ganolfan ffitrwydd ar agor o 7.00am tan 9.00pm dydd Llun i ddydd Gwener ac o 9.00am tan 5.00pm ar y penwythnos.

Oes rhaid i mi fod yn aelod i ddefnyddio’ch cyfleusterau?

Nac oes, does dim angen ichi fod yn aelod i ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon, fodd bynnag mae aelodaeth ar gael ar gyfer ein hystafell ffitrwydd sy’n cynnig gwerth gwych am arian. Nid oes gennym ni gontractau felly does dim ymrwymiad, ond os ydych yn bwriadu defnyddio ein cyfleusterau yn rheolaidd, mae’n bosib y byddai aelodaeth yn fwy cost effeithiol ichi. 

Oes angen i mi gael sesiwn cynefino cyn defnyddio’r ystafell ffitrwydd?

Nid oes rhaid ichi gael sesiwn cynefino, fodd bynnag rydym yn cynghori pob defnyddiwr newydd i drefnu sesiwn cynefino er mwyn ymgyfarwyddo â’r offer. Mae ein hyfforddwyr ffitrwydd sydd wedi eu hyfforddi’n llawn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau, neu i’ch helpu os bydd angen. Mae pob aelodaeth o’n hystafell ffitrwydd yn cynnwys sesiwn cynefino am ddim.

Oes yna leiafswm oedran i gael defnyddio’r cyfleusterau? Fedra i ddod â phlant gyda mi?

Mae’n rhaid ichi fod dros 16 mlwydd oed i ddefnyddio’n ystafell ffitrwydd.

Cwestiynau Cyffredin Eraill

Oes gennych chi gypyrddau clo? Os felly, beth yw’r gost?

Mae cypyrddau clo ar gael ar y safle, yn yr ardaloedd newid mewnol ac allanol. I ddefnyddio’r cypyrddau clo, bydd angen darn £1 arnoch chi neu docyn troli – sy’n cael eu dychwelyd ar ôl i chi eu defnyddio.

Oes yna isafswm oedran i gael defnyddio’r cyfleusterau? Fedra i ddod â phlant gyda mi?

Mae’n rhaid i chi fod dros 16 mlwydd oed i ddefnyddio ein hystafell ffitrwydd. Mae’r holl gyfleusterau eraill ar gael i’w defnyddio gan bob oedran – ond rhaid i bobl dan 16 gael eu goruchwylio gan oedolyn.

Rwy’n defnyddio cadair olwyn – ydy’ch cyfleusterau yn hygyrch?

Ydyn, mae gennym ni dai bach ac ystafelloedd newid sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Os yw eich digwyddiad neu’ch dosbarth yn cael ei gynnal ar y llawr cyntaf yna mae gennym ni lifft i fynd â chi yno.