Campws egniol
Mae rhaglen y Campws Actif yn fenter sy'n annog myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i fod yn fwy egnïol a gwneud dewisiadau iachach bob dydd.
Mae'r rhaglen yr ydym yn ei hyrwyddo o'r Ganolfan Chwaraeon yn annog pawb i gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd. Gallai fod yn rhywbeth mor syml â defnyddio'r grisiau yn lle'r lifft a dewis darn o ffrwythau yn hytrach na phecyn o greision ar gyfer byrbryd.
Gweithgareddau
Mae tîm Chwaraeon Glyndŵr Wrecsam yn trefnu nifer o weithgareddau sydd wedi'u hanelu'n benodol at staff a myfyrwyr er mwyn annog cymryd rhan mewn ymarfer corff ochr yn ochr â'u gwaith neu eu hastudiaethau.
Mae’r holl sesiynau’n ddarostyngedig i argaeledd y cyfleuster. Gwiriwch gyda derbynfa’r Ganolfan Chwaraeon, os gwelwch yn dda
Tennis Bwrdd Campws Egnïol
Yn dechrau 4 Hydref 2021
Dydd Llun, 12:00 tan 12:45 – Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
£2.00 yr unigolyn
Bydd byrddau ar gael rhwng 1200 a 1245. Bydd tri bwrdd ar gael i ddechrau, gyda lle i gynyddu hynny petai’r niferoedd yn gwneud hynny’n ofynnol.
Badminton Campws Egnïol
Yn dechrau 4 Hydref 2021
Dydd Llun, 12:00 tan 12:45 – Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
£2.00 yr unigolyn
Bydd tri chwrt ar gael rhwng 1200 a 1245, a gellir cynyddu hyn os yw’r niferoedd sy’n mynychu’n golygu bod hynny’n ofynnol.
Pêl Foli Campws Egnïol
Yn dechrau 5 Hydref 2021
Dydd Llun, 13:00 tan 13:45 @ Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
£2.00 yr unigolyn
Futsal Campws Egnïol
Yn dechrau 6 Hydref 2021
Dydd Mercher, 12:00 tan 12:45 - Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
£2.00 yr unigolyn
Beth ydi Futsal?
Mae’r enw’n cyfuno’r geiriau Sbaenaidd am ‘neuadd’ – sala a ‘phel-droed’ – Futbol, i greu Futsal.
Futsal ydi ffurf swyddogol pel-droed timau bach a gydnabyddir ac a gefnogir gan FIFA, UEFA a Chymdeithas Bel-droed Cymru. Cynhelir Cwpan y Byd Futsal gan FIFA a Phencampwriaethau Ewropeaidd UEFA ar gyfer timau cenedlaethol. Yn ychwanegol, mae’r clybiau ar y brig ledled Ewrop yn mynd ymlaen i gystadleuaeth yn dilyn yr un drefn â Chynghrair y Pencampwyr o’r enw Cwpan Futsal UEFA.
Mae rheolau Futsal yn debyg iawn i bel-droed 11 yr ochr gyda llawer o’r sgiliau a’r technegau’n drosglwyddadwy. Gêm pump bob ochr ydi Futsal, sy’n cael ei chwarae ar faes dan do gwastad gyda phêl maint 4 sy’n bownsio 30% yn llai na phêl arferol. Mae’n cael ei chwarae yn unol â llinellau ystlys ac mae’r holl chwaraewyr yn cael mynd i mewn i’r ardal cwrt cosbi a chwarae’r bêl uwchben uchder y pen. Yn Futsal mae chwaraewyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt dderbyn neu chwarae tra dan bwysau mewn gwagle cyfyng. Mae galwadau’r gêm yn golygu bod rhaid i chwaraewyr ddatblygu gallu technegol, gweledigaeth ac ymwybyddiaeth ragorol, gwneud penderfyniadau dan bwysau ac ymdopi gyda gofynion corfforol cyflymder y gêm.
Aml-chwaraeon Campws Egnïol
(Badminton / Tennis bwrdd neu Pêl fasged)
Yn dechrau 8 Hydref 2021
Dydd Gwener, 13:00 tan 13:45 - Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
£2.00 yr unigolyn
Llogi Beics
Mae Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnig gwasanaeth llogi beics i staff a myfyrwyr eu defnyddio rhwng campysau ac o gwmpas Wrecsam. (Llogi beic am 7 diwrnod am £10.00)
Mae 14 beic ar gael i’w llogi ar hyn o bryd (dau o’r rhain ar gampws Llaneurgain) a gellir eu llogi am hyd at 7 diwrnod ar y tro.