Welsh flag on campus

Coleg cymraeg cenedlaethol

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am Gangen Prifysgol Glyndŵr Wrecsam o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Gangen sy’n gyfrifol am ddatblygu Strategaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ac mae ei haelodau’n cydweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Cewch wybodaeth yma am weithgareddau academaidd a chymdeithasol y Gangen, ynghyd â’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr wrth ddod yn aelodau o’r Coleg.

Amdanom ni

 

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Gangen

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn lle gwych i astudio, dysgu a byw ynddo ac ond tafliad carreg o’r dref. Er y gellir olrhain hanes y Brifysgol yn nol i’r 19eg Ganrif, cangen cymharol newydd sydd gennym ni yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam!

Yn y prif adeilad ar gampws Wrecsam y dei di o hyd i’r gangen. Mae croeso cynnes i bawb alw mewn am sgwrs, am gyngor neu i holi unrhyw gwestiynau am y Gymraeg.

Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos iawn gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu ac ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i allu cynnig mwy o ddewis i fyfyrwyr sydd am astudio yma. Bydd hefyd cyfle i ti chwarae rôl flaenllaw yn datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth fod yn rhan o gyfarfodydd academaidd y Brifysgol a’r gangen.

Fel cangen, rydym yn cynnig amryw o weithgareddau amrywiol dros y flwyddyn. Mae’r gangen hefyd yn cydweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr nid yn unig i drefnu gweithgareddau Cymraeg ond hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae’r gangen hefyd yn ganolbwynt er mwyn i ti gael dod i adnabod y Cymry Cymraeg eraill sydd yma yn y Brifysgol.

Bydd croeso mawr i ti yma ym Mhrifysgol Wrecsam felly gobeithio y gwelwn i ti’n fuan!

Cysyllta â changen Prifysgol Wrecsam am ragor o wybodaeth: cangen@wrexham.ac.uk

Ymaelodi

Mae croeso i unrhyw un ddod yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn rhad ac am ddim. Trwy ymaelodi, byddwch yn derbyn gwybodaeth am holl weithgareddau a datblygiadau'r Coleg. Mae pedwar categori o aelodaeth:

  • Darpar fyfyrwyr
  • Myfyrwyr Prifysgol
  • Staff Prifysgol
  • Cyfeillion

Bydd pawb sy’n ymaelodi fel myfyriwr neu fel aelod staff hefyd yn dod yn aelod o Gangen Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Er mwyn ymaelodi, ac i ddarllen rhagor am fanteision aelodaeth o'r Coleg, cliciwch ar y ddolen isod:

Ymaelodi â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol  

Manteision Astudio’n Gymraeg

Dyma ychydig o fanteision i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich astudiaethau yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam -

Cyflog Uwch

  • Gall pobl ennill fwy o arian o ganlyniad uniongyrchol i siarad Cymraeg*
  • Mae astudiaethau academaidd yn dangos y gall pobl sydd â sgiliau dwyieithog ennill cyflog uwch*
  • Gall pobl sy’n gallu ysgrifennu (yn ogystal â deall, siarad a darllen) Cymraeg, ar gyfartaledd ennill bron i 11% y flwyddyn yn fwy*
  • Mae’r ffaith bod y Gymraeg yn sgil angenrheidiol ar gyfer llawer o swyddi yn y sector cyhoeddus yn effeithio’n uniongyrchol ar y cyflogau y gallai siaradwyr Cymraeg eu disgwyl yng Nghymru*

*Gwefan Gyrfa Cymru

Cyflogadwyedd

Mae’r gallu i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgìl fanteisiol iawn yn y gweithle. 

  • Bydd gennych sgil ychwanegol ar eich CV
  • Mae mwy o gyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am raddedigion â sgiliau dwyieithog cryf
  • Byddwch yn cryfhau’ch siawns o gael swydd
  • Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yn tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn gwella eu busnes.

Os oes gennych chi’r sgiliau, gwnewch y gorau ohonynt.

Yma ym Mhrifysgol Wrecsam

Tra eleni does dim modiwlau penodol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yma yn y Brifysgol mae sawl peth y gallwch eu gwneud...

Cyflwyno gwaith drwy’r Gymraeg

  • Mae gan fyfyrwyr ar bob cwrs yr hawl i gyflwyno gwaith yn Gymraeg.
  • Os hoffech wneud hyn mae angen i chi rhoi gwybod i’r Brifysgol cyn gynted ag bo modd. Gallwch wneud hyn drwy’r Swyddog Cangen neu drwy gysylltu gyda’r Gofrestra Academaidd.
  • Os nac ydi’r darlithydd yn siarad Cymraeg bydd eich gwaith chi’n cael eu cyfieithu i’r Saesneg (gan gyfieithydd proffesiynol) ac yna'n cael eu marcio gan y darlithydd.
  • Mae croeso hefyd i chi sefyll eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ewch i siarad gyda’ch darlithyddion, os oes staff sy’n siarad Cymraeg yn eich adran chi efallai bysa...

  • Modd cynnal tiwtorialau neu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg (dibynnol ar staff a nifer o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg).
  • Modd trafod y gwaith gyda’r darlithydd yn Gymraeg.
  • Gallwch gael tiwtor personol sydd yn siarad Cymraeg.

Mynd ar brofiad gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg Tystysgrif Sgiliau Iaith - cyfle gwerthfawr i ennill tystysgrif a chymhwyster ychwanegol sy’n profi eich bod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Gallwch hefyd gael mynediad i’r –

Llyfrgell Adnoddau

Mae Llyfrgell Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi astudiaethau myfyrwyr ar lwyfan e-ddysgu’r Porth. Mae’r llyfrgell yn cynnwys 700 o adnoddau digidol agored mewn 24 o bynciau academaidd.

Mae'r llyfrgell yn cynnwys sesiynau blasu, darlithoedd, cyfweliadau, cyflwyniadau, taflenni gwybodaeth a fersiynau e-lyfr o gyfrolau ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg sydd allan o brint. Yn ogystal, mae modd i fyfyrwyr weld adnoddau ychwanegol drwy fewngofnodi i’r Llyfrgell, e.e. 100+ o raglenni o archif S4C. https://llyfrgell.porth.ac.uk

Cysylltu

Mae Swyddog Cangen Prifysgol Wrecsam o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi'i lleoli yn y prif adeilad ar y campws yn Wrecsam.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynghylch gwaith y gangen.

Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Ffordd Yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW 

01978 293183

E-bost: cangen@wrexham.ac.uk

‌@ColegCymraeg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol