Mae Prifysgol Wrecsam yn llawn o gyfleusterau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau - o'r cyfleusterau pwnc i fannau ar gyfer astudio tawel a'r adnoddau i ymgymryd ag ymchwil.

Mae gan bob myfyriwr ar y campws diwtor personol a gan bob myfyriwr Prifysgol Wrecsam Arlein Gydlynydd Llwyddiant Myfyriwr.

Tiwtoriaid Sgiliau Academaidd 

Mae Tiwtoriaid Academaidd ar gael i’ch cefnogi i ddatblygu arferion dysgu effeithlon a’ch cefnogi gydag ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol a chyfeirio. Rydym yn cynnig cefnogaeth a chyngor a bod yn ddysgwr annibynnol. Bwciwch sesiwn un ac un (1-2-1), i gael cyngor ar:

  • Datblygu strategaethau rheoli amser effeithlon
  • Magu hyder wrth ysgrifennu’n academaidd
  • i gynllunio a blaenoriaethu eich gwaith academaidd.
  • Cynllunio a strwythuro eich aseiniad
  • Deall pwysigrwydd cyfeirio a sut i’w gweithredu yn eich astudiaethau
  • Cyflwyno’n hyderus
  • Cyngor ar ddehongli adborth gan eich darlithwyr
  • Paratoi ar gyfer arholiadau gyda strategaethau a thechnegau adolygu

E-bost: learningresources@wrexham.ac.uk
Rhif ffon: 01978 293343

Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd

Mae Llyfrgellwyr Cymorth Academaidd yma i’ch helpu llywio’r adnoddau dysgu sydd ar gael er mwyn i chi canfod y wybodaeth angenrheidiol i’ch aseiniadau, cyflwyniadau, traethawd hir a mwy.

Gallwn eich cefnogi chi gyda chyngor ar sut i ‘weithio’n glyfar’. Cadwch eich lle am sesiwn un ac un (1-2-1), wedi’i theilwra i’ch anghenion chi. Cewch gyngor ar:

  • Gwneud y mwyaf o ddefnyddio Canfodydd Adnoddau
  • Datblygu hyder wrth chwilio am lyfrau, cofnodion, erthyglau ac adnoddau eraill
  • Gwerthuso ac adnabod arferion dysgu da
  • Adolygu a mireinio canlyniadau chwilio
  • Chwilio’r rhyngrwyd yn effeithiol

Rydym yma i’ch helpu datblygu sgiliau chwilio, gwerthuso a gweithredu gwybodaeth i gryfhau eich astudiaeth academaidd ac i’ch paratoi am y gweithle.

Hwyluswyr Dysgu Digidol

Mae Hwyluswyr Dysgu Digidol yma i’ch cefnogi gyda’r ystod eang o dechnolegau sydd ar gael ym Mhrifysgol Wrecsam. Rydym yma i’ch tywys trwy’r broses o ddysgu sut i ddefnyddio’r technolegau hyn i gefnogi eich gwaith. Cadwch sesiwn un ac un (1-2-1), yn deilwredig i’ch anghenion, ar:

  • Defnyddio Moodle i gyrchu eich deunyddiau cwrs, adnoddau dysgu ac asesiadau
  • Creu cyflwyniad PowerPoint neu boster academaidd
  • Llwytho eich aseiniad trwy Moodle neu Turnitin
  • Fformatio dogfennau, o aseiniadau i draethodau hir
  • Lawrlwytho Microsoft Office 365 a defnyddio Office 365

Cyfleusterau TG

Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol rhagorol sydd wedi eu lleoli yn agos at ble rydych eu hangen. Mae yna gyfleusterau â meddalwedd cwrs pwrpasol o fewn meysydd pwnc yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored cyffredinol yn y llyfrgell ac mewn mannau astudio o gwmpas y campws. Mae buddsoddiad diweddar wedi ehangu ein mynediad WiFi di-wifr ar draws y campws cyfan, gan gynyddu'r mannau lle gallwch astudio.

Mae gan ein cyfrifiaduron fynediad  llawn i'r rhyngrwyd ac rydym yn darparu ystod o wasanaethau ichi megis eich cyfrif e-bost eich hun, lle storio ffeiliau, cymwysiadau safonol ac arbenigol a chyfleusterau argraffu.

Mae Prifysgol Wrecsam yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i'r eithaf. Mae gennym fewnrwyd cynhwysfawr i fyfyrwyr sy'n cynnwys amrywiaeth o gyngor ac arweiniad. Mae llawer o nodiadau darlith ein cyrsiau a chynnwys rhaglenni ar gael ar-lein trwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol ac mae deunyddiau astudio megis cronfeydd data ar-lein, e-gyfnodolion a gwybodaeth catalog y llyfrgell hefyd ar gael ar-lein.

Mae ein desg gymorth TG wrth law i roi cymorth a chyngor ar bob agwedd ar gyfrifiadura gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a mynediad i'r rhwydwaith.

Costau Argraffu

 DaG A4  un ochr 5c/y ddwy ochr 10c
 DaG A3  un ochr 10p/ y ddwy ochr 20c
 Lliw A4  un ochr 15p/ y ddwy ochr 30c
 Lliw A3  un ochr 30p/ y ddwy ochr 60c
 Rhwymo crib (heb gynnwys argraffu)  £2
 Rhwymo metel (heb gynnwys argraffu)  o £2.50 Bloc aur £25
 LamineiddioA4/A3  80c/£1.60


Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau a chefnogaeth TG, cysylltwch â'r ddesg gymorth TG ar 01978 293241.

Y Llyfrgell ac Astudio

Mae llyfrgell Prifysgol Wrecsam yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth i gefnogi'ch astudiaethau mewn amgylchedd dysgu cysurus a hyblyg.

Mae gennym dros 70,000 o lyfrau, DVDau ac adnoddau dysgu eraill yng Nghanolfan Edward Llwyd ar gampws Plas Coch Wrecsam.

Mae ein Darganfyddydd Adnoddau yn gwneud miloedd o e-lyfrau a chyfnodolion electronig ar gael yn rhwydd i fyfyrwyr yn ogystal ag ystod o ffynonellau gwybodaeth o ansawdd eraill ar y rhyngrwyd.

Gall ein tîm gynnig cyngor ac arweiniad i'ch helpu i ddod o hyd i'r adnoddau yr ydych yn chwilio amdanynt ar gyfer eich astudiaethau, o ddod o hyd i lenyddiaeth ar gyfer aseiniadau a thraethodau estynedig a chwilio cronfeydd data pwnc penodol i'ch cefnogi i ddefnyddio e-Lyfrau ac e-Gyfnodolion a chymorth ar sut i fireinio eich chwiliad. 

Cysylltu â ni

Llyfrgell Prifysgol Wrecsam, Pwynt Post 22L, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW

Adnewddu benthyciad: library@wrexham.ac.uk 

Siopau

Mae nifer o siopau ar gampysau Prifysgol Wrecsam,  gyda phob un yn arbenigo mewn cynnyrch neilltuol i ddiwallu eich anghenion. Mae yna hefyd nifer o siopau ar-lein a all eich helpu i brynu popeth o docynnau i ddigwyddiad i lyfrau ail-law.

Mae Caffi a Safle Adwerthu Pennod 1 yng Nghanolfan Edward Llwyd ar Gampws Plas Coch. Mae'r siop 'hanfodion' a chaffi yn gwerthu dewis eang o nwyddau gan gynnwys coffi  a the arbenigol, diodydd oer, brechdanau, byrbrydau ysgafn a melysion. Mae yna hefyd ystod bach o eitemau bwyd ac ymolchi cyffredinol.

Mae'r Siop Gelf wedi'i lleoli yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, ac mae'n gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch celf a dylunio sy'n cael eu cefnogi gan brisiau cystadleuol, ansawdd uchel a gwasanaeth personol cyflym. Mae'r siop hefyd yn cynnig gwasanaeth llun-gopïo a rhwymo.

BooksXChange - os ydych yn dymuno prynu gwerslyfrau eich cwrs, mae BooksXChange yn siop ar-lein am ddim a weithredir gan Prifysgol Glyndwr Wrecsam i helpu myfyrwyr i brynu a gwerthu llyfrau ail-law. Mae'r system ar-lein yn darparu gwasanaeth tebyg i e-bay ar gyfer llyfrau heb yr oedi, y risg a'r costau postio.

Ystafell Argraffu – Wedi'i lleoli yn Undeb y Myfyrwyr mae'r gwasanaethau argraffu'n cynnwys llungopïo, lamineiddio, rhwymo a gwneud llyfrynnau. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth rhwymo caled ar gyfer traethodau hir am brisiau cystadleuol iawn.

Gallwch hefyd archebu rhai nwyddau ac offer defnyddiol ar-lein.

Mae gwasanaeth  ffotocopio ac argraffu hunanwasanaeth ar gael yng Nghanolfan Edward Llwyd sy'n gweithio drwy ddefnyddio credydau llungopïo sy'n cael eu rhoi ar eich cerdyn llyfrgell trwy ddefnyddio'r peiriant ail-lenwi hunanwasanaeth.

Y Ganolfan Iaith

Mae ein Ganolfan Iaith yn cynnig cyrsiau iaith Saesneg drwy gydol y flwyddyn academaidd i bob myfyriwr rhyngwladol ac Ewropeaidd i'w helpu i ddatblygu ac adeiladu ar eu sgiliau yn yr iaith Saesneg. Mae hefyd yn cynnig cyrsiau byr mewn ieithoedd eraill, a phob un o'r pedair sgil ieithyddol - gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu - yn cael eu cynnwys.

Mae'r Ganolfan yn cynnig rhaglen Saesneg Dwys ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol a myfyrwyr Ewropeaidd sydd angen sgiliau iaith Saesneg ychwanegol cyn cychwyn ar eu cwrs. Gellir cael mwy o wybodaeth yn IELC.

Mae ysgolion haf Saesneg ysgolion haf Saesneg yn ffordd arall o ddod i adnabod y brifysgol ac i ymdoddi yn yr iaith a'r diwylliant yn ystod mis Gorffennaf a/neu fis Awst. 

Ar ben hynny, mae'r Ganolfan yn cynnal amrywiaeth gyffrous o gyrsiau iaith dramor ar lefelau o ddechreuwyr i uwch, ac mae'r cyrsiau yn agored i bob myfyriwr. Mae'r rhain yn cael eu cynnig mewn amrywiaeth gynyddol o ieithoedd megis Tsieinëeg (Mandarin), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg, Rwsieg, a Sbaeneg.

Mae cyrsiau modiwlaidd yn werth 20 credyd AU y DU (10 ECTS) a dyfernir trawsgrifiad Prifysgol Glyndwr Wrecsam i bob myfyriwr llwyddiannus.

Gymraeg

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymroddedig i ehangu ei ddarpariaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Brifysgol yn falch o'i gwreiddiau Cymreig ac yn cydnabod pwysigrwydd adlewyrchu iaith a diwylliant gogledd ddwyrain Cymru.

O dan yr amodau y Cynllun Iaith Gymraeg, mae'r Brifysgol yn cynnig ei holl wasanaethau gweinyddol yn ddwyieithog. Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir i chi nodi ym mha iaith yr hoffech chi dderbyn gohebiaeth gan y brifysgol.

Mae'r Brifysgol hefyd yn awyddus i ehangu a datblygu ei darpariaeth Gymraeg. Mae gan fyfyrwyr ar bob cwrs yr hawl i gyflwyno gwaith sydd yn rhan o asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg ac i sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno asesiadau yn y Gymraeg.

Mae Prifysgol Wrecsam yn gartref hefyd i gangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gallwch ddod yn aelod o'r gangen, sy'n gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Mae'r gangen yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gwahanol drwy'r flwyddyn ac mae'n gweithio gyda'n Hundeb y Myfyrwyr i drefnu digwyddiadau Cymraeg. Mae'r gangen hefyd yn ganolbwynt gwych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill yma yn y Brifysgol.