Mae Canolfan Asesu Prifysgol Glyndŵr yn darparu gwasanaeth asesu, cynghori a hyfforddi proffesiynol ar gyfer y bobl hynny ag anableddau sy'n mynychu addysg uwch.
Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), sy'n golygu siarad â chi am eich anabledd ac unrhyw rwystrau yr ydych yn eu profi ac yna argymell y strategaethau a'r offer cefnogi fydd yn eich galluogi i gael addysg ar faes chwarae gwastad â'ch cyfoedion.
Mae ein hasesiadau yn arwain at argymhellion ar gyfer offer, gwasanaethau a chymorth y gellir eu darparu i fyfyrwyr trwy gyllid LMA. Mae gan ein tîm o aseswyr brofiad ac arbenigedd mewn cynorthwyo myfyrwyr sydd ag ystod eang o anghenion gan gynnwys dyslecsia, namau ar y golwg a'r clyw, anawsterau corfforol, namau cyfathrebu, anawsterau iechyd meddwl a Syndrom Asperger.
Mae gan y Ganolfan gyfleusterau ardderchog ar gyfer gwerthuso ystod eang o offer a meddalwedd. Mae'r offer yn cynnwys cyfrifiaduron PC pen-bwrdd a gliniaduron, cyfrifiaduron Apple Mac, argraffwyr, sganwyr, dodrefn ergonomig, cymhorthion osgo, allweddellau a llygoden amgen. Mae gennym hefyd amrywiaeth o feddalwedd mapio meddwl, systemau testun i lleferydd, adnabod llais a llawer o gymwysiadau a rhaglenni addasol a chefnogol eraill.
Mae'r offer yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n gyson i adlewyrchu datblygiadau mewn technoleg gynorthwyol a phrif ffrwd. Mae asesiadau a wneir gan Brifysgol Glyndŵr yn annibynnol ar holl weithgynhyrchwyr a chyflenwyr technoleg gynorthwyol, ac mae'r ganolfan yn darparu argymhellion diduedd, unigol am gymorth technegol priodol. Gall myfyrwyr wneud dewis gwybodus i ddiwallu eu hanghenion o'r ystod o offer sydd ar gael ac a allai fod yn ddefnyddiol.
I drefnu asesiad, gallwch gysylltu â'r Ganolfan Asesu dros y ffôn, trwy e-bost neu'n bersonol.
Yn bresenol: Trydydd llawr, Adeilad Edward. Dydd Llun i dydd Iau 9:30am to 4:30pm. Dydd Gwenar 9:30am i 1:00pm.