Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)

Mae'r grant yma ond ar gael i fyfyrwyr yn y DU na fyddent fel arall wedi gallu mynychu cwrs addysg uwch o ganlyniad i anabledd.

Gallwch wneud cais ar gyfer y lwfans hwn, os ydych chi yn:

  • rydych chi'n fyfyriwr yn y DU;
  • rydych chi'n fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig (gan gynnwys myfyrwyr dysgu o bell);
  • rydych chi'n astudio cwrs addysg uwch cyntaf; ac
  • mae'r cyflwr yn effeithio ar eich gallu i astudio a gennych dystiolaeth. Fe allai hyn gynnwys un neu fwy o gyflyrau meddygol tymor hir. Fel enghraifft, diabetes, ffibromyalgia, epilepsi, cyflwr clyw, cyflwr golwg neu fater symudedd. Yn ogystal, cyflwr iechyd meddwl, fel iselder, anhwylder, PTSD, ADHD neu amodau sbectrwm awtistig.

Gellir defnyddio'r arian er mwyn cefnogaeth tiwtoriaid arbenigol, mentora iechyd meddwl a hyfforddiant ac offer Technoleg Gynorthwyol. Mae lefel y gefnogaeth yn dibynnu ar y cyrff cyllido.

Sut i wneud cais LMA 

Mae rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r anabledd. Gallai hwn fod yn adroddiad gan seicolegydd addysg neu weithiwr proffesiynol meddygol, yn cadarnhau angenion dysgu trwy ffurflen tystiolaeth feddygol, fel dyslecsia neu anabledd tymor hir a fydd yn cael effaith ar eich gallu i astudio. 

Ar ôl i chi gael y dystiolaeth hon, dylech lenwi ffurflen gais LMA (DSA). Mae yna wahanol ffurflenni ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan amser a rhan amser ac ôl-raddedig. Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig amser llawn sy'n derbyn benthyciad myfyriwr dylech lenwi'r ffurflen DSA1 Slimline. Os ydych chi'n fyfyriwr rhan amser neu'n ôl-raddedig dylech chi i lenwi ffurflen DSA1. Mae'r ddwy ffurflen ar gael ar wefan eich corff cyllido eich hun.  

https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/

 

https://www.gov.uk/student-finance-register-login 

https://www.saas.gov.uk/

Cael prawf o'ch anabledd neu'ch anhawster dysgu penodol 

Bydd angen i chi fodloni eich corff cyllido bod effeithiau eich cyflwr yn golygu y bydd angen i chi dalu costau ychwanegol drwy fynychu'ch cwrs. Os ydych yn anabl, neu ag anawsterau iechyd meddwl, bydd angen i chi ddarparu prawf meddygol o'ch anabledd, megis llythyr gan eich meddyg neu'ch arbenigwr. Os oes gennych fwy nag un cyflwr meddygol, dylech ddarparu tystiolaeth ar gyfer pob un ohonynt.

Os oes gennych anhawster dysgu penodol (megis dyslecsia), bydd angen tystiolaeth o hyn ar eich corff cyllido gan rywun â chymwysterau addas (megis Seicolegydd Addysg neu athro arbenigol). Os cafodd eich asesiad ei gynnal cyn ichi droi'n 16, mae'n bosibl y bydd eich corff cyllido yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf i weld beth fydd effaith debygol eich anhawster dysgu penodol ar y sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer addysg uwch.

Efallai y bydd cynghorydd anabledd eich prifysgol neu'ch coleg yn gallu eich helpu chi i drefnu asesiad diweddaru, neu un newydd. Ni all eich Corff Cyllido dalu costau diagnosis eich anabledd ar gyfer sefydlu a ydych yn gymwys i gael LMA.

Faint y byddwch chi'n ei dderbyn? 

Mae hyn yn seiliedig i raddau helaeth  ar eich anghenion unigol, ond mae uchafsymiau ar gyfer y gwahanol lwfansau. Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd eich corff cyllido yn gofyn i chi gael asesiad anghenion i bennu pan gymorth sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd cost yr asesiad anghenion yn cael ei ddiwallu drwy eich Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Mae lwfansau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig llawn-amser a rhai israddedig rhan-amser yn amrywio.

Pryd y gallaf wneud cais?

Gwnewch gais cyn gynted ag y gallwch cyn i'ch cwrs ddechrau er mwyn derbyn taliadau yn brydlon. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am LMA ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs.

Y broses LMA 

Bydd eich Corff Cyllido yn gofyn ichi gynnal Asesiad Anghenion LMA fel y gellir cael eich anghenion penodol ag anghenion eich cwrs arfaethedig, er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr help y bydd ei angen arnoch.

Bydd yr asesiad LMA yn nodi'r mathau o offer a chymorth arall y bydd ei angen arnoch, faint y bydd yn ei gostio ac o ble i'w gael. Bydd hefyd yn nodi unrhyw hyfforddiant y gallai fod ei angen arnoch i wneud y defnydd gorau o'r offer a argymhellir, a manylu ar unrhyw drefniadau arholi arbennig. Bydd cost eich asesiad yn dod o'r LMA.  

Ni ddylech drefnu asesiad LMA heb gadarnhad gan eich Corff Cyllido bod yn cytuno ichi gael asesiad.