Darpariaeth Gofal Plant 

Mae gwasanaethau gofal plant ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cael eu rhedeg gan Active Childcare Ltd, sefydliad arobryn a chanddo enw da am ddarparu safonau gofal ac addysg eithriadol o uchel i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd hamddenol a hapus, tra'n cynnig tawelwch meddwl llwyr i rieni.

Mae Meithrinfa Ddydd Ysgolheigion Bach yn rhan o Ganolfan y Plentyn, y Teulu a Chymdeithas, ac mae'n darparu gofal dydd llawn ar gyfer plant myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ogystal â phlant y cyhoedd. Mae gofal o ansawdd uchel ac addysg blynyddoedd cynnar ar gael i blant o 3 mis i 5 mlwydd oed.

Mae'r ystafelloedd gofal plant yn eang a llachar ac wedi'u dodrefnu a'u paratoi i safon uchel iawn gydag ystafell synhwyraidd bwrpasol sy'n darparu cyfoeth o brofiadau synhwyraidd i blant ag anghenion ychwanegol.

Ceir hefyd dwy ardal chwarae ddiogel a diddorol sy'n cael eu defnyddio fel estyniad i'n cyfleusterau dan do. Cynllunnir gweithgareddau i sicrhau bod datblygiad plant yn cael ei gefnogi trwy weithgareddau chwarae cyffrous a phriodol.

Mae opsiynau llogi hyblyg ar gael.

Cysylltwch ag Active Childcare am ragor o wybodaeth:

Meithrinfa Ysgolheigion Bach

Ffôn: 01978 314912
Ebost: littlescholars@activechildcare.co.uk

Active Childcare Ltd
Ffôn: 01978 661189
Ebost: info@activechildcare.co.uk